9.3 Cynllun Casglu a Throsglwyddo Credydau
Cyflwyniad
1. Ac eithrio lle nodir hynny, mae’r cynllun hwn yn berthnasol i raglenni sy’n dechrau o Fedi 2013. Bydd myfyrwyr a gofrestrwyd ar raglenni cyn y dyddiad hwnnw yn cael eu rheoli gan y cynllun a oedd mewn grym ar adeg eu mynediad.
Diffiniad o Gredyd
2. Mae’r Brifysgol yn cadarnhau barn Llywodraeth Cymru, fel y’i cyflwynwyd yn ei Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (Fframwaith Cymru), y gellir diffinio credyd fel dyfarniad a roddir i ddysgwr i gydnabod llwyddiant mewn canlyniadau dysgu dynodedig ar lefel gredyd benodedig. Mae’r Brifysgol yn gweithredu hefyd o fewn i Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (Fframwaith yr ASA).
3. Mae swm y credyd a briodolir yn seiliedig ar amcangyfrif o’r amser dysgu a gymerai dysgwr cyffredin i gyflawni’r canlyniadau dysgu penodedig.
Pwysiad Credydau ac Oriau Tybiannol
4. Mae un credyd yn cyfateb i 10 awr dybiannol o ddysgu gan fyfyriwr, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd ac astudio annibynnol, ac asesu.
5. Ar y sail hon byddai myfyriwr israddedig amser-llawn yn casglu 120 o gredydau o fewn blwyddyn academaidd o 1,200 awr a byddai myfyriwr Meistr trwy Gwrs amser-llawn yn casglu 180 o gredydau mewn blwyddyn academaidd o 1,800 awr.
Credydau Cyffredinol a Phenodol
6. Credydau cyffredinol yw’r cyfanswm credydau sydd gan fyfyriwr yn sgil eu dysgu blaenorol. Yn nhermau trosglwyddo credydau, mae’r holl gredydau cyffredinol sydd gan fyfyriwr yn gymwys i’w hystyried. Credydau penodol yw’r gyfran o gyfanswm credydau’r myfyriwr sy’n cael ei derbyn fel un sy’n uniongyrchol berthnasol i’r cynllun astudio y mae’r myfyriwr yn cael ei (d)derbyn ar ei gyfer.
Lefel yr Uned Astudio Fodiwlar
7. Yn unol â Fframwaith Cymru, gellir diffinio lefelau credyd fel dangosyddion o’r baich a’r cymhlethdod cymharol, dyfnder cymharol y dysgu ac ymreolaeth gymharol dysgwr ar sail disgrifyddion lefel generig y cytunwyd arnynt. Nid yw lefelau yn hanfodol berthnasol i flynyddoedd astudio amser-llawn nac i’r addysg a gyflawnwyd yn flaenorol nac i/neu i brofiad y dysgwr. Mae lefelau credyd yn ymwneud â modiwlau yn hytrach na dyfarniadau cyflawn.
8. Mae lefelau, fel y diffiniwyd uchod, yn ddangosol ac o’r herwydd yn wahanol i ganlyniadau dysgu penodol a’r meini prawf asesu cysylltiedig, sy’n nodi’r safonau trothwy sy’n angenrheidiol i ddyfarnu credyd ar gyfer unrhyw fodiwl neu uned benodol.
