9.4 Cynlluniau gyda blwyddyn Rhyng-gwrs integredig (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant neu gyda blwyddyn integredig yn astudio dramor)
1. Mae’r adran hon yn darparu fframwaith ar gyfer cynlluniau sy’n cynnwys blwyddyn integredig mewn diwydiant neu flwyddyn astudio dramor, sy’n cael eu diffinio fel Blwyddyn Ryng-gwrs yn y Confensiynau Arholiadau. Gall y rhain fod yn un o’r canlynol:
(i) cynlluniau pedair blynedd gyda dwy flynedd yn Aberystwyth ar ôl dechrau’r cynllun ynghyd â Blwyddyn Ryng-gwrs
(ii) cynlluniau pum mlynedd gyda thair blynedd yn Aberystwyth ar ôl dechrau’r cynllun ynghyd â Blwyddyn Ryng-gwrs
(iii) Cynlluniau Gradd Sylfaen tair blynedd gyda dwy flynedd yn Aberystwyth ynghyd â Blwyddyn Ryng-gwrs
(iv) Cynlluniau Meistr dwy flynedd gyda Blwyddyn Ryng-gwrs rhwng yr elfen trwy gwrs a chyflwyno’r traethawd hir.
2. Dylid nodi nad yw’r canllawiau yn yr adran hon yn cynnwys cynlluniau Iaith sy’n cynnwys blwyddyn yn astudio mewn lleoliad arall er mwyn i fyfyrwyr feithrin gallu a phrofiad ieithyddol.
3. Bydd y flwyddyn integredig mewn diwydiant yn cynnwys cyfnod yn gweithio o fewn y DU neu dramor. Pennir pwysedd y rhaeadr farciau ar gyfer blwyddyn integredig mewn diwydiant ar lefel cynllun, yn unol â’r Confensiynau Arholiadau. Bydd teitlau cynlluniau yn cydymffurfio â’r geiriad canlynol: (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant).
4. Disgwylir i fyfyrwyr ar gynllun gyda blwyddyn integredig yn astudio dramor astudio mewn prifysgol dramor. Pwysedd y flwyddyn yn astudio dramor yn y rhaeadr farciau fydd sero ‘0’. Bydd teitlau cynlluniau yn cydymffurfio â’r geiriad canlynol: (gyda blwyddyn integredig yn astudio dramor).
5. Bydd cynlluniau gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant yn cynnwys canlyniadau dysgu safonol ar gyfer y Flwyddyn Ryng-gwrs. Darperir canlyniadau dysgu cyffredinol mewn templed manyleb rhaglen, a gellir cymeradwyo canlyniadau dysgu ychwanegol ar lefel pwnc ar gyfer cynlluniau penodol.
6. Ni chaniateir i fyfyrwyr ar gynlluniau gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant neu flwyddyn yn astudio dramor i fynd ar leoliadau cyfnewid yn ystod y flwyddyn sy’n rhagflaenu’r Flwyddyn Ryng-gwrs. Bydd hyn yn sicrhau nad yw’r myfyrwyr yn treulio mwy na blwyddyn i ffwrdd o Aberystwyth, a’u bod yn cael paratoad priodol ar gyfer y flwyddyn mewn diwydiant neu’r flwyddyn yn astudio dramor.
7. Bydd y rheol arferol bod yn rhaid llwyddo mewn 100 credyd ym mhob blwyddyn astudio er mwyn symud ymlaen yn cael ei weithredu ar gyfer y Flwyddyn Ryng-gwrs.
8. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr sy’n methu symud ymlaen ar ddiwedd Blwyddyn 2 (neu’r flwyddyn gyfatebol cyn y flwyddyn mewn diwydiant neu’r flwyddyn yn astudio dramor) gwblhau a phasio asesiadau ailsefyll Awst neu ailadrodd y flwyddyn cyn dechrau ar y Flwyddyn Ryng-gwrs.
9. Bydd disgwyl i fyfyrwyr gwblhau isafswm o 30 wythnos mewn gwaith neu’n astudio dramor. Gall Cyfarwyddwyr Athrofa neu’r sawl a ddirprwywyd ganddynt gymeradwyo cyfnodau byrrach o dan amgylchiadau eithriadol. Mae’n rhaid i fyfyrwyr gydymffurfio â gofynion eu Hathrofa wrth gadw mewn cysylltiad â’u tiwtoriaid yn ystod y cyfnod hwn. Mae’n bosibl hefyd y bydd gofynion ychwanegol yn achos cynlluniau sy’n cael eu hachredu gan Gyrff Proffesiynol, Statudol a Rheolaethol. Gall myfyrwyr sy’n methu gwneud cynnydd academaidd boddhaol yn ystod y Flwyddyn Ryng-gwrs wynebu cael eu cyfeirio at Gyfarwyddwr yr Athrofa neu’r sawl a enwebwyd yn unol â’r Rheoliad Academaidd ynghylch Cynnydd Academaidd.
10. Bydd y flwyddyn integredig mewn diwydiant yn cynnwys 120 credyd. Gall asesiadau gynnwys llyfr log neu ddyddiadur, adroddiadau dros dro, ac adroddiad myfyriol ar y diwedd. Bydd cyfarfod mis Medi o Fwrdd Arholi’r Senedd yn cadarnhau’r marc terfynol a chadarnhau bod myfyrwyr yn mynd ymlaen i’r flwyddyn astudio nesaf.
11. Bydd Flwyddyn Ryng-gwrs yn cael ei marcio yn unol â’r meini prawf a gyhoeddwyd ar gyfer asesu. Bydd Bwrdd Arholi’r Senedd yn mynnu bod myfyrwyr nad ydynt yn cyflawni’r canlyniadau dysgu ac yn sicrhau marc isaf o 40% neu’n cwblhau’r flwyddyn yn llwyddiannus yn symud i gynllun gradd cytras nad yw’n cynnwys y flwyddyn integredig mewn diwydiant / blwyddyn integredig yn astudio dramor.
12. Bydd trefnu asesu’r flwyddyn yn astudio dramor yn cael ei benderfynu ar lefel cynllun a gall gynnwys credydau a ddyfernir gan sefydliadau eraill, adroddiadau dros dro, ac adroddiad myfyriol ar y diwedd. O fis Medi 2018 ymlaen ni fydd marciau’n cael eu trosi o sefydliadau eraill, a chredydau yn unig fydd yn cael eu cynnwys wrth gadarnhau dosbarth terfynol y radd. Mewn achosion lle nad oes asesiad yn Aberystwyth, ni fydd marc yn cael ei ddyfarnu, a chaniateir i fyfyrwyr basio’r flwyddyn ar sail credydau a gwblhawyd yn ystod y Flwyddyn Ryng-gwrs.