Rheol Sefydlog 21
Is-adran o ddogfen fwy o faint yw'r we-ddalen hon. Dylid felly ei darllen yn ei chyd-destun ac nid fel dogfen annibynnol. I weld y ddogfen gyfan ewch i dudalen y ddewislen.
Ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs Ôl-raddedig a Addysgir o fis Medi 2013 ymlaen Rheol Sefydlog 2 sydd yn berthnasol.
Graddau Athro drwy Arholiad a Thraethawd Hir
Mae'r Rheol Sefydlog hon yn gymwys i gynlluniau astudio sy'n arwain at ddyfarnu graddau Athro a ddysgir. Dylid ei darllen ar y cyd â'r rheoliadau sydd wedi eu cymeradwyo ar gyfer y cynllun astudio o dan sylw.
Mynediad
- 1.
- Yn unol â'r Rheoliadau Matricwleiddio, mae'r Brifysgol yn darparu rhestr o raddau cychwynnol a gydnabyddir fel rhai sy'n cyfateb i'w graddau ei hun, ynghyd â manylion y cymwysterau hynny nad ydynt yn gymwysterau graddedig ond a fydd serch hynny yn caniatáu mynediad i ymgeisyddiaeth (Rheoliadau: ‘Cymeradwyo Cymwysterau a Phrofiad Perthnasol i Dderbyn Personau i Ymgeisyddiaethau am Raddau Uwch a Diplomâu Prifysgol Cymru, Aberystwyth').
Rhaid i argymhelliad o blaid derbyn ymgeisydd nad yw'n meddu ar gymhwyster mynediad cydnabyddedig gael ei wneud gan yr adran o dan sylw i'r Swyddfa Derbyn Graddedigion, a rhaid cael cadarnhad bod yr argymhelliad wedi ei gymeradwyo cyn i'r cynllun astudio arfaethedig ddechrau. - 2.
- Gall ymgeiswyr heb radd sy'n 25 oed neu drosodd adeg cofrestru neu cyn cofrestru ac sydd wedi dal swydd gyfrifol, am ddwy flynedd o leiaf, sy'n berthnasol i'r cynllun sydd i'w ddilyn gael eu cymeradwyo ar y sail honno. (Nid yw'n ofynnol cael achosion arbennig ar ran y cyfryw ymgeiswyr. Yn yr un modd, ni fydd y Brifysgol yn ystyried achosion arbennig a wneir ar ran ymgeiswyr sydd heb gyrraedd 25 oed adeg cofrestru.)
Strwythur y Cynllun
- 3.
- Gall ymgeiswyr ymgymhwyso ar gyfer Gradd Athro drwy Arholiad a Thraethawd Hir ar ôl dilyn cynllun astudio wedi ei ddysgu a gymeradwyir a hynny yn amser llawn neu yn rhan-amser. Bydd i gynllun ddwy ran neilltuol: Rhan Un, sef cymryd arholiadau ysgrifenedig (neu ryw fath arall o asesiad) a Rhan Dau, sef cyflwyno traethawd hir (neu waith cyfatebol a gymeradwyir), er boddhad yr arholwyr a'r Brifysgol.
Trosglwyddo Credydau
- 4.
- Caniateir Trosglwyddo Credydau mewn perthynas â chynlluniau astudio modiwlar hyd at y terfynau cyffredinol sydd wedi eu sefydlu yn y Rheoliadau. Gellir cael rhagor o wybodaeth am broses trosglwyddo credydau o dan y system fodiwlar yng Nghynllun CAT y Brifysgol, y mae copïau ohono ar gael oddi wrth y Gofrestrfa drwy wneud cais amdanynt.
Asesu
- 5.
- Mae Rhan Un yn cynnwys asesiadau uwch a osodir ar yr elfen honno o'r cynllun astudio sy'n cael ei ddysgu. Gall asesiadau gymryd ffurf cyfres o bapurau arholiad ysgrifenedig nas gwelwyd neu math arall o asesiad, megis prosiectau gosod neu waith cwrs penodedig, neu gyfuniad o unrhyw rai o'r rhain. Ar gyfer cynlluniau graddau Athro Modiwlar, bydd Rhan Un yn gyfres o fodiwlau, y gellir eu harholi drwy ddefnyddio amryfal fathau o asesu a hynny yn unol ag amserlen arholi a bennir gan y Bwrdd Arholi perthnasol. Bydd Rhan Dau yn cymryd ffurf traethawd hir (neu waith cyfatebol a gymeradwyir).
