Rheol Sefydlog 21 - 2
Is-adran o ddogfen fwy o faint yw'r we-ddalen hon. Dylid felly ei darllen yn ei chyd-destun ac nid fel dogfen annibynnol. I weld y ddogfen gyfan ewch i dudalen y ddewislen.
Dyddiadau cau
- 16.
-
Mae dyddiadau cau y Brifysgol ar gyfer cwblhau Gradd Athro wedi eu pennu yn y Rheoliadau. Er hynny, gall Adran bennu dyddiad cynharach ar gyfer cyflwyno traethodau hir; ni fydd unrhyw waith a gyflwynir ar ôl y dyddiad hwnnw yn cael ei arholi a bernir bod yr ymgeisydd wedi methu drwy beidio â'i gyflwyno. Caniateir i ymgeisydd o'r fath, trwy dalu ffi, gyflwyno traethawd hir unwaith yn unig, o fewn deuddeg mis o ddyddiad cau gwreiddiol yr Adran.
Ni ddylid cynghori ymgeisydd sy'n annhebyg o lwyddo i wneud cyflwyniad cyntaf erbyn y dyddiad cau a bennir naill ai i fethu â chyflwyno erbyn y dyddiad penodedig nac i wneud cyflwyniad anghyflawn dim ond er mwyn sicrhau'r cyfnod ailgyflwyno ‘ychwanegol'. Yn hytrach, gellid ystyried a yw'r ymgeisydd yn gymwys - neu beidio - i gael estyniad posibl ar y dyddiadau cau. Mae'r paragraff isod yn disgrifio'r broses hon yn fanwl. - 17.
- Mae'r Brifysgol yn disgwyl y bydd ymgeiswyr yn cyflwyno'u gwaith Rhan Dau erbyn y dyddiad cau a bennir, a bydd ymgeisyddiaeth yn ddi-rym os na chyflwynir y gwaith o fewn dyddiadau cau y Brifysgol. Er hynny, gellir atal ymgeisyddiaeth neu gellir estyn dyddiad cau, yn eithriadol, ar seiliau tosturiol, neu mewn achosion o salwch, anawsterau domestig difrifol neu oherwydd ymrwymiadau proffesiynol eithriadol y gellir dangos eu bod wedi effeithio'n andwyol ar yr ymgeisydd. Rhaid llunio achos llawn a rhesymedig, a ategir â thystiolaeth feddygol neu dystiolaeth annibynnol arall sy'n briodol ac yn foddhaol, i'w ystyried:
- Yn achos ymgeiswyr sy'n gofyn am estyniad ar seiliau tosturiol, rhaid darparu tystiolaeth foddhaol i ategu'r achos; rhaid darparu hefyd ddatganiad clir, sy'n dangos bod yr adran o dan sylw wedi cloriannu sefyllfa'r ymgeisydd a'i bod yn credu bod yr estyniad y gofynnwyd amdano yn briodol. Ble bynnag y bo modd, bydd y cyfryw ddatganiad yn dilyn cysylltiad uniongyrchol rhwng yr ymgeisydd a'r adran.
- Yn achos ymgeiswyr sy'n cyfeirio at ymrwymiadau proffesiynol eithriadol, rhaid i gadarnhad a disgrifiad ysgrifenedig gan y cyflogwr o'r baich gwaith eithriadol sydd ar yr ymgeisydd gael eu rhoi gyda'r cais.
- mewn achosion sy'n deillio o salwch:
- 17.i.
- rhaid darparu tystiolaeth feddygol foddhaol. (Mae maint a natur y salwch fel y'u disgrifir yn y dystysgrif yn amhrisiadwy wrth asesu'r achos.)
- 17.ii
- ii. rhaid darparu datganiad clir, sy'n dangos bod yr adran o dan sylw wedi cloriannu'r sefyllfa a'i bod yn credu bod yr estyniad y gofynnwyd amdano yn briodol. Ble bynnag y bo modd, bydd y cyfryw ddatganiad yn dilyn cysylltiad uniongyrchol rhwng yr ymgeisydd a'r adran.
- 18.
- 18. Rhaid i geisiadau am ataliadau/estyniadau gael eu cyflwyno drwy oruchwyliwr a Phennaeth Adran yr ymgeisydd i Swyddfa'r Deoniaid.
Rhan Un : Cynnydd, Methu ac Adfer
- 19.
- Bydd y Gofrestrfa yn rhoi ffurflen canlyniad arholiad i'r Cynullwyr. Drwy ddefnyddio'r ffurflen hon, a'r codau priodol, gofynnir i'r Cynullwyr nodi wrth ochr enw pob ymgeisydd a yw:
PP | wedi llwyddo yn yr arholiad (Rhan Un) ac yn cael symud ymlaen i Ran Dau; |
PD | wedi llwyddo yn yr arholiad (Rhan Un) ar lefel Rhagoriaeth (os yw'n gymwys) ac yn cael symud ymlaen i Ran Dau; |
PE | wedi llwyddo yn yr arholiad (Rhan Un) ac yn cael symud ymlaen i Ran Dau gyda marc o fwy na 65 % (h.y. mae'r cymhwyster i gael Rhagoriaeth yn parhau os yw'r marc a enillir wedyn yn Rhan Dau yn ddigon uchel - gweler paragraff 14 uchod.) |
UD | yn gymwys ar gyfer dyfarniad Diploma Ôl-raddedig y Brifysgol (os yw'n berthnasol); |
AB | wedi bod yn absennol, neu a oes rhagor o arholiadau i'w sefyll neu i'w hailsefyll, gan gynnwys rhai wedi eu gohirio neu rai wedi eu hatgyfeirio; |
FA | wedi methu Rhan Un yn llwyr (h.y. heb gyfle (pellach) i adfer methiant). |
- 20.
