Rheoliadau Cymeradwyo Cymwysterau a/neu Profiad Perthnasol Ar Gyfer Mynediad i Raddau Uwch, Diplomâu a Thystysgrifau Prifysgol Aberystwyth
1. Rhagymadrodd
Yn Adrannau 2-7 o’r Rheol Sefydlog hon, rhestrir cyfres o gymwysterau ynghyd â chanllawiau sydd wedi eu seilio ar bolisi’r Brifysgol ynglŷn â derbyn y sawl sy’n dal y cymwysterau hynny i astudiaethau neu ymchwil ôlraddedig.
1.2 Y cyfnodau byrraf ar gyfer ymgeisyddiaeth am radd Athro y Brifysgol yw un flwyddyn galendr (yn amser-llawn) a dwy flynedd calendr (yn rhan-amser) er bod rhaid i sefydliad sy’n derbyn ymgeisydd ei fodloni ei hun ynglŷn â ffitrwydd yr ymgeisydd i wneud gwaith ôlraddedig ac y caiff Penaethiaid Adrannau yn ôl eu disgresiwn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw ymgeisydd am radd Athro astudio am gyfnod hirach na’r isafsymiau hyn.
1.3 Cynghorir ymgeiswyr am gyrsiau diploma a thystysgrif ôlraddedig mewn Addysg (e.e. y cwrs TAR) sydd heb radd i holi Llywodraeth Cynulliad Cymru neu’r Adran Fusnes, Dyfeisgarwch a Sgiliau ynghylch eu statws yn y proffesiwn addysgu. Sylwer hefyd nad yw cymwysterau y bernir gan yr LlCC/AFDS eu bod yn rhoi statws graddedig yn y proffesiwn addysgu o reidrwydd yn cael eu trin gan y Brifysgol fel pe baent yn cyfateb i raddau.
1.4 Caiff Swyddfa Derbyn Graddedigion PA ynghyd â ac yn dilyn cais gan yr adran academaidd perthnasol gyflwyno Achosion Arbennig i Bwyllgor Materion Academaidd PA neu’r Dirprwy Is-Ganghellor perthnasol, sy’n cadeirio’r Pwyllgor Materion Academaidd ar gyfer darpar-fyfyrwyr uwchraddedig na chydnabir eu cymwysterau yn y Rheoliadau hyn. Bydd gan y Dirprwy Is-Ganghellor yr awdurdod gweithredol i benderfynnu ar achosion unigol. Adroddir canlyniad y penderfyniadau hyn i’r Pwyllgor Materion Academaidd yn reolaidd. Noder er gwaethaf ymdrechion gorau’r Brifysgol a’r Pwyllgor, gall gymryd peth amser i benderfynu ar statws cyfatebol cymwysterau sydd heb eu cydnabod o’r blaen. O ganlyniad, ni ddylai myfyrwyr gael eu derbyn nes bod cadarnhad ynglŷn â statws eu cymhwyster wedi ei sicrhau oddi wrth y Pwyllgor a/neu Cadeirydd y Pwyllgor hwnnw.
1.5 Caiff y Rheoliadau hyn yn ddibynnol ar adolygiad blynyddol.
1.6 Mae graddau Sylfaenol o safon is na gradd Baglor ac felly ni fuasent yn galluogi deiliaid o’r cymhwyster i fatriciwleiddio ar gyfer astudiaeth uwchraddedig gyda Prifysgol Aberystwyth.
2. Graddedigion
Mae’r Brifysgol wedi cymeradwyo derbyn y canlynol yn ymgeiswyr ar gyfer:
(a) Gradd PhD, yn cael ei dilyn fel ymgeisydd amser-llawn neu ran-amser.
(b) Graddau Athro, yn cael eu dilyn fel ymgeisydd amser-llawn neu ran-amser.
(c) Pob diploma ôlraddedig.
