2. Rheolau
2.1 Ni ddylai myfyrwyr darfu ar weithgareddau academaidd unrhyw aelod o’r gymuned academaidd nac unrhyw ymwelydd awdurdodedig, nac unrhyw seremoni, cyfarfod nac achlysur cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol na chwaraeon o eiddo’r Brifysgol a gynhelir ar diroedd y Brifysgol nac mewn man arall, boed yr achlysur yn un sy’n agored i’r cyhoedd neu beidio.
2.2 Rhaid i fyfyrwyr beidio â tharfu ar weinyddiaeth na gwaith cyffredinol y Brifysgol.
2.3 Rhaid i fyfyrwyr beidio â dwyn anfri ar y Brifysgol neu achosi unrhyw atebolrwydd ar ran y Brifysgol.
2.4 Ni ddylai myfyrwyr rwystro’r rhai a awdurdodwyd gan y Brifysgol nac ymwelwyr awdurdodedig wrth iddynt gyflawni’u dyletswyddau, eu swyddogaethau, neu weithgareddau eraill.
2.5 Ni ddylai myfyrwyr gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd troseddol yn erbyn myfyriwr/myfyrwraig arall.
2.6 Ni ddylai myfyrwyr gyflawni gweithred a allai olygu fod y Brifysgol yn atebol dan y gyfraith droseddol.
2.7 Rhaid i fyfyrwyr beidio â difrodi, anharddu na chamddefnyddio unrhyw eiddo o’r Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr nac unrhyw gymdeithas neu gorff arall o fyfyrwyr yn y Brifysgol, nac eiddo unrhyw aelod arall o’r gymuned academaidd nac eiddo unrhyw un o weithiwr y Brifysgol.
2.8 Rhaid i fyfyrwyr beidio ag ymgymryd â gweithgareddau sy’n groes i bolisi’r Brifysgol ar Gyfle Cyfartal: https://www.aber.ac.uk/cy/hr/info-staff/employment/equal-opportunities/
2.9 Rhaid i fyfyrwyr beidio:
2.9.1 ag ymddwyn mewn modd treisgar;
2.9.2 ag ymddwyn mewn modd anweddus;
2.9.3 ag ymddwyn mewn modd anhrefnus;
2.9.4 ag ymddwyn mewn modd bygythiol;
2.9.5 â cham-drin myfyrwyr, staff neu unigolion eraill yn llafar neu’n ysgrifenedig.
2.9.6 Rhaid i fyfyrwyr beidio ag ymddwyn fel a ganlyn: aflonyddu, aflonyddu rhywiol, aflonyddu ar sail cyfeiriadedd rhywiol, aflonyddu ar sail hunaniaeth rhywedd, aflonyddu ar sail anabledd, bwlio, stelcian, seiberfwlio, a chamdrin rhywiol.
Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr a gellir canfod bod mathau eraill o ymddygiad yn torri'r Rheolau hyn.
Mae Rheolau 2.9.1 - 2.9.6 cynnwys cyfathrebu drwy e-bost a’r cyfryngau cymdeithasol.
2.10 Rhaid i fyfyrwyr beidio â chymryd na defnyddio heb awdurdod unrhyw beth sy’n eiddo i’r Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr, nac unrhyw gymdeithas arall o fyfyrwyr, nac eiddo unrhyw fyfyriwr, aelod o staff neu ymwelydd awdurdodedig.
2.11 Rhaid i fyfyrwyr beidio â gyrru unrhyw gerbyd o eiddo’r Brifysgol neu a logwyd gan y Brifysgol, gan Undeb y Myfyrwyr na chan unrhyw gymdeithas arall o fyfyrwyr heb ganiatâd swyddog awdurdodedig.
2.12 Tra bo myfyrwyr ar dir y Brifysgol, neu tra byddont yn ymwneud ag unrhyw weithgaredd a berthyn i’r Brifysgol, rhaid iddynt beidio â bod ag unrhyw sylwedd anghyfreithlon yn eu meddiant.