- 6.
- Caiff ymgeiswyr eu hasesu yn y Brifysgol ac eithrio, o dan amgylchiadau eithriadol, y caiff ymgeiswyr, gyda chymeradwyaeth yr Is-Ganghellor, sefyll arholiad ysgrifenedig mewn Sefydliad arall neu, o dan amodau a gymeradwyir, mewn man heblaw Sefydliad arall. Gellir rhoi cymeradwyaeth ar yr amod y gall Arolygydd yr Arholiadau o dan sylw wneud trefniadau boddhaol ar gyfer yr arholiad ac y caiff unrhyw dreuliau eu talu gan yr ymgeisydd. Bydd Arolygydd yr Arholiadau yn cyflwyno rhestr o'r cyfryw achosion yn ei (h)adroddiad i'r Brifysgol ar ddiwedd y cyfnod arholi. Ni chaiff ymgeiswyr, mewn unrhyw achos, gymryd arholiad ymarferol mewn unrhyw Sefydliad arall. At ddibenion y paragraff hwn bernir nad yw arholiad ymarferol yn cynnwys ymarfer dysgu neu leoliadau tebyg.
- 7.
- Bydd y Brifysgol yn hysbysu pob ymgeisydd (gan gynnwys y rhai sy'n ailsefyll arholiadau) yn ysgrifenedig ar ddechrau'r sesiwn perthnasol am y dulliau asesu sydd i'w defnyddio ar gyfer Rhan Un y radd, gan gynnwys y dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno darnau o waith i'w asesu.
- 8.
- Caiff papurau arholiad eu hargraffu o fewn y Brifysgol.
- 9.
- Rhaid i fyfyrwyr y mae arnynt angen addasiadau ar gyfer eu hasesiadau gyflwyno cais ysgrifenedig, yn y lle cyntaf, i'r swyddog dynodedig yn y Brifysgol, fel arfer y Swyddog Arholiadau Adrannol. Rhaid i'r swyddog ymgynghori â'r Arolygydd Arholiadau erbyn dyddiad cau a bennir gan y Brifysgol. Rhaid cael tystiolaeth ddogfennol i ategu'r cais. Mewn ymgynghoriad â'r Arolygydd Arholiadau, caiff y swyddog dynodedig anwybyddu ceisiadau am ddarpariaeth arbennig os nad oes tystiolaeth ddogfennol briodol i'w hategu.
- 10.
- Caiff ymgeiswyr â nam corfforol sy'n golygu eu bod yn methu ag ysgrifennu ateb papurau drwy gyfrwng amanuensis neu drwy ddull priodol arall. Rhaid i unrhyw amanuensis neu offer gael ei ddewis gan yr Arolygydd Arholiadau drwy ymgynghori â'r Pennaeth Adran. Os bwriedir defnyddio prosesydd geiriau neu ficro-ysgrifennwr, dylid rhoi disg newydd i'r ymgeisydd ar ddechrau pob arholiad. Ym mhob achos, rhaid cynnal yr arholiad mewn ystafell ar wahân o dan arolygiaeth gwyliwr wedi ei enwebu.
- 11.
- Os yw'r swyddog dynodedig y cyfeirir ato ym mharagraff 9 yn cytuno y dylai myfyriwr neu fyfyrwraig gael addasiad i'w hasesiadau, rhaid i'r cais (wedi ei ategu â chopïau o'r dystiolaeth ddogfennol a ddarparwyd) gael ei anfon at yr Arolygydd erbyn dyddiad cau a bennir gan y Brifysgol. Yn achos ymgeiswyr sydd â dyslecsia, rhaid derbyn adroddiad wedi ei ddyddio o fewn tair blynedd i ddyddiad mynediad yr ymgeisydd i'r cynllun astudio, gan seicolegydd cymwysedig sydd â phrofiad o weithio gydag oedolion dyslecsig neu gan rywun sydd â chymhwyster o gwrs hyfforddiant proffesiynol yn ymwneud ag asesu oedolion sydd â dyslecsia.
- 12.
- Caiff unrhyw ymgeisydd sy'n dilyn cynllun astudio yn y Brifysgol ddewis cyflwyno sgriptiau arholiad neu waith i'w asesu yn y Gymraeg neu'r Saesneg - ni waeth ai'r Gymraeg ynteu'r Saesneg yw prif iaith asesu'r cynllun o dan sylw. Mae'n ofynnol i ymgeiswyr sy'n dymuno cael eu hasesu mewn iaith (h.y. naill ai'r Gymraeg neu'r Saesneg) heblaw prif iaith yr hyfforddi/asesu ar gyfer y cynllun o dan sylw hysbysu Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg erbyn y dyddiad cau a bennir gan y Brifysgol.
Bydd swyddog dynodedig y Brifysgol yn cysylltu â'r Arolygydd Arholiadau ynghylch:
- darparu papurau cwestiwn drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg;
- y trefniadau angenrheidiol ar gyfer cyfieithu a/neu farcio sgriptiau mewn pryd i ganlyniadau'r ymgeiswyr gael eu cynnwys ar y ffurflen Hysbysu Canlyniadau swyddogol;
- Cyflogi person neu bersonau addas i weithredu fel arholwyr ymgynghorol neu (am ffi a gymeradwyir) fel cyfieithwyr.
Marciau Llwyddo/Rhagoriaeth
- 13.
- Wrth roi marciau i ymgeiswyr sydd wedi gorffen Rhan Un cynllun modiwlar, gofynnir i'r arholwyr gofio mai 50% yw'r marc llwyddo modiwlar. Mae'r marc pasio cyffredinol ar gyfer Rhan Un hefyd wedi ei bennu yn 50%; bydd yr arholwyr yn gwybod y bydd marc o 50% ar Lefel M (Lefel 7 CQFW) yn dynodi safon o waith sydd o reidrwydd yn uwch na'r hyn a awgrymir gan farc tebyg a enillir ar Lefel is.
- 14.
- Wrth gyflwyno'r fformiwla sy'n rheoleiddio cymhwyster i gael gradd gyda Rhagoriaeth, yr oedd y Brifysgol yn awyddus i ganiatáu i ymgeiswyr a fu'n fwy llwyddiannus yn Rhan Dau nag yn y gydran a arholir - Rhan Un - fod yn gymwys i gael Rhagoriaeth drwyddi draw ar yr amod bod y marc agregedig a enillir yn 70% neu'n fwy. Mae'n dilyn felly na all ymgeiswyr sy'n ennill marc o 70% neu fwy yn Rhan Un, ond 69% neu lai yn Rhan Dau gael eu hystyried yn gymwys i gael Rhagoriaeth drwyddi draw. Fodd bynnag, byddant yn gymwys i dderbyn Teilyngdod os yw eu cyfartaledd drwyddi draw yn 60% neu fwy.
Gall y canlynol fod o gymorth wrth ystyried a yw ymgeisydd yn gymwys ar gyfer dyfarniad gradd Athro gyda Rhagoriaeth:
Marc Rhan Un | Mae'r ymgeisydd yn gymwys i gael Rhagoriaeth: |
---|---|
65% | os yw marc Rhan Dau yn 75% neu fwy; |
66% | os yw marc Rhan Dau yn 74% neu fwy; |
67% | os yw marc Rhan Dau yn 73% neu fwy; |
68% | os yw marc Rhan Dau yn 72% neu fwy; |
69% | os yw marc Rhan Dau yn 71% neu fwy; |
70% | os yw marc Rhan Dau yn 70% neu fwy; |
Nodiadau:
- i
- ni chaniateir i ymgeiswyr sydd wedi methu elfen y traethawd hir gyda'u cyflwyniad cyntaf fod yn gymwys ar gyfer dyfarniad Rhagoriaeth wedyn;
- 15.
- Rhaid i gymhwyster neu ddiffyg cymhwyster ymgeisydd am ddyfarniad Rhagoriaeth gael ei bennu'n glir ar y ffurflen canlyniad arholiad ar gyfer Rhan Un y cynllun ac ar y ffurflen canlyniad/adroddiad ar gyfer Rhan Dau. Os dywedwyd 'PE' am yr ymgeisydd mewn perthynas â Rhan Un (gweler paragraff 19 isod) gall fod angen cyfrifo cymhwyster yr ymgeisydd i gael Rhagoriaeth drwyddi draw cyn i'r ffurflen canlyniad arholiad gael ei dychwelyd i'r Gofrestrfa. (Os eithriwyd ymgeisydd rhag rhan o'r cynllun o dan drefniadau trosglwyddo credydau, caiff y Bwrdd Arholi gael asesiad o safon y gwaith a gwblhawyd gan yr ymgeisydd cyn trosglwyddo, er mwyn cyrraedd marc canran neu radd gyfatebol gyffredinol ar gyfer y rhan berthnasol o'r cynllun.