9.9 Dysgu’n Seiliedig ar Waith a Lleoliadau Gwaith Myfyrwyr

Cyflwyniad

1. Mae dysgu’n seiliedig ar waith yn golygu dysgu sydd fel arfer wedi’i gyflawni drwy waith â thâl neu heb dâl, y gellir ei asesu ar lefel addysg uwch ac sy’n cyfrannu at ddyfarnu credyd Prifysgol Aberystwyth (PA). Mae’r adran hon o’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd yn ymwneud â chynlluniau astudio a modiwlau sy’n cynnwys cyfleoedd ar gyfer dysgu’n seiliedig ar waith.

2. Y nod wrth gynnwys dysgu’n seiliedig ar waith yn rhan o gynllun neu fodiwl yw galluogi myfyrwyr i gael profiadau ystyrlon mewn lleoliad fydd yn rhoi hwb i wella eu cyfleoedd Ym mhob achos dylai myfyrwyr fod yn siŵr y bydd pa bynnag brofiad a geir yn ychwanegu at eu set sgiliau ac yn eu galluogi i gymhwyso’r hyn a gaiff ei astudio ar y cwrs.

3. Mae PA wedi ymrwymo i weithio gyda chyflogwyr i sicrhau bod dysgu’n seiliedig ar waith yn ddeniadol i fyfyrwyr ac yn galluogi’r myfyrwyr i fodloni deilliannau dysgu eu cynllun / modiwl drwy ymgymryd â dysgu’n seiliedig ar waith. Bwriad y canllawiau canlynol yw:

(i) Sefydlu ymagwedd gymesur at reoli dysgu’n seiliedig ar waith drwy Gytundeb Ffurfiol

(ii) Sicrhau bod gweithdrefnau priodol ar waith i ddarparu dysgu’n seiliedig ar waith o safon uchel sy’n sicrhau profiad y myfyriwr ac yn bodloni deiliannau dysgu ar lefel y cynllun neu’r modiwl

(iii) Egluro cyfrifoldebau a hawliau’r cyflogwr, y Brifysgol a’r myfyriwr pan fydd myfyriwr ar leoliad gwaith.

Trosolwg o Ddysgu’n Seiliedig ar Waith

4. Ar gyfer unrhyw gynllun astudio sy’n cynnwys dysgu’n seiliedig ar waith, dylai’r broses gymeradwyo ymdrin â’r agwedd hon ar y cwrs i sicrhau ansawdd, safonau a phrofiad y myfyriwr. Dylai deilliannau dysgu gael eu nodi’n glir, eu hasesu’n briodol a chyfrannu at nodau’r cynllun mewn cyd-destun dysgu’n seiliedig ar waith priodol.

5. Caiff elfen dysgu’n seiliedig ar waith cwrs ei hadolygu fel rhan o Fonitro Blynyddol y Cynlluniau a Ddysgir trwy Gwrs (ffurflen AMTS1), i’w hadrodd i Bwyllgorau Materion Academaidd y Cyfadrannau. Cyflwynir crynodeb gan y Gyfadran i’r Bwrdd Academaidd.

Rheolaeth Gymesur o Ddysgu’n Seiliedig ar Waith

6. Mae gan y Brifysgol gyfrifoldeb i beidio â gosod myfyrwyr yn fwriadol mewn amgylchedd anniogel. Fel isafswm, dylai cyfadrannau sicrhau bod gan ddarparwyr dysgu’n seiliedig ar waith yswiriant ac asesiadau risg priodol a dylent sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol o unrhyw risgiau penodol a gysylltir â dysgu’n seiliedig ar waith cyn dechrau ar y lleoliad. Fel gofyniad sylfaenol, dylid hysbysu myfyrwyr o lefel a natur yr oruchwyliaeth a’r gefnogaeth gan y Brifysgol a darparwyr dysgu’n seiliedig ar waith y gallant eu disgwyl yn ystod eu cyfnod o ddysgu’n seiliedig ar waith. Er mai ymweld â myfyriwr ar leoliad yw’r ymarfer gorau ar gyfer asesu cynnydd myfyrwyr ac addasrwydd parhaus cyfle dysgu’n seiliedig ar waith, cydnabyddir efallai nad yw hyn yn ymarferol i’w gyflawni gyda phob myfyriwr, yn enwedig cyfleoedd tramor neu fyr. Dylai staff fonitro cynnydd y myfyriwr, boed drwy ymweld â’r myfyriwr neu drwy barhau i gysylltu drwy ddulliau electronig, ar gyfnodau sy’n briodol i hyd y cyfnod dysgu’n seiliedig ar waith.