- Cynhelir cyfarfod o'r arholwyr er mwyn ystyried canlyniadau ymgeiswyr yng nghydran arholiad y radd (Rhan Un) ac, yn arbennig, er mwyn argymell i Fwrdd Arholi'r Gyfadran pa ymgeiswyr a gaiff fynd ymlaen i Ran Dau. At y diben hwn, bydd y Bwrdd Arholi yn cynnwys y canlynol:
- Cadeirydd. Mae'n ofynnol i'r Cadeirydd lywyddu mewn unrhyw arholiad llafar y gellir ei gynnal.
- Yr arholydd allanol a benodir ar ran yr Is-Ganghellor i asesu traethawd hir yr ymgeisydd.
- Arholydd mewnol a benodir gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi.
- Arholwyr cynghorol (lle bo'n briodol).
- 21.
- Llywodraethir penodiad arholwyr allanol ar gyfer cynlluniau graddau Athro a ddysgir gan Cod Ymarfer ar gyfer Arholwyr Allanol y Brifysgol. Anfonir copïau o'r ddogfen hon at bob arholydd allanol pan gânt eu penodi ond fel arall mae ar gael oddi wrth Swyddfa'r Deoniaid, neu gellir ei gweld drwy gyfrwng gwefan y Brifysgol
- 22.
- Caiff ymgeisydd, gyda chymeradwyaeth yr Adran, ddechrau ar waith paratoi ar Ran Dau gyda goruchwyliaeth neu heb oruchwyliaeth cyn cwblhau Rhan Un, ond ni chânt gyflwyno gwaith i'w arholi hyd nes ac oni bai eu bod wedi llwyddo yn arholiad Rhan Un y cynllun.
- 23.
- Gellir argymell dyfarnu Diploma Ôl-raddedig berthnasol y Brifysgol i ymgeisydd sydd wedi dilyn cynllun astudio a ddysgir y gellir dyfarnu Diploma Ôl-raddedig y Brifysgol amdano, ac sydd wedi hynny naill ai'n methu â chyflwyno traethawd hir o fewn y terfyn amser a bennir neu sy'n cyflwyno traethawd hir nad yw'n cael ei gymeradwyo gan yr arholwyr. Gellir ôl-ddyddio dyfarniadau Diplomâu o'r fath i'r dyddiad y cwblhaodd yr ymgeisydd Ran Un.
Rhan Dau: Asesu, Methu ac Adfer
- 24.
- Bydd Rhan Dau cynllun gradd Athro yn cymryd ffurf traethawd hir ac eithrio lle y mae math arall o asesiad wedi ei gymeradwyo mewn perthynas â'r cynllun o dan sylw gan y Brifysgol. Dylid cynghori ymgeiswyr sy'n gymwys i gyflwyno gwaith ar gyfer Rhan Dau ddilyn y Nodiadau Cyfarwyddyd ar gyfer Ymgeiswyr a gyhoeddir gan y Gofrestrfa ynghyd â'r ffurflen Hysbysiad Ymgeisyddiaeth, ac mae'n ofynnol iddynt gydymffurfio â Rheoliadau perthnasol y Brifysgol.
- 25.
- Ac eithrio lle pennir yn wahanol, ni ddylai traethawd hir neu gyflwyniad cyfatebol a gymeradwyir fod yn hwy nag 20,000 o eiriau.
- 26.
- Mae'r Gofrestrfa yn anfon ffurflenni canlyniad/adroddiad ffurfiol at Gynullwyr y Byrddau Arholi i'w llenwi gan Fwrdd Arholi Rhan Dau a'u danfon ymlaen at Fwrdd Arholi'r Gyfadran i'w cadarnhau. O dan rai amgylchiadau, a thrwy drefniant gyda'r Gofrestrfa, gellir anfon ffurflen canlyniad/adroddiad gyfansawdd pan fydd Adran yn cyflwyno traethodau hir ar yr un pryd i'w harholi gan un arholydd allanol.
- 27.
- Er ei bod yn arferol i'r un arholydd allanol arholi ymgeisydd ar gyfer Rhan Un a Rhan Dau, gellir penodi arholydd annibynnol i arholi'r traethawd hir (neu'r gwaith cyfatebol a gymeradwyir) pan fydd angen gwybodaeth arbenigol neu arbenigedd.
- 28.