Dangosyddion Lefel
9. Mae dangosyddion lefel y Brifysgol, a nodir isod, yn adlewyrchu Fframwaith Cymru a Fframwaith yr ASA:
Lefel |
Gofynion |
---|---|
AU0/Lefel 3 Fframwaith Cymru |
Defnyddio gwybodaeth a sgiliau o fewn ystod o weithgareddau cymhleth gan arddangos dealltwriaeth o ddamcaniaethau perthnasol; cyrchu a dadansoddi gwybodaeth yn annibynnol a gwneud penderfyniadau rhesymegol, gan ddethol o blith dewis sylweddol o weithdrefnau, mewn cyd-destunau cyfarwydd ac anghyfarwydd, a chyfeirio’ch gweithgareddau eich hun, gyda pheth cyfrifoldeb dros gynnyrch pobl eraill. [Modiwlau a astudir yn y flwyddyn ragarweiniol/sylfaen sy’n arwain at fynediad i gynllun gradd cychwynnol.] |
AU1/Lefel 4 Fframwaith Cymru |
Datblygu dull cadarn o gaffael sylfaen eang o wybodaeth; defnyddio ystod o sgiliau arbenigol; gwerthuso gwybodaeth a’i defnyddio i gynllunio a datblygu strategaethau ymchwiliol ac i benderfynu ar ddatrysiadau i amrywiaeth o broblemau anrhagweladwy; a gweithredu o fewn ystod o gyd-destunau amrywiol a phenodol, i sicrhau canlyniadau penodol. [Modiwlau a astudir fel arfer yn ystod blwyddyn gyntaf cynllun gradd amser-llawn neu’r hyn sydd gyfwerth.] |
AU2/Lefel 5 Fframwaith Cymru |
Cynhyrchu syniadau drwy ddadansoddi cysyniadau ar lefel haniaethol, gyda meistrolaeth ar sgiliau arbenigol a chreu ymatebion i broblemau sydd wedi’u diffinio’n glir a phroblemau haniaethol; dadansoddi a gwerthuso gwybodaeth; datblygu’r gallu i ddefnyddio crebwyll sylweddol ar draws ystod eang o weithgareddau; a derbyn cyfrifoldeb dros bennu canlyniadau personol a/neu ganlyniadau grŵp. [Modiwlau a astudir fel arfer yn ystod ail flwyddyn cynllun gradd amser-llawn neu’r hyn sydd gyfwerth.] |
AU3/Lefel 6 Fframwaith Cymru |
Adolygu’n feirniadol, atgyfnerthu ac ymestyn corff systematig a chydlynol o wybodaeth, gan ddefnyddio sgiliau arbenigol ar draws maes astudio; gwerthuso’n feirniadol gysyniadau a thystiolaethau newydd o ystod o ffynonellau; trosglwyddo a defnyddio sgiliau diagnostig a chreadigol a defnyddio crebwyll sylweddol mewn ystod o sefyllfaoedd; a derbyn cyfrifoldeb dros bennu a chyflawni canlyniadau personol a/neu ganlyniadau grŵp. [Modiwlau a astudir fel arfer yn ystod trydedd flwyddyn a/neu flwyddyn olaf cynllun gradd safonol amser-llawn neu’r hyn sydd gyfwerth.] |
AUM/Lefel 7 Fframwaith Cymru |
Arddangos meistrolaeth dros faes cymhleth ac arbenigol o wybodaeth a sgiliau; defnyddio sgiliau uwch i gynnal ymchwil, neu weithgaredd technegol neu broffesiynol uwch; derbyn atebolrwydd dros wneud penderfyniadau perthnasol gan gynnwys y defnydd o oruchwyliaeth a, dan amgylchiadau addas, cynghori eraill. [Modiwlau a astudir fel arfer ym mlwyddyn olaf cynllun gradd Meistr integredig cychwynnol amser-llawn neu fel rhan o gynllun Meistr trwy Gwrs, gan gynnwys y traethawd estynedig neu’r hyn sydd gyfwerth.] |
AUD/Lefel 8 Fframwaith Cymru |
Gwneud cyfraniad sylweddol a gwreiddiol i faes ymchwil arbenigol gan arddangos meistrolaeth dros faterion methodolegol a chymryd rhan mewn deialog feirniadol â chymheiriaid; derbyn atebolrwydd llawn dros ganlyniadau. [Mae hyn yn cynrychioli gwaith ymchwil ar lefel ddoethurol.] |
Ceir tabl sy’n dangos y gydberthynas rhwng credydau’r Brifysgol a System Gasglu a Throsglwyddo Credydau Ewrop ym mharagraff 24 isod.