2.13 Ac eithrio clybiau trwyddedig myfyrwyr lle mae’n rhaid i berchnogion gynnau trwyddedig gadw pob gwn wedi’i storio’n ddiogel yng nghabinet gynnau trwyddedig Undeb y Myfyrwyr, rhaid i fyfyrwyr beidio â dod ag arf tanio o unrhyw ddisgrifiad ar unrhyw dir o eiddo’r Brifysgol, nac unrhyw ddryll ffug, copi neu fodel, unrhyw wn awyr/slygiau, gwn haels, gwn Nerf a gwn BB, gwn llonyddu trydan nac unrhyw ddyfeisiau eraill, gan gynnwys gynnau tryfer, pa ffordd bynnag y maent yn saethu unrhyw belenni, bwledi, saethau, bolltau neu daflegrau eraill neu ergydion trydan; nac unrhyw arf arall, na chetris neu fwledi, nac unrhyw ddefnydd ffrwydrol (gan gynnwys tân gwyllt), nac unrhyw ddefnydd sy’n berygl i fywyd, heb gael awdurdod ysgrifenedig rhywun a awdurdodwyd gan Weithrediaeth y Brifysgol.
2.14 Rhaid i fyfyrwyr beidio ag ymgymryd â thwyll, ystryw, ffugio nac anonestrwydd wrth ymwneud â’r Brifysgol, ei staff neu ei myfyrwyr, nac wrth ddal unrhyw swydd yn Undeb y Myfyrwyr.
2.15 Rhaid i fyfyrwyr beidio â defnyddio enw’r Brifysgol na’u swydd yn Undeb y Myfyrwyr neu yn y Brifysgol i ymgymryd â thwyll, ystryw, ffugio nac anonestrwydd.
2.16 Rhaid i fyfyrwyr ddatgelu eu henwau a manylion perthnasol eraill i unrhyw un a gafodd awdurdod priodol gan y Brifysgol mewn amgylchiadau pan fyddo’n rhesymol gofyn am wybodaeth o’r fath.
2.17 Rhaid i fyfyrwyr barchu hawlfraint pob deunydd, gan gynnwys hawlfraint y Brifysgol ei hun neu hawlfraint aelodau’r staff. Ni ddylai deunydd o’r fath (e.e. nodiadau darlith, nodiadau ymchwil, cyhoeddiadau, darlithoedd a recordiwyd) gael eu postio ar y we (gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol o unrhyw fath) heb ganiatâd penodol gan yr aelod priodol o'r staff a/neu Ddirprwy Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Gwybodaeth a Phennaeth y Llyfrgelloedd.
2.18 Ni ddylai myfyrwyr dorri Rheoliadau’r Brifysgol yn gyson fel y nodir hwy isod yn Adran 3.
2.19 Iechyd a Diogelwch
2.19.1 Mae pob myfyriwr o dan rwymedigaeth gyfreithiol i gymryd gofal rhesymol o’u hiechyd a’u diogelwch eu hunain, a diogelwch eraill a allai gael eu heffeithio gan eu gweithredoedd neu’u diffyg gweithredu wrth astudio yn y Brifysgol. Mae’r dyletswyddau a’r disgwyliadau i’r holl fyfyrwyr o ran deddfwriaeth iechyd a diogelwch, megis Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, wedi’u rhestru ym Mholisi Iechyd a Diogelwch y Brifysgol, sydd ar gael yn: https://www.aber.ac.uk/cy/hse/policy/. Mae’n rhaid i bob myfyriwr gydymffurfio â’r rheolau a’r rheoliadau a osodir yn y Polisi hwn a pholisïau a gweithdrefnau perthnasol eraill.
Yn benodol, bydd dyletswyddau cyfreithiol i’r holl fyfyrwyr yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:
- Cymryd rhan mewn hyfforddiant iechyd a diogelwch priodol, yn ôl y gofyn;
- Ymgymryd â, neu gynorthwyo i ymgymryd ag asesiadau risg addas a digonol a/neu ddilyn a chadw at weithdrefnau a mesurau rheoli cysylltiedig;
- Gweithio’n agos â chydweithwyr a myfyrwyr i’w galluogi i gyflawni eu cyfrifoldebau iechyd a diogelwch eu hunain;
- Rhoi gwybod i’r staff goruchwylio am unrhyw sefyllfa, arfer gweithio neu weithdrefn a allai fod yn beryglus yn eu barn hwy;
- Rhoi gwybod yn syth am bob damwain a digwyddiad i’r staff goruchwylio neu unigolyn priodol arall;
- Defnyddio, ond nid camddefnyddio, dillad amddiffynnol, offer neu ddeunyddiau a ddarperir;
- Cydymffurfio â’r rheolau, polisïau a chyfarwyddiadau iechyd a diogelwch a roddir iddynt, ar lafar ac yn ysgrifenedig; a
- Defnyddio peiriannau, cemegau, deunyddiau biolegol ac offer at y dibenion y cawsant eu cynllunio ac yn unol â’r rhagofalon diogelwch priodol.
