Rheoliadau ar gyfer Graddau Doethurol Proffesiynol ac ar sail Ymarfer drwy Arholiad a Thraethawd Ymchwil neu Bortffolio
Mae’r rheoliadau hyn yn ymwneud â dyfarnu Graddau Doethurol drwy Arholiad a Thraethawd Ymchwil (Doethuriaethau Proffesiynol – DProf – neu ddyfarniad ac iddo enw penodol) ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dyfernir Doethuriaethau Proffesiynol ac ar sail Ymarfer i gydnabod bod rhaglen astudio gymeradwy drwy gwrs, ynghyd ag astudiaethau pellach ac ymchwil, wedi’u cwblhau’n llwyddiannus.
Mae prosiectau ymchwil doethuriaethau proffesiynol fel arfer wedi’u lleoli ym mhroffesiwn neu ymarfer yr ymgeisydd. Mewn doethuriaethau ymarferwyr neu ar sail ymarfer mae ffrwyth gwaith yr ymgeisydd yn cynnwys deunyddiau sy’n gysylltiedig ag ymarfer. Er enghraifft, yn y celfyddydau perfformio, mae’r cynnyrch yn cynnwys elfen ysgrifenedig, sy’n cyd-fynd â’r elfen sy’n seiliedig ar ymarfer (gall fod yn fyrrach na thraethawd hir PhD traddodiadol, ac mae’n cynnwys myfyrio a chyd-destun), ac un neu ddwy o elfennau eraill, megis nofel (ar gyfer ysgrifennu creadigol), portffolio o waith (ar gyfer celf a dylunio), neu un neu fwy o ddarnau perfformio (ar gyfer astudiaethau theatr, dawns neu gerddoriaeth).
Mae doethuriaethau proffesiynol wedi’u gwreiddio mewn disgyblaeth academaidd yn ogystal ag mewn proffesiwn (addysg, peirianneg, y gyfraith ac yn y blaen). Mae ymgeiswyr y mae eu hymchwil yn deillio o ymarfer yn unig, nad ydynt yn gweithio mewn maes proffesiynol academaidd-gysylltiedig ac sy’n treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn dysgu yn eu hamgylchedd gweithio yn hytrach na gyda’r darparwr addysg uwch yn fwy tebygol o gwblhau doethuriaeth ar sail ymarfer. Yn lleoliadau’r doethuriaethau proffesiynol ac ar sail ymarfer fel ei gilydd, gall ymchwil yr ymgeisydd arwain yn uniongyrchol at newid sefydliadol neu newid sy’n gysylltiedig â pholisi.
Bwriedir i’r rheoliadau alluogi gweithwyr proffesiynol cymwysedig i ymroi i Ddatblygu Proffesiynol Parhaus (DPP) ar lefel uchel ac astudio ar gyfer gradd Meistr a hyd at lefel doethuriaeth a pharhau i fod yn gyflogedig a chadw cysylltiad agos â’u proffesiwn/gweithle ar yr un pryd.
Dyfernir graddau o’r fath i fyfyrwyr sydd wedi dangos:
eu bod wedi creu a dehongli gwybodaeth newydd, drwy waith ymchwil gwreiddiol neu ysgolheictod uwch arall, y mae ei ansawdd yn bodloni adolygiadau gan gymheiriaid, yn ymestyn ffiniau’r ddisgyblaeth, ac yn teilyngu cael ei gyhoeddi neu ei gynhyrchu;
eu bod wedi caffael a deall yn systematig gorff sylweddol o wybodaeth sydd ar flaen y gad mewn disgyblaeth academaidd neu faes ymarfer proffesiynol neu sy’n debygol o arwain at newid proffesiynol neu sefydliadol yng ngweithle/proffesiwn yr ymgeisydd;
gallu cyffredinol i gysyniadoli, cynllunio a chyflwyno prosiect i greu gwybodaeth, cymwysiadau neu ddealltwriaeth newydd sydd ar flaen y gad yn y ddisgyblaeth, ac i addasu cynllun y prosiect yn sgil problemau annisgwyl;
dealltwriaeth fanwl o dechnegau y gellir eu defnyddio mewn gwaith ymchwil ac ymchwiliadau academaidd uwch.
Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu:
llunio barn ar sail gwybodaeth am faterion cymhleth mewn meysydd arbenigol, yn aml heb ddata cyflawn, a gallu cyfleu eu syniadau a’u casgliadau’n glir ac yn effeithiol i gynulleidfaoedd o arbenigwyr a rhai nad ydynt yn arbenigwyr;
arfer hunangyfeirio a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys, a gweithio ar eu pen eu hunain i gynllunio a rhoi tasgau ar waith ar lefel broffesiynol neu lefel gyfatebol;
parhau i wneud gwaith ymchwil a datblygu pur a/neu gymwysedig ar lefel uwch, gan gyfrannu’n sylweddol at ddatblygu gwybodaeth, technegau, syniadau neu ddulliau newydd.
Bydd deiliaid graddau doethurol wedi cwblhau hyfforddiant ymchwil a fydd yn rhoi iddynt y nodweddion a’r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer byd gwaith, sef:
gweithio o’u pen a’u pastwn eu hunain ac arfer cyfrifoldeb personol;
gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy mewn amgylcheddau proffesiynol neu gyfatebol;
y gallu i ddysgu’n annibynnol sy’n angenrheidiol ar gyfer datblygu proffesiynol parhaus.
Wrth farnu teilyngdod gwaith a gyflwynir ar gyfer Graddau Doethurol drwy Arholiad a Thraethawd Ymchwil neu Bortffolio (DProf), bydd arholwyr yn cadw mewn cof safon a chwmpas y gwaith y mae disgwyl yn rhesymol i fyfyriwr galluog a diwyd ei gyflwyno ar ddiwedd y cyfnod o astudio cofrestredig.
Asesir doethuriaethau proffesiynol ac ar sail ymarfer drwy gyflwyno traethawd ymchwil neu bortffolio, ac arholiad llafar unigol ('viva' neu 'viva voce').
Wrth asesu doethuriaethau proffesiynol a/neu ar sail ymarfer, gall meini prawf arholwyr gynnwys i ba raddau y mae’r ymgeisydd yn deall technegau cyfredol yn y pwnc, er enghraifft drwy ymroi i ddulliau ymchwil a’u defnyddio, a’r ffordd y maent yn llywio ymarfer proffesiynol.
Yn achos doethuriaethau proffesiynol, mae cwblhau’r radd yn llwyddiannus fel arfer yn arwain at newid proffesiynol a/neu sefydliadol sy’n aml yn uniongyrchol yn hytrach nag yn digwydd drwy weithredu canlyniadau ymchwil dilynol.
Ar ôl cwblhau gradd Ddoethurol, bydd graddedigion wedi cyrraedd Lefel 8, fel y’i diffinnir yn Fframweithiau’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch Cyrff Dyfarnu Graddau’r DU, Hydref 2014.
Y Rheoliadau:
1. Caiff ymgeisydd am Radd Doethur trwy Arholiad a Thraethawd Ymchwil astudio am y radd trwy ddilyn rhaglen astudio ac ymchwil amser llawn neu ran amser. Rhaid i ymgeiswyr fod mewn swydd berthnasol neu ymarfer proffesiynol perthnasol.
2. Gall ymgeiswyr gymhwyso ar ôl cwblhau’n llwyddiannus raglen a ddysgir drwy gwrs a rhaglen ymchwil gymeradwy naill ai’n llawn amser neu’n rhan amser.
3. Rhaid i bob ymgeisydd am Radd Ddoethurol drwy Arholiad a Thraethawd Ymchwil fod wedi ennill un o’r cymwysterau isod cyn dechrau’r cwrs:
• gradd gyntaf o Brifysgol Aberystwyth;
• gradd gyntaf o Brifysgol arall a gymeradwywyd at y diben hwn;
• cymhwyster nad yw’n radd y mae’r Brifysgol wedi pennu ei fod yn gyfwerth â gradd.