7. Bydd cynllunio, paratoi a rheoli gweithgaredd dysgu’n seiliedig ar waith yn amrywio yn ôl natur a hyd y lleoliad a disgwylir y bydd y gweithdrefnau ar gyfer rheoli gweithgaredd blwyddyn o hyd yn fwy helaeth na’r rheini ar gyfer lleoliadau gwaith llawer byrrach.

Cyfrifoldebau’r Myfyriwr

8. Gall adrannau naill ai osod myfyrwyr mewn lleoliad gwaith o’u dewis neu adael i’r myfyrwyr ddewis eu lleoliad eu hun. Os caniateir i’r myfyrwyr nodi lleoliad addas ar gyfer elfen dysgu’n seiliedig ar waith y cwrs, rhaid i adrannau ddarparu arweiniad ar addasrwydd y lleoliad ar gyfer bodloni deilliannau dysgu’r modiwl/cwrs.

9. Cyn dechrau ar leoliad gwaith rhaid i fyfyrwyr wneud y canlynol:

(i) Cwblhau gwiriad y Gwasanaeth Datgelu ac Atal (DBS) os oes ei angen ar gyfer y math o leoliad. Bydd y myfyriwr yn cadw hwn ac yn cyflwyno copi i gydlynydd y cynllun. Os ceir unrhyw euogfarnau rhaid eu trafod gyda’r cydlynydd. Rhaid i’r myfyriwr hysbysu’r darparwr lleoliad am unrhyw ystyriaethau sy’n codi o’r gwiriad DBS.

(ii) Ymgymryd ag ymweliad cychwynnol â’r darparwr lleoliad gwaith lle bo’n bosibl, i esbonio gofynion y lleoliad a deilliannau dysgu disgwyliedig.

(iii) Trafod gyda darparwr y lleoliad gwaith sut y bydd y lleoliad yn bodloni’r deilliannau dysgu ac esbonio unrhyw ofynion asesu.

(iv) Darparu Cytundeb Lleoliad Gwaith i ddarparwr y lleoliad yn egluro’r gofynion. Rhaid i ddarparwr y lleoliad lofnodi’r cytundeb a rhaid gwneud tri chopi: un i ddarparwr y lleoliad, un i’w gadw gan y myfyriwr ac un i’w ddychwelyd gan y myfyriwr i’r Gyfadran.

(v) Cyflwyno manylion y lleoliad gwaith, Cytundeb y Lleoliad a’r deilliannau dysgu a gytunwyd i’r Gyfadran i’w cymeradwyo cyn dechrau’r lleoliad.

Yn ystod y lleoliad gwaith bydd gofyn i’r myfyriwr gadw at y Rheoliad Academaidd ar Gynnydd Academaidd a’r gofynion manwl ar lefel y cynllun/modiwl. Lle bo’n briodol, rhaid i fyfyrwyr hefyd gydymffurfio â gofynion Addasrwydd i Ymarfer.

Cyfrifoldebau Darparwr y Lleoliad

10. Wrth drefnu lleoliadau gwaith, dylai darparwyr fod yn ymwybodol y bydd angen iddynt ddarparu goruchwyliwr/pwynt cyswllt dynodedig. Rôl y goruchwyliwr lleoliad fydd:

(i) Gweithio gyda’r myfyriwr i sicrhau bod y lleoliad gwaith yn bodloni deilliannau dysgu’r modiwl

(ii) Cyfarfod â’r myfyriwr yn rheolaidd i wirio cynnydd a thrafod unrhyw broblemau

(iii) Sicrhau bod ymsefydlu a hyfforddiant priodol yn cael eu darparu, gan gynnwys iechyd a diogelwch

(iv) Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw broblemau neu ymholiadau yn ystod y lleoliad gwaith

(v) Darparu adborth ar gynnydd ar ddiwedd y lleoliad drwy gwblhau Ffurflen Adroddiad Lleoliad Gwaith Myfyriwr

(vi) Darparu adborth ar reolaeth y lleoliad drwy gwblhau Ffurflen Adborth Cyflogwr

(vii) Darparu adborth gan y goruchwyliwr ar ôl cwblhau’r nifer gofynnol o oriau ymarfer

(viii) Cysylltu â chydlynydd y cwrs pe bai unrhyw broblemau’n codi yn ystod y lleoliad gwaith (gweler y siart llif Datrys Problemau).