2.1 Graddedigion Prifysgolion yn y Deyrnas Unedig.
2.2 Graddedigion y mae ganddynt radd a ddyfarnwyd gan y Cyngor Cenedlaethol Dyfarniadau Academaidd.
2.3 Graddedigion Coleg Celfyddydau Camberwell
2.4 Graddedigion Prifysgolion a Cholegau Prifysgol tramor sy’n aelodau neu’n aelodau o Gymdeithas Prifysgolion y Gymanwlad [www.acu.ac.uk].
2.5 Graddedigion unrhyw Brifysgol, Coleg neu Sefydliad arall a gydnabyddir gan yr UK NARIC ac yr ystyrir eu graddau yn gymharol ag o leiaf gradd Baglor (Gyffredin) o’r Deyrnas Unedig.
3. Personnau heb radd
Mae’r Brifysgol wedi cymeradwyo derbyn deiliaid y cymwysterau canlynol yn ymgeiswyr ar gyfer:
(a) Gradd PhD, yn cael ei dilyn fel ymgeisydd amser-llawn neu ran-amser.
(b) Graddau Athro, yn cael eu dilyn fel ymgeisydd amser-llawn neu ran-amser.
(c) Pob diploma ôlraddedig.
3.1 Diploma Graddedig o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
3.2 Diploma Graddedig mewn Cyfrifiadureg o Brifysgol Morgannwg
3.3 Diploma Sefydliad yr Ieithyddion
3.4 Cymwysterau mewn Meddygaeth, Deintyddiaeth neu Lawfeddygaeth Filfeddygol sy’n gofrestradwy y Deyrnas Unedig.
3.5 Diploma mewn Pensaernïaeth a ddyfarnwyd gan unrhyw Ysgol a gydnabyddir gan y RIBA.
3.6 Aelodaeth Sefydliad Brenhinol Cynllunio Tref.
3.7 Aelodaeth Raddedig o’r Gymdeithas Frenhinol Cemeg (pe dyfarnir gyda Pasio mae’r aelodaeth raddedig yn gydnabyddedig ar gyfer y pwrpas o fynediad i raglenni TAR).
3.8 Aelodaeth o’r Gymdeithas Frenhinol Cemeg.
3.9 Aelodaeth Gorfforaethol o’r Sefydliad Ffiseg.
3.10 Aelodaeth o’r Sefydliad Bioleg.
3.11 Cymrodoriaeth Cymdeithas y Llyfrgellwyr.
3.12 Diploma mewn Astudiaethau Cymdeithasol a hefyd Ddiploma mewn Astudiaethau Cymdeithasol Cymwysedig neu gymhwyster cyfatebol, y ddau wedi eu dyfarnu gan Brifysgolion a gymeradwywyd ar ôl o leiaf dair blynedd do astudio amser-llawn.
3.13 Aelodaeth Raddedig Sefydliad City & Guilds Llundain.
3.14 Aelodaeth Gorfforaethol o’r cyrff canlynol (neu radd arall o aelodaeth y mae gofyn cyrraedd safon addysgol y corff ar gyfer Aelodaeth Gorfforaethol er mwyn ei sicrhau):
Y Gymdeithas Frenhinol Awyrenneg
Sefydliadau:
y Peirianwyr Cemegol, y Peirianwyr Sifil, y Peirianwyr Trydan, y Peirianwyr Electronig a Radio, y Peirianwyr Nwy, y Peirianwyr Mecanyddol, y Metelegwyr, y Peirianwyr Mwyngloddio, Mwyngloddio a Meteleg, y Peirianwyr Trefol, y Peirianwyr Cynhyrchu, y Peirianwyr Strwythurol.