Fframwaith Dyfarniadau
10. Mae rheoliadau’r Brifysgol ar gyfer cynlluniau astudio modiwlar yn darparu ar gyfer dyfarnu’r cymwysterau a restrir isod trwy gasglu credydau. Gall cynlluniau astudio israddedig, graddedig ac uwchraddedig, gyda dilyniant cyfnodol o gymwysterau is i rai uwch, gael eu llunio ar y sail ganlynol:
(i) Lefel Israddedig
Tystysgrif Addysg Uwch
Diploma Addysg Uwch
Gradd Sylfaen
Gradd Gychwynnol
(ii) Lefel Raddedig
Tystysgrif i Raddedigion
Diploma i Raddedigion
(iii) Lefel Uwchraddedig
Tystysgrif i Uwchraddedigion
Diploma i Uwchraddedigion
Gradd Meistr Integredig
Gradd Meistr
11. Gall y credydau sy’n angenrheidiol ar gyfer dyfarnu’r cymwysterau hyn gael eu casglu drwy gwblhau’r cynlluniau astudio perthnasol yn foddhaol, neu ran ohonynt yn unol â’r hyn a bennir yn y Rheoliadau.
Dyfarniadau Gadael ac Ailfynediad
12. Gall myfyrwyr sy’n gadael cynllun astudio gyda neu heb gymhwyster ar adeg gadael, yn ôl disgresiwn y Brifysgol, gael caniatâd i ailymuno â’r cynllun yn y man addas, ar yr amod nad ydynt yn flaenorol wedi cynnig am a methu’r cymhwyster uwch ar ôl dihysbyddu pob hawl adfer ac yn amodol ar y terfynau amser ar gyfer cwblhau’r cynllun astudio.
Tystysgrif a Diploma
13. Gellir hefyd ddefnyddio’r Dystysgrif a’r Ddiploma, ar lefel israddedig ac uwchraddedig fel ei gilydd, fel amcanion cymwysterol eu hunain. Fel rheol, ni fyddai’r cymhwyster is (h.y. Tystysgrif neu Ddiploma) yn cael ei ddyfarnu’n awtomatig i fyfyrwyr sy’n cyflawni’r gofynion ar gyfer y cymhwyster hwnnw, pa un ai a ydynt yn symud ymlaen yn uniongyrchol i ran nesaf y cynllun ai peidio, h.y. fel ‘dyfarniad canolradd’, ond dim ond i’r myfyrwyr cymwysedig hynny sydd:
(i) yn gadael ran o’r ffordd drwy’r cynllun (dyfarniadau pwynt gadael)
neu
(ii) sydd wedi cwblhau’r cynllun ond wedi methu’r cymhwyster uwch (dyfarniadau canolradd).
14. Yn unol â Rheoliadau’r Brifysgol, mae’r Dystysgrif a’r Ddiploma i Uwchraddedigion yn gymwysterau gadael ar gyfer y sawl sy’n tynnu’n ôl o radd Meistr cyn y traethawd estynedig neu’r hyn a gymeradwywyd yn gyfwerth iddo, ond gellir eu dyfarnu’n ogystal ar ddiwedd y rhaglen i gydnabod cwblhau’n llwyddiannus y nifer ofynnol o gredydau a nodwyd yn y confensiynau perthnasol.
Strwythur y Cynlluniau a Lefelau Credyd
15. Dangosir y gwerthoedd credyd isaf ac uchaf ar gyfer Cymwysterau Uwchraddedig, Graddedig ac Israddedig yn y tabl canlynol:
Cymhwyster |
Isafswm y credydau a astudiwyd yn gyffredinol |
Nifer y credydau ar y lefel uchaf |
Uchafswm y credydau ar y lefel isaf |
---|---|---|---|
Uwchraddedig |
|||
Gradd Meistr |
180 credyd |
Lefel M 180 credyd ar Lefel M |
Ni chaniateir dim |
Gradd Meistr Integredig |
480 credyd |
Levelau (0),1,2,3 ac M Isafswm o 120 credyd ar Lefel M |
Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0 |
Diploma i Uwchraddedigion |
120 credyd |
Lefelau M 120 credyd ar Lefel M |
Ni chaniateir dim |
Tystysgrif i Uwchraddedigion |
60 credyd |
Lefelau M Isafswm o 60 credyd ar Lefel M |
Ni chaniateir dim |
Graddedig |
|||
Diploma i Raddedigion |
120 credyd |
Lefelau (0,1,2),3 |
Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0 |
Tystysgrif i Raddedigion |
60 credyd |
Lefelau (0,1,2,),3 |
Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0 |
Israddedig |
|||
Gradd Anrhydedd |
360 credyd |
Lefelau (0),1,2,3 |
Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0 |
Gradd Gyffredin |
300 credyd |
Lefelau (0),1,2,3 |
Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0 |
Gradd Sylfaen |
240 credyd |
Lefelau (0),1,2 |
Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0 |
Diploma AU |
240 credyd |
Lefelau (0),1,2 |
Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0 |
Tystysgrif AU |
120 credyd |
Lefelau (0),1 |
Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0 |
Asesu
16. Bydd y cymwysterau yn cael eu hasesu a’u dyfarnu yn unol â’r darpariaethau yn:
(i) y rheoliadau PA perthnasol
(ii) confensiynau PA; a’r
(iii) rheoliadau ar gyfer y cynllun astudio penodol.