2.19.2 Rhaid i bob myfyriwr sy’n ymwneud yn rhinwedd ei gwrs â gwaith mewn labordy, neu unrhyw fan arall risg uchel, gadw at y rheolau diogelwch arbennig sy’n berthnasol i’r man hwnnw. Cyhoeddir y rheolau hyn gan y Gyfadran/Adran berthnasol.
2.19.3 Er mwyn cyflawni ei dyletswyddau dan y ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch, mae’r Brifysgol yn rhybuddio israddedigion ac uwchraddedigion ar gyrsiau i beidio â mynd i labordai a mannau eraill risg uchel, ac eithrio yn unol â’r hyn a nodir ar yr amserlen ar gyfer eu cyrsiau. Rhaid i uwchraddedigion ymchwil sy’n gweithio mewn labordai ymchwil gadw at reolau’r Gyfadran/Adran ar fynediad i labordai o fewn oriau gwaith arferol a thu hwnt i’r oriau hynny.
2.19.4 Mae'n drosedd ymyrryd ag unrhyw offer diogelwch tân, a ddarperir er diogelwch pawb yn yr adeiladau ac o'u cwmpas. Mae hyn yn cynnwys defnyddio neu ymyrryd â diffoddwyr tân (ac eithrio os bydd tân), cadw drysau tân yn agored, ymyrryd â'r system larwm tân a symud neu newid unrhyw arwyddion yn ymwneud â diogelwch tân.
2.19.5 Dylai myfyrwyr nodi y byddant yn agored i’w herlyn dan y gyfraith gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch neu gan y Gwasanaeth Tân ac Achub os ydynt yn troseddu yn erbyn y rheol hon.
2.20 Rhyddid i Lefaru
2.20.1 Rhaid fyfyrwyr gydymffurfio â gofynion Cod Ymarfer y Brifysgol ar Ryddid i Lefaru: https://www.aber.ac.uk/en/media/departmental/governance/policies/2020-07-30---Cod-Ymarfer-Rhyddid-i-Lefaru.pdf#:~:text=Cod%20Ymarfer%20Rhyddid%20i%20Lefaru%20Rhagymadrodd%20Mae%20corff,Adran%2043%20o%20Ddeddf%20Addysg%20%28Rhif%202%29%201986.
2.20.2 Tra’n nodi Cod Ymarfer y Brifysgol ar Ryddid i Lefaru, ni ddylai myfyrwyr siarad na gweithredu yn groes i werthoedd Prydeinig sylfaenol, yn cynnwys democratiaeth, rheolaeth y gyfraith, rhyddid personol, a pharch a goddefgarwch tuag at y rheini sydd â ffydd neu gred wahanol.
2.21.1 Rhaid i fyfyrwyr beidio ag annog, cynorthwyo, na chynllwynio gydag unrhyw berson arall i weithredu’n groes i’r rheolau hyn.
2.21.2 Lle honnir bod myfyriwr wedi cyflawni trosedd, ceidw’r Brifysgol yr hawl absoliwt i benderfynu a ddylid gweithredu’r Drefn Ddisgyblu a nodir yn Adran 5 isod, i ohirio’i harchwiliadau tan i’r llysoedd ymdrin â’r achos, neu i adael yr achos yn nwylo’r heddlu.
2.22 Diffiniad
2.22.1 Yr holl dir ac adeiladau a berchnogir gan y Brifysgol, neu a ddelir ganddi, neu sydd ganddi ar brydles neu ar rent, yw’r diffiniad o dir, adeiladau neu eiddo’r Brifysgol.