- Lle y bo dadl yn codi rhwng yr arholwr allanol a'r arholwr neu'r arholwyr mewnol, dylai'r Arholwyr a'r Cadeirydd farcio'r Ffurflen Adroddiad a Chanlyniad arferol er mwyn dangos na fu modd i'r Bwrdd gytuno ar argymhelliad. Yna dylid anfon y ffurflen ymlaen at y Gofrestrfa fel y gellir gwneud trefniadau ynghylch penodi Arholwr Dyfarnu Allanol.
Mewn achos o'r fath, mae o fewn pwer yr Is-Ganghellor i droi at arholwr allanol arall y gofynnir iddo neu iddi ddyfarnu. Wrth ddewis Arholwr Dyfarnu Allanol, caiff yr Is-Ganghellor ystyried unrhyw adroddiadau ysgrifenedig a gyflwynir gan aelodau'r Bwrdd Arholi a chaiff hefyd ystyried unrhyw enwebiad a wneir gan y Bwrdd gwreiddiol - ond nid oes yn rhaid iddo neu iddi fod yn rhwym wrtho.
Pan benodir ef neu hi gan yr Is-Ganghellor, bydd yr Arholwr Dyfarnu Allanol yn cael, oddi wrth y Gofrestrfa, gopi o waith yr ymgeisydd ynghyd ag adroddiadau'r arholwyr gwreiddiol a'r ‘Ffurflen Adroddiad a Chanlyniad' a'r ‘Nodiadau ar gyfer Arholwyr Dyfarnu Allanol'.
Wrth ystyried gwaith yr ymgeisydd, gall Arholwr Dyfarnu Allanol ddewis cyfeirio at adroddiadau'r arholwyr gwreiddiol neu beidio (ac, os felly, pryd y gallai wneud). Hefyd gall ddewis cynnal arholiad llafar pellach ac, os cynhelir un, p'un a ellir gwahodd yr arholwyr gwreiddiol i fod yn bresennol ai peidio.
Pan fo'r Arholwr Dyfarnu Allanol wedi gorffen ystyried y gwaith, dylid hysbysu Cadeirydd y Bwrdd Arholi am y canlyniad yn y lle cyntaf. Bydd y Cadeirydd yn trefnu bod ‘Ffurflen Adroddiad a Chanlyniad' newydd yn cael ei llenwi, ei llofnodi a'i dychwelyd i'r Gofrestrfa.
Derbyn i Raddau
- 29.
- Ceir manylion llawn y broses ar gyfer derbyn ymgeiswyr i'w graddau yn Rheol Sefydlog 18 ('Cynulliadau'r Brifysgol a Derbyn Ymgeiswyr i'w Graddau'). Ond yn fyr gellir derbyn ymgeiswyr i'w graddau naill ai:
- 29.i.
- drwy fynychu cynulliad graddio ffurfiol, neu
- 29.ii
- in absentia, drwy ddatganiad gan yr Is-Ganghellor. Gweithdrefn weinyddol yw hon a gyflawnir ar adegau mynych drwy'r flwyddyn.
At ddibenion y cymhwyster, rhaid i'r arholiad fod wedi ei gwblhau a rhaid i Gofrestrfa fod wedi cael argymhelliad y Bwrdd Arholi y dylid dyfarnu'r radd - ar y ffurflen Hysbysiad Ymgeisyddiaeth / Adroddiad a Chanlyniad gyfun - ynghyd â chadarnhad bod pob ffi wedi ei thalu a bod yr ymgeisydd wedi matriciwleiddio, etc.
Mewn perthynas ag ymgeiswyr sy'n dymuno cael eu derbyn i'w gradd mewn cynulliad, rhaid i'r gofyniad uchod fod wedi ei fodloni erbyn dyddiad sy'n ddigon cynnar ym mis Mehefin i ganiatáu i'r Gofrestrfa gynnwys yr ymgeisydd yn rhaglen y cynulliad. Dylai'r sawl sy'n cymryd arholiadau y disgwylir eu canlyniadau yn ystod y cyfnod o dan sylw gysylltu â'r Gofrestrfa'r i gael gwybodaeth am y dyddiad olaf ar gyfer gwneud hyn.
Apeliadau
- 30.
- Caniateir i ymgeiswyr sy'n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad yr arholwyr wneud hynny o dan delerau Gweithdrefn Gwirio ac Apelio'r Brifysgol. (Mae'r Weithdrefn yn cael ei dosbarthu i ymgeiswyr am arholiadau'r Brifysgol adeg cofrestru.)
Arferion Annheg
- 31.
- Y mae'n arfer annheg cyflawni gweithred lle y gallai unigolyn gael mantais nas caniateir iddo/iddi ei hun neu i berson arall, a fyddai'n arwain at farc neu radd uwch nag a fyddai'n bosibl o ddibynnu ar ei alluoedd/galluoedd ei hyn yn unig.
Ymdrinnir â honiadau o arfer annheg o dan 'Weithdrefn Ymddygiad Annheg' y Brifysgol.
Dyfarniadau Aegrotat/Ar ôl Marwolaeth
Mae'r Brifysgol wedi sefydlu Rheoliadau y gellir rhoi dyfarniadau aegrotat neu ddyfarniadau ar ôl marwolaeth o danynt.
November 2005