Dosbarthiadau Graddau Israddedig
17. Er mwyn sicrhau cymaroldeb o ran mesur llwyddiant cymharol myfyrwyr wrth gyflawni eu credydau ac i hwyluso achredu dysgu blaenorol oddi mewn ac oddi allan i’r Brifysgol, defnyddir y tabl canlynol fel graddfa drosi gyffredinol ar gyfer dyfarniadau israddedig:
Canran |
Canlyniad Gradd |
---|---|
70 ac uwch |
Anrhydedd Dosbarth Cyntaf |
60 - 69 |
Anrhydedd Ail Ddosbarth Uwch |
50 - 59 |
Anrhydedd Ail Ddosbarth Is |
40 - 49 |
Anrhydedd Trydydd Dosbarth |
39 ac is |
Methu |
Graddau Uwchraddedig
18. Defnyddir y term ‘Rhagoriaeth’ i ddynodi perfformiad ardderchog gan ymgeiswyr ar gyfer graddau Meistr trwy gwrs ac fe’i gosodir ar 70% ar Lefel M neu’n uwch. Er mwyn ennill Gradd Meistr gyda Rhagoriaeth bydd angen i ymgeiswyr sicrhau marc cyfartalog wedi’i dalgrynnu o 70% neu’n uwch. Defnyddir y term ‘Teilyngdod’ i ddynodi perfformiad sy’n deilwng o’i gydnabod lle ceir marc cyfartalog wedi’i dalgrynnu rhwng 60% a 69%.
19. Mae’r termau ‘Rhagoriaeth’ a ‘Teilyngdod’ hefyd yn berthnasol ar gyfer tystysgrifau a diplomâu uwchraddedig sy’n cyrraedd 70% neu’n uwch, neu 60% i 69%, ar ôl cofrestru ar gyfer y dyfarniadau hyn fel cymwysterau annibynnol neu wrth adael gradd Meistr heb gwblhau’r traethawd estynedig. Os bydd ymgeisydd yn cwblhau’r radd Meistr, ond yn ei methu, lefel Pasio yn unig y gellir ei dyfarnu ar gyfer y Dystysgrif neu’r Ddiploma.
Amodau Achredu
20. Mae’r rheolau isod yn berthnasol wrth asesu dysgu blaenorol ar gyfer credyd:
(i) gellir asesu credydau ar sail dysgu blaenorol, dysgu blaenorol trwy brofiad a dysgu ar sail gwaith
(ii) dim ond y modiwlau rheiny sydd wedi eu pasio (neu rai sy’n cael eu cydnabod gan RPEL) all gael eu derbyn ar gyfer trosglwyddo credydau
(iii) caiff y lefel y derbynnir y credydau arni ei phenderfynu cyn derbyn i’r Brifysgol
(iv) gellir derbyn lefel perfformiad y myfyriwr (yn nhermau gradd/marciau) yn y credydau a drosglwyddwyd i mewn a, lle bo’n briodol, gall gyfrif fel cyfraniad tuag at y dyfarniad
(v) mae’r cwestiwn pa un ai a yw’r credydau a gasglwyd ar gyfer dysgu blaenorol yn parhau yn ddilys mewn perthynas â’r cynllun astudio y caiff y myfyriwr ei (d)derbyn ar ei gyfer ai peidio yn fater i’w benderfynu cyn derbyn i’r Brifysgol, yn amodol ar y terfynau amser cyffredinol ar gyfer cwblhau cynlluniau astudio
(vi) ni all ymgeiswyr sydd â gradd gychwynnol ac sy’n dychwelyd i astudio pwnc cytras gyfrif y credydau sydd ganddynt eisoes (ar Lefelau 1 a 2) am yr eilwaith tuag at radd gychwynnol ddilynol. Mewn achosion o’r fath, caiff ymgeiswyr sy’n dychwelyd astudio ar Lefel 3 eu dyfarnu â Thystysgrif i Raddedigion neu Ddiploma i Raddedigion, fel y bo’n addas.