Waeth beth fo cymwysterau’r ymgeisydd, mae’n rhaid i’r Brifysgol ei bodloni ei hun fod yr ymgeisydd wedi cyrraedd y safon academaidd angenrheidiol i gwblhau’r rhaglen astudio arfaethedig drwy gwrs ac ymchwil.
4. Rhaid i bob ymgeisydd gofrestru yn y Brifysgol, talu’r ffioedd priodol a bennwyd a dilyn y cynllun dysgu ac ymchwil am o leiaf y cyfnod a bennir isod:
- Ymgeiswyr llawn amser: o leiaf dair blynedd;
- Ymgeiswyr rhan amser: o leiaf bum mlynedd.
Pan fydd ymgeiswyr yn ymuno â chynllun a hwythau eisoes yn bodloni gofynion Rhan Un, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, drwy fod wedi cwblhau gradd Meistr, cwtogir y terfynau amser yn unol â’r credydau a gwblhawyd a’r cyfnod cofrestru blaenorol fel bod yr ymgeisydd, yn gyfan gwbl, yn cofrestru ac yn talu ffioedd am y cyfnodau lleiaf a nodir isod.
5. Bydd gofyn i ymgeiswyr eu cyflwyno’u hunain i’w harholi mewn dwy ran.
6. Yn Rhan Un bydd ymgeiswyr yn dilyn rhaglen astudio drwy gwrs (a all gynnwys cyfnodau o ymarfer a hyfforddiant proffesiynol/diwydiannol cymeradwy), ynghyd â rhaglen ymchwil am y cyfnod penodedig. Gan amlaf bydd hyn yn cynnwys 60 o gredydau drwy gwrs a phortffolio o waith neu draethawd ymchwil (tua 20,000 o eiriau) sy’n gyfwerth â 120 o gredydau. Mae’n rhaid i gredydau drwy gwrs gynnwys elfen o hyfforddiant ymchwil. Gall y Brifysgol ganiatáu eithriadau (ar sail cymwysterau uwchraddedig neu broffesiynol achrededig blaenorol) o elfennau penodedig o Ran Un y cynllun.
7. Bydd arholiadau Rhan Un yn cynnwys asesiadau ar lefel uwch mewn meysydd astudio a bennir yn Rheoliadau’r Rhaglen. Bydd yr arholiadau hyn yn cynnwys cloriannu’r ymarfer a’r hyfforddiant proffesiynol a gall fod ar ffurf papurau arholiad ysgrifenedig heb eu gweld ymlaen llaw neu brosiectau a osodir neu fathau eraill o asesiadau cwrs. Er mwyn symud ymlaen i Ran Dau mae’n rhaid i fyfyrwyr ennill o leiaf 160 o gredydau a chael cyfanswm marc cyfartalog wedi’i bwysoli o 50%
8. Bydd ymgeisydd sydd wedi cwblhau Rhan Un yn llwyddiannus ond nad yw'n dymuno parhau neu sy'n aflwyddiannus yn ei ymgeisyddiaeth ar gyfer y DProf yn gymwys am ddyfarniad MProf. Bydd ymgeisydd sydd wedi cwblhau Rhan Un yn llwyddiannus ond nad ydynt yn dymuno parhau neu sy’n aflwyddiannus yn eu hymgeisyddiaeth ar gyfer y DProf, yn gymwys ar gyfer dyfarniad MProf, MRes neu ddyfarniad Meistr arall sy’n ffurfio Rhan Un o’u rhaglen astudio.
9. Caiff ymgeiswyr sy’n methu Rhan Un, yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi ar gyfer yr elfennau drwy gwrs, eu hailgyflwyno nhw eu hunain i ailsefyll yr arholiad unwaith yn unig, heb fod yn fwy na phymtheg mis ar ôl yr arholiad gwreiddiol. Codir tâl am ailsefyll yr arholiad.
