11.6 Gofynion Mynediad
1. Mae'r Brifysgol yn gweithredu polisi derbyn myfyrwyr cynhwysol, a dewisir ymgeiswyr yn ôl eu teilyngdod unigol.
2. Gwahoddir Adrannau Academaidd, mewn ymgynghoriad â'r Swyddfa Derbyn Graddedigion a'r Adran Gynllunio, bob hydref i gyflwyno manylion eu gofynion mynediad uwchraddedig arfaethedig ar gyfer y cylch ymgeisio nesaf. Caiff yr wybodaeth hon ei chasglu gan y Swyddfa Derbyn Graddedigion ar ffurf strategaeth gwneud cynigion, ei chyflwyno i'r Bwrdd Marchnata a Denu Myfyrwyr a'i hanfon at Weithrediaeth y Brifysgol i'w chymeradwyo.
3. Cyhoeddir isafswm gofynion mynediad ar gyfer pob cynllun astudio ar wefan y Brifysgol ac yn y prosbectws uwchraddedig.
4. Dylid cyfeirio ymholiadau sy'n ymwneud â gofynion mynediad uwchraddedig y Brifysgol at pg-admissions@aber.ac.uk
5. Yn gyffredinol, mae'n ofynnol i ymgeiswyr uwchraddedig ddangos astudiaethau cyfredol neu flaenorol ar lefel Gradd Baglor yn y DU (Anrhydedd), neu gymhwyster cyfatebol rhyngwladol, o sefydliad a gydnabyddir gan Brifysgol Aberystwyth ar lefel sy'n bodloni 11.6.3 uchod.
6. Mae'r Brifysgol yn derbyn amrywiaeth o gymwysterau o’r tu allan i'r DU ar eu rhaglenni uwchraddedig. Pennir cyfatebiaethau cymwysterau gan y Brifysgol mewn ymgynghoriad â safonau ENIC y DU a safonau a gymeradwyir gan y sector.
7. Gellir ystyried ymgeiswyr nad oes ganddynt gymhwyster gradd ar gyfer derbyniadau ar sail o leiaf 24 mis o brofiad gwaith perthnasol.
8. Yn ôl disgresiwn y Brifysgol, gellir ystyried ymgeisydd am le ar y cynllun astudio uwchraddedig o'u dewis heb y lefel ofynnol o gymwysterau academaidd neu gefndir profiadol perthnasol, drwy adolygiad 'Achos Arbennig'. Yn gyffredinol, dim ond i'r rhai sydd â chymwysterau o’r tu allan i'r DU y mae hyn yn berthnasol. Caiff tystiolaeth ynghylch ceisiadau 'Achos Arbennig' ei chasglu gan y Swyddfa Derbyn Graddedigion, sy'n cynghori ac yn ymgynghori â'r adran academaidd berthnasol cyn gofyn am gymeradwyaeth gan y Bwrdd Marchnata a Denu Myfyrwyr.
9. Cyfrifoldeb ymgeisydd yw rhoi gwybod i'r Brifysgol am unrhyw amgylchiadau a allai fod wedi effeithio'n ormodol ar eu hastudiaeth flaenorol neu gyfredol. Dylid cyflwyno'r wybodaeth hon i'r Swyddfa Derbyn Graddedigion ar adeg y cais neu cyn gynted â phosibl os bydd yr amgylchiadau arbennig yn codi ar ôl gwneud cais.
10. Bydd amgylchiadau arbennig yn cael eu hystyried yn ôl disgresiwn y Detholydd Uwchraddedig perthnasol lle nad yw'r rhain eisoes wedi'u hystyried gan y bwrdd arholi perthnasol.
11. Mae Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd y Brifysgol yn cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad cyn ac ar ôl gwneud cais i fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: https://www.aber.ac.uk/cy/student-support/.
12. Mae polisi'r Brifysgol ar dderbyn myfyrwyr anabl i'w weld yn Atodiad 2.