Rheoliadau ar gyfer Dychwelyd i Ymarfer (Nyrsio Oedolion)
1. Bydd Prifysgol Aberystwyth yn rhoi gwybod i'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth pan fydd myfyrwyr wedi cwblhau 60 credyd o fodiwlau dychwelyd i ymarfer yn llwyddiannus.
2. Mae'n rhaid i fyfyrwyr basio pob asesiad sy’n rhan o’r cymhwyster ym mhob modiwl.
3. Marc pasio’r modiwlau fydd 40%. Yn unol â disgresiwn y Bwrdd Arholi, bydd myfyrwyr yn cael UN cyfle i ailsefyll. Dim ond marc pasio isaf pob modiwl y byddant yn gymwys i’w gael, waeth beth yw safon eu perfformiad. Mae’n bosibl y bydd Byrddau Arholi yn cynnig cyfleoedd ychwanegol i ailsefyll pan dderbynnir bod amgylchiadau arbennig wedi effeithio ar berfformiad.
4. Bydd myfyrwyr sy'n absennol o arholiadau heb reswm neu esboniad da, neu sy'n methu oherwydd nad oeddent wedi cyflwyno gwaith i’w asesu o dan reolau a ddiffinnir gan y Brifysgol, yn cael eu cosbi yn unol â’r drefn a bennir gan y Brifysgol. Gyda chymeradwyaeth y Bwrdd Arholi, gall y rhai sydd wedi methu asesiadau’r modiwl, neu heb fod yn bresennol ar eu cyfer, am resymau meddygol neu dosturiol neu am resymau arbennig eraill, gael yr hawl i ailsefyll am y marc llawn. Gall y myfyrwyr hynny ddewis ailsefyll y modiwl(au) perthnasol ar ddiwedd pob modiwl.
5. Yn amodol ar baragraff 3 uchod, pan fydd myfyriwr wedi methu modiwl yn gyffredinol ond wedi pasio rhai elfennau wedi'u hasesu, bydd y marciau a gafwyd yn yr elfennau hynny fel arfer yn cael eu trosglwyddo i unrhyw ailsefyll.
6. Rhaid i fyfyrwyr Dychwelyd i Ymarfer gwblhau'r 60 credyd yn llawn, gan gynnwys unrhyw ymdrechion ailsefyll, o fewn 27 wythnos.
7. Dim ond UN cyfle y bydd myfyrwyr yn ei gael i gwblhau'r cwrs Dychwelyd i Ymarfer gwerth 60 credyd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
8. Bydd Adrannau yn cadw sgriptiau arholiadau a gwaith arall a aseswyd am o leiaf chwe mis ar ôl i ymgeiswyr gwblhau eu modiwlau.