10. Bydd Rhan Dau’r arholiad ar ffurf traethawd ymchwil neu bortffolio o waith, yn cynnwys dulliau a chanlyniadau prosiect neu brosiectau ymchwil, y ceir enghreifftiau ohonynt yn Atodiad Un isod.
11. Yn Rhan Dau arholir y traethawd ymchwil drwy arholiad llafar. Archwilir portffolio o waith yn y modd a bennir yn Rheoliadau’r Rhaglen.
12. Rhaid llwyddo yn elfen drwy gwrs ac elfen ymchwil yr arholiad er mwyn bod yn gymwys i ennill y radd.
13. Bydd yr ymgeisyddiaeth yn dod i ben os na chyflwynir traethawd hir, ar y ffurf ac yn y modd a bennwyd, yn unol â’r terfynau amser a restrir isod:
Llawn amser
Ar gyfer ymgeisyddiaeth dair blynedd, pedair blynedd o ddyddiad cychwyn swyddogol cyfnod astudio’r ymgeisydd.
Rhan amser
Ar gyfer ymgeisyddiaeth bum mlynedd, saith mlynedd o ddyddiad cychwyn swyddogol cyfnod astudio’r ymgeisydd.
14. Bydd y Brifysgol yn sicrhau bod ymgeiswyr yn cael goruchwyliaeth reolaidd a pharhaus, yn unol â’i gweithdrefnau cyffredinol ar gyfer goruchwylio uwchraddedigion.
15. Ar gyfer pob ymgeisyddiaeth, bydd y Brifysgol yn cymeradwyo tîm goruchwylio a fydd yn cynnwys un prif oruchwyliwr ac ail oruchwyliwr a enwebir gan Adran yr ymgeisydd.
16. Bydd y prif oruchwyliwr fel rheol yn aelod llawn amser o staff academaidd y Brifysgol. Bydd yr ail oruchwyliwr fel rheol yn aelod llawn amser o staff academaidd y Brifysgol neu sefydliad sy’n cydweithio â hi.
17. Cwblheir ymchwil pob ymgeisydd drwy gyflwyno traethawd ymchwil (fel arfer heb fod yn hwy na 60,000 o eiriau, heb gynnwys Atodiadau a throednodiadau dilys) sy’n cynnwys dulliau a chanlyniadau’r ymchwil neu bortffolio o waith. Mae’n rhaid i Fwrdd Arholi ac iddo gyfansoddiad priodol gynnal arholiad llafar ar gyfer ymgeisydd sy’n cyflwyno naill ai draethawd ymchwil neu bortffolio o waith i’w arholi. Mae’n bosib, er hynny, hepgor y gofyniad hwn yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi, pan fydd gwaith sydd wedi’i ailgyflwyno’n cael ei arholi, a phan fydd yr arholwyr o’r farn fod y gwaith yn llwyddo’n glir.
18. Bydd ymgeiswyr yn llofnodi datganiad i dystio nad yw’r gwaith a gyflwynir wedi’i dderbyn yn ei sylwedd ar gyfer unrhyw radd na dyfarniad, ac nad yw’n cael ei gyflwyno ar yr un pryd yn rhan o ymgeisyddiaeth am unrhyw radd na dyfarniad arall. Cynhwysir y datganiad wedi’i lofnodi gyda phob copi o’r gwaith a gyflwynir i’w arholi.
19. Bydd y Brifysgol yn sicrhau bod ffurf cyflwyno ac arholi’r traethawd ymchwil neu’r portffolio yn cydymffurfio â Rheoliadau’r Brifysgol ar gyfer Cyflwyno ac Arholi Traethodau Ymchwil.
Rheoliadau Ychwanegol sy’n berthnasol i raglenni a enwir
DAg (Doethur mewn Amaethyddiaeth)
Cyfanswm gwerth credydau Rhan Un fydd 180 credyd. Bydd yr Arholiad ymchwil yn cynnwys traethawd ymchwil o hyd at 60,000 o eiriau (heb gynnwys Atodiadau a throednodiadau dilys).