11. Yn ystod y lleoliad gwaith gall myfyrwyr ddisgwyl:

(i) Cefnogaeth gan oruchwyliwr/pwynt cyswllt dynodedig y mae ei rôl yn cynnwys cynghori ar y gwaith a wneir

(ii) Cyfarwyddyd iechyd a diogelwch priodol er mwyn iddynt fod yn gyfarwydd â gweithdrefnau a gofynion y sefydliad maen nhw’n gweithio ynddo

(iii) Gweithio mewn amgylchedd diogel

(iv) Cael eu trin â pharch

(v) Cael eu hysbysu’n llawn am eu cyfrifoldebau, gan gynnwys rhai a gynhwysir mewn unrhyw ddeddfwriaeth statudol a/neu gontract di-dâl

(vi) Derbyn adborth gan y goruchwyliwr pan fydd yr oriau ymarfer gofynnol wedi’u cwblhau

(vii) Lle bo’n briodol, derbyn hyfforddiant llawn mewn unrhyw arferion anghyfarwydd y gofynnir iddynt ymgymryd â nhw

(viii) Gallu manteisio ar y weithdrefn Datrys Problemau (gweler y siart llif isod).

Cyfrifoldebau’r Gyfadran

12. Mae gan gyfadrannau gyfrifoldeb i sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn cael eu paratoi’n ddigonol ar gyfer dysgu’n seiliedig ar waith gyda rhaglen cyn-leoliad a deilliannau dysgu’n seiliedig ar waith sydd:

(i) wedi’u nodi’n glir

(ii) yn cefnogi myfyrwyr i adnabod ac ymgeisio am leoliadau gwaith priodol

(iii) yn cyfrannu at nodau cyffredinol y cwrs

(iv) yn cael eu hasesu’n briodol

(v) yn atgyfnerthu trosglwyddedd a pherthnasedd ehangach y profiad.

13. Yn ogystal â sicrhau trylwyredd academaidd, bydd Cyfadrannau’n gyfrifol am y canlynol:

(i) Nodi aelod o staff y brifysgol yn arweinydd ar elfen dysgu’n seiliedig ar waith y cwrs a’r aelod hwn o staff fydd y pwynt cyswllt cyntaf.

(ii) Trafod addasiadau rhesymol gyda’r darparwr lleoliad os asesir bod gan fyfyriwr angen penodol, gan sicrhau bod lleoliadau gwaith yn gynhwysol, yn ddiogel ac yn gefnogol.

(iii) Caiff pwyntiau cyswllt a llinellau cyfathrebu eu diffinio’n glir gyda darparwr y lleoliad. Bydd hyn yn cynnwys cyfleoedd i’r darparwr lleoliad a’r myfyriwr wneud y canlynol:

    • codi pryderon, neu gwynion am unrhyw agwedd ar y lleoliad, gan gynnwys perfformiad neu ymddygiad myfyriwr unigol
    • gwneud awgrymiadau ar sut y gellid gwella gweithgaredd y lleoliad gwaith

14. Bydd myfyrwyr yn derbyn cyfarwyddyd cyn-leoliad cyn dechrau ar unrhyw leoliad gwaith, yn ogystal â gweithgaredd adfyfyriol priodol ar ôl dychwelyd, i atgyfnerthu perthnasedd dysgu’n seiliedig ar waith i’w cynnydd academaidd.

15. Caiff cyfleoedd dysgu’n seiliedig ar waith eu cynllunio, monitro, gwerthuso ac adolygu mewn partneriaeth gyda chyflogwyr. Bydd gan fyfyrwyr, cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill gyfleoedd ffurfiol i ddarparu adborth. Bydd gan gyfadrannau drosolwg o gofnodion dysgu’n seiliedig ar waith, ac yn derbyn adroddiadau blynyddol fel rhan o Fonitro Blynyddol y Cynlluniau a Ddysgir trwy Gwrs (AMTS), i’w hadrodd i’r Bwrdd Darpariaeth Gydweithredol.

 

Adolygwyd y bennod: Awst 2023