Sefydliadau Ynni, y Peirianwyr Môr
Sefydliad Brenhinol Penseiri Llongau
Cymdeithas Siartredig y Ffisiotherapyddion
3.15 Diploma Graddedig mewn Adeiladu, Anglia Polytechnic University/ Anglia Ruskin University.
4. Personnau heb gradd a dderbynir ar sail Profiad Perthnaso
Caiff y Brifysgol gymeradwyo hefyd dderbyn rhai nad ydynt yn raddedigion yn ymgeiswyr os yw eu profiad perthnasol yn gwneud yn iawn am eu diffyg cymharol cymwysterau ffurfiol. Rhaid i ymgeisydd o’r fath fod wedi dal swydd gyfrifol sy’n berthnasol i’r cynllun astudio arfaethedig am gyfnod o 24 mis o leiaf. Dylid cadarnhau hyn adeg y penderfyniad yn ystod y broses dderbyn drwy wirio’r deynyddiau cais yn enwedig y geirda.
Gall rhai nad ydynt yn raddedigion gael eu derbyn fel hyn yn ymgeiswyr ar gyfer:
(a) Graddau Athro, yn cael eu dilyn fel ymgeisydd amser-llawn neu ran-amser;
(b) Pob diploma ôlraddedig.
Ni all rhai nad ydynt yn raddedigion gael eu derbyn i gynlluniau doethur na chynlluniau TAR.
5. Asesu Cymwysterau Addysg Uwch Rhyngwladol
5.1 Fel arfer ni fydd ymgeiswyr sy’n meddu ar gymwysterau, o sefydliadau a gydnabyddir gan yr UK NARIC, yr ystyrwyd o safon is na gradd Baglor (Gyffredin) o’r Deyrnas Unedig yn gymwys i fatriciwleiddio. Fodd bynnag, os ydynt wedi ennill rhagor y brofiad Addysg Uwch ers ennill eu cymhwyster fel bo eu profiad addysg cynyddol yn gymharol â gradd Baglor (Gyffredin) o’r Deyrnas Unedig, gellir ystyried eu sefyllfa fel Achos Arbennig gan Bwyllgor Materion Academaidd PA neu’r Dirprwy Is-Ganghellor perthnasol os cymerdwyir hwynt gan Swyddfa Derbyn Graddedigion PA a’r adran academaidd perthnasol.
5.2 Mae swyddfa Derbyn Graddedigion PA yn asesu cymwysterau ymgeiswyr sy’n meddu ar gymwysterau a ennillwyd y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
5.3 Y brif ffynhonell o wybodaeth yw’r Ganolfan Wybodaeth Genedlaethol ar gyfer Cydnabyddiaethau Academaidd (neu’r UK NARIC), sy’n darparu system gyfeirio ar y Wê a gwasanaeth ymholiadau. Mae gan y Ganolfan gyfoeth o brofiad i dynnu arno, yn nhermau ffynonellau cyhoeddedig safonol ac adroddiadau yn y maes.
UK NARIC Gwefan:
ECCTIS 2000 Cyf
Oriel House
Oriel Road
CHELTENHAM
Sir Gaerloyw GL50 1XP
6. Dyfarnu Cymwysterau PA i Fyfyrwyr Blwyddyn Gyfnewid sy’n
Gellir rhoi dyfarniadau Prifysgol Aberystwth i fyfyrwyr cyfnewid sy’n dod i mewn achosion lle bydd pob un o’r meini prawf canlynol wedi eu bodloni:
(i) bod gan y myfyriwr, adeg ei dderbyn, gymwysterau a gydnabuwyd at ddibenion ei dderbyn i astudio (yn achos myfyrwyr sy’n dilyn cynllun ôl-raddedig, felly, rhaid cymhwyso darpariaethau’r Rheoliadau hyn);
(ii) bod y ffi hyfforddi briodol wedi ei thalu;
(iii) ei bod yn glir na fyddai’r addysg a gâi’r myfyriwr ar gyfer ei gymhwyster ym PA yn cyfrannu mewn unrhyw fodd at y cynllun astudio a oedd yn cael ei ddilyn yn y sefydliad ‘gartref’.