Terfynau Trosglwyddo
21. Yn unol â Rheoliadau PA, dangosir y terfynau trosglwyddo credydau yn y tabl isod:
Cymhwyster |
Terfyn Trosglwyddo Credydau |
---|---|
Uwchraddedig |
|
Gradd Meistr |
120 credyd |
Gradd Meistr Integredig |
320 credyd |
Diploma i Uwchraddedigion |
60 credyd |
Tystysgrif i Uwchraddedigion |
30 credyd |
Graddedig |
|
Diploma i Raddedigion |
60 credyd |
Tystysgrif i Raddedigion |
30 credyd |
Israddedig |
|
Gradd Anrhydedd |
240 credyd* |
Cynlluniau Nyrsio Cyn-Gofrestru |
Caniateir uchafswm o 50% fel Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (Trwy Brofiad) (RP(E)L) |
Gradd Sylfaen |
120 credyd |
Diploma AU |
160 credyd |
Tystysgrif AU |
80 credyd |
* Lle bo uchafswm y credyd y gellir ei drosglwyddo wedi ei dderbyn, dylai’r credydau sy’n weddill ac sydd i’w hastudio fel arfer fod ar Lefel 6 neu’n uwch.
Derbyn
22. Dylai mynediad gyda chredyd academaidd fod yn amodol ar yr un egwyddorion â mynediad ar gyfer dechrau cynllun astudio, a chaiff ei reoli gan ofynion derbyn cynlluniau’r Brifysgol, fel y bo’n addas.
23. Lle bo ymgeiswyr gyda chymhwyster arbennig i’w derbyn yn rheolaidd gyda chyfanswm safonol o gredydau, dylai’r fath drefniadau gael eu ffurfioli yn y rheoliadau ar gyfer y cynllun dan sylw.
Casglu a Throsglwyddo Credydau PA ac Ewrop
24. Mae’r tabl isod yn dangos y gydberthynas rhwng credydau PA a chredydau System Gasglu a Throsglwyddo Credydau Ewrop (ECTS):
Cymhwyster |
Credydau PA |
Credydau ECTS |
---|---|---|
Uwchraddedig |
||
Gradd Meistr |
180 credyd |
90 credyd |
Gradd Meistr Integredig |
480 credyd |
240 credyd |
Diploma i Uwchraddedigion |
120 credyd |
60 credyd |
Tystysgrif i Uwchraddedigion |
60 credyd |
30 credyd |
Graddedig |
||
Diploma i Raddedigion |
120 credyd |
60 credyd |
Tystysgrif i Raddedigion |
60 credyd |
30 credyd |
Israddedig |
||
Gradd Anrhydedd |
360 credyd |
180 credyd |
Gradd Gyffredin |
300 credyd |
150 credyd |
Gradd Sylfaen |
240 credyd |
120 credyd |
Diploma AU |
240 credyd |
120 credyd |
Tystysgrif AU |
120 credyd |
60 credyd |
Tystysgrif Sylfaen |
120 credyd |
60 credyd |
Fframwaith Cymru a’r Lefelau AB ac AU
25. Mae’r tabl isod yn dangos y gydberthynas rhwng lefelau credyd argymelledig Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (Fframwaith Cymru) a’r lefelau AB ac AU a ddefnyddir yn gyffredin:
Lefelau Credyd Fframwaith Cymru |
Lefelau AB/AU |
Lefelau Cymhwyster |
---|---|---|
Lefel 8 Lefel 7 |
Lefel M |
Lefel Doethur Lefel Meistr |
Lefel 6 Lefel 5 Lefel 4 |
Lefel AU 3 Lefel AU 2 Lefel AU 1 |
Lefel Anrhydedd Lefel Ganolradd Lefel Tystysgrif |
Lefel 3 Lefel 2 Lefel 1 |
Lefel AB 3 Lefel AB 2 Lefel AB 1 |
Lefel 3 Uwch Lefel 2 Canolradd Lefel 1 Sylfaen |
Diweddarwyd: Medi 2021