14.4 Y Drefn ar gyfer Cynnal Gwrandawiad Adolygu’r Panel

1. Pan fo’r myfyriwr wedi dweud y bydd nhw yn bresennol yn y gwrandawiad, ni chaiff yr achos ei drafod cyn i’r myfyriwr ymddangos.

2. Bydd Cadeirydd y Panel yn gofyn i’r myfyriwr ac unrhyw un arall sy’n bresennol ddweud pwy ydynt a bydd yn penderfynu a yw’r unigolyn a ddaeth yn gwmni i’r myfyriwr yn bodloni amodau’r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer Adolygiadau Terfynol.

3. Yna bydd Cadeirydd y Panel yn:

(i) Cyflwyno aelodau’r Panel a’r bobl eraill sy’n bresennol

(ii) Egluro’r rhesymau dilys dros gynnal yr Adolygiad Terfynol

(iii) Nodi’r penderfyniadau posib sydd ar gael i’r Panel

(iv) Egluro’r hyn a fyddai’n digwydd pe câi’r Adolygiad Terfynol ei gadarnhau

(v) Egluro bod hawl wedi hynny i ofyn am adolygiad annibynnol gan Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol.

4. Bydd y Cadeirydd yn gwahodd y myfyriwr i gyflwyno’r achos, a chrynhoi’r prif bwyntiau fel bod pawb sy’n bresennol yn deall ar ba sail y cyflwynir yr achos.

5. Ar ôl i’r myfyriwr orffen y cyflwyniad, caiff aelodau’r Panel ofyn cwestiynau ac archwilio meysydd sydd o ddiddordeb neu sy’n peri pryder iddynt. Pan fydd pob aelod o’r Panel yn fodlon, gwahoddir y myfyriwr i ychwanegu unrhyw bwyntiau nhw y mae am dynnu sylw’r Panel atynt, a gwahoddir y sawl sydd wedi dod yn gwmni i’r myfyriwr i siarad i gefnogi’r achos.

6. Yna bydd y Panel yn holi unrhyw bartïon eraill sy’n bresennol yn y gwrandawiad, ac fe’u gwahoddir i gyflwyno barn ar yr achos.

7. Yng ngwrandawiad y Panel, mae gan y Cadeirydd ddisgresiwn i ddatgan bod unrhyw fater a gyflwynir gan y myfyriwr, neu gan y sawl sydd wedi dod yn gwmni i’r myfyriwr, yn annerbyniol, os nhw nad yw’n uniongyrchol gysylltiedig â chynnwys y cais am adolygiad a gyflwynwyd yn ysgrifenedig gan y myfyriwr.

8. Mae gan y Cadeirydd ddisgresiwn hefyd i ddatgan bod unrhyw dystiolaeth neu wybodaeth na chafodd ei chyflwyno neu ei hadolygu gan yr holl bartïon perthnasol cyn y gwrandawiad yn dderbyniol. Er tegwch, mae’n bwysig bod pob un o’r partïon yn sicrhau bod y dystiolaeth yn cael ei chyflwyno cyn y gwrandawiad, er mwyn rhoi cyfle i bawb adolygu’r dystiolaeth ac ymateb yn briodol. Dim ond mewn achosion eithriadol lle mae’r Cadeirydd yn fodlon, a phawb arall yn rhoi caniatâd, y cyflwynir tystiolaeth newydd i’r gwrandawiad ei hystyried.

9. Yna gwahoddir y myfyriwr i ymateb i’r dystiolaeth a gyflwynwyd gan unrhyw un o’r partïon sy’n bresennol ac ychwanegu unrhyw bwyntiau eraill.

10. Ar ôl i’r gwrandawiad ddod i ben, rhoddir gwybod i’r myfyriwr ynglŷn â phryd a sut y caiff wybod am benderfyniad y Panel. Yna bydd yr holl bartïon, ac eithrio aelodau’r Panel a’r Ysgrifennydd, yn gadael yr ystafell. Bydd y Panel yn ystyried y dystiolaeth sydd ger ei fron ac yn gwneud ei benderfyniad. Bydd Ysgrