Rheoliadau Doethuriaethau Hŷn
CYFLWYNIAD
At ddibenion y Rheoliadau ar gyfer dyfarnu Doethuriaethau Hŷn, mae’r Brifysgol wedi diffinio “gwaith cyhoeddedig” fel cynnyrch ymchwil sydd ar gael yn gyhoeddus.
Gweler isod y rheoliadau ar gyfer dyfarnu’r doethuriaethau hŷn canlynol:
• Doethur mewn Llên (DLitt);
• Doethur mewn Gwyddoniaeth (DSc);
• Doethur yn y Cyfreithiau (LLD)
RHEOLIADAU
1. Cymhwyster
1.1 Fel arfer bydd ymgeisydd am ddoethuriaeth hŷn a ddyfernir gan y Brifysgol yn Raddedig o’r Brifysgol ers o leiaf ddwy flynedd. Gellir derbyn ymgeiswyr yn ystod neu ar ôl:
(i) yr ail flwyddyn wedi iddynt ennill gradd Doethur mewn Athroniaeth;
(ii) y drydedd flwyddyn wedi iddynt ennill gradd Athro mewn Athroniaeth;
(iii) neu’r ddegfed flwyddyn wedi iddynt ennill gradd Baglor yn unrhyw Gyfadran.
1.2 Mae hawl gan aelodau amser llawn o staff addysgu, ymchwil, gweinyddol, llyfrgell neu dechnegol y Brifysgol sy’n raddedig o Brifysgol arall i fod yn ymgeisydd:
(i) cyhyd â’u bod wedi ennill eu gradd gyntaf o leiaf ddeng mlynedd yn flaenorol, a
(ii) cyhyd â’u bod yn aelodau amser llawn o staff y Brifysgol ers pum mlynedd o leiaf.
2. Meini Prawf
2.1 Amod gofynnol derbyn ymgeiswyr i’r radd yw bod eu gwaith cyhoeddedig ym marn y Brifysgol yn arwyddocaol yn rhyngwladol ac yn gyfraniad sylweddol i hyrwyddo dysg. Gellir seilio ymgeisyddiaeth ar waith ar y cyd cyhyd ag y gellir amcangyfrif cyfran yr ymgeisydd o’r gwaith hwnnw a bod modd cymhwyso ar ei gyfer y meini prawf a ddefnyddir wrth gloriannu gwaith annibynnol
3. Cyflwyno
3.1 Rhaid cyflwyno Ffurflen Rhybudd o Ymgeisyddiaeth Ffurflen Gais DSc i’r Is-Ganghellor, ynghyd â thri chopi o bob un o’r gweithiau cyhoeddedig, a thri set o’r dogfennau canlynol:
(i) manylion am raddau’r ymgeisydd, cymwysterau eraill a phrofiad ymchwil, gan gynnwys yr holl fanylion angenrheidiol i gadarnhau ei fod yn gymwys o dan reoliadau’r Brifysgol;
(ii) crynodeb, pedair neu bum tudalen o hyd, yn rhoi gwybodaeth am y maes neu’r meysydd y mae’r ymgeisydd wedi arbenigo ynddo/ynddynt, ac yn nodi hefyd y cyfraniad a wnaeth y gwaith i ddysg y maes hwnnw yn eu barn hwy;
(iii) os yw’r ymgeisydd yn gydawdur ar y gwaith neu wedi cyd-weithio ag eraill, datganiad wedi ei lofnodi gan bawb a gydweithiodd yn nodi natur a chyfran y gwaith a wnaed ar y cyd.
(iv) datganiad yn nodi faint o’r gwaith a gyflwynwyd neu sy’n cael ei gyflwyno ar hyn o bryd mewn ymgeisyddiaeth am unrhyw radd arall, os o gwbl.
3.2 Yn ôl doethineb y Pwyllgor Doethuriaethau Hŷn, gellir gofyn i’r ymgeisydd ddod i gyfweliad.
3.3 Gellir cyflwyno rhybudd ymgeisyddiaeth ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd, ond os yw’n cael ei gyflwyno ar ôl 31 Ionawr, fel arfer ni chaiff canlyniad yr ymgeisyddiaeth ei bennu ar ddyddiad a’i gwna yn bosibl i’r ymgeisydd, os yw’n llwyddiannus, gael ei dderbyn/derbyn i radd yn ystod y flwyddyn academaidd honno.
3.4 Caiff un copi o bob gwaith a gymeradwyir gan y Pwyllgor Mewnol ei osod yn Llyfrgell y Brifysgol ac un arall yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.
3.5 Rhaid anfon ffi mynediad yr ymgeisyddiaeth (£2,000) at yr Is-Ganghellor, ynghyd â’r ffurflen swyddogol o rybudd o ymgeisyddiaeth.
4. Arholi
4.1 Caiff Gradd Doethuriaeth Hŷn ei dyfarnu ar sail cyhoeddiadau’r ymgeisydd (fel arfer yr ugain cyhoeddiad mwyaf arwyddocaol neu nifer llai os yw’r cyhoeddiadau ar raddfa a chwmpas priodol).
4.2 Caiff cais ymgeisydd i’w dderbyn i Radd Doethuriaeth Hŷn ei graffu yn gyntaf gan y Pwyllgor Doethuriaethau Hŷn a bydd y swyddogaeth hon yn cwmpasu 3 cham:-
d) (a) Archwilio cefndir cychwynnol i ganfod a all y cais fynd yn ei flaen
(b) Cyfathrebu â’r canolwyr allanol (a ddewisir gan y Pwyllgor Doethuriaethau Hŷn)
(d) Trafod sylwadau’r canolwyr a phenderfyniad terfynol ar ddyfarnu’r Radd Doethuriaeth Hŷn
4.3 Os yw’r Pwyllgor Doethuriaethau Hŷn yn cytuno y gall cais fynd yn ei flaen, bydd y Pwyllgor Doethuriaethau Hŷn yn dethol tri chanolwr allanol i arholi datganiad a chyhoeddiadau’r ymgeisydd. Os yw’r Pwyllgor Doethuriaethau Hŷn yn pennu na chaiff cais fynd yn ei flaen, caiff 75% o’r ffi ragnodedig ei ad-dalu.
4.4 Bydd y Pwyllgor Doethuriaethau Hŷn yn pennu a yw amodau dyfarniad Gradd Doethuriaeth Hŷn wedi’u diwallu yng ngoleuni adroddiadau unigol y tri chanolwr allanol.
5. Hysbysu Canlyniadau a Dyfarnu’r Radd
5.1 Bydd Cadeirydd y Pwyllgor Doethuriaethau Hŷn yn hysbysu pob ymgeisydd a oes argymhelliad i ddyfarnu’r radd ai peidio.
5.2 Bydd diploma dan Sêl Prifysgol Aberystwyth yn cael ei ddanfon i bob ymgeisydd y dyfarnwyd iddo Radd Doethuriaeth Hŷn.
5.3 Os cyflwynir fersiwn electronig o gyflwyniad Gradd Doethuriaeth Hŷn i’r Llyfrgell, bydd y Llyfrgell yn ychwanegu copi o’r cyflwyniad Gradd Doethuriaeth Hŷn, yn cynnwys adolygiad yr awdur, rhestr o’r cynnwys a llyfryddiaeth i Porth Ymchwil Aberystwyth lle bydd ar gael yn rhydd i bawb. Bydd Archifau’r Brifysgol yn ychwanegu copi print o’r cyflwyniad y dyfarnwyd Gradd Doethuriaeth Hŷn iddo i’w casgliad. Mae’r Llyfrgell yn argymell bod yr awdur hefyd yn ychwanegu copi o bob un o’r gweithiau cyhoeddedig i’r Radd Doethuriaeth Hŷn (yn ddarostyngedig i reoliadau hawlfraint).
5.4 Gweithdrefn Apêl: yr ymgeisydd i ysgrifennu at yr Is-Ganghellor yn amlinellu’r anghysondeb gweithdrefnol honedig.
6. Ailgyflwyno i Arholi
Bydd unrhyw ymgeisydd sy’n methu â chymhwyso am ddyfarniad Gradd Doethuriaeth Hŷn ac sy’n dymuno ailgyflwyno am y radd yn gorfod cydymffurfio â’r rheoliadau a fydd mewn grym ar yr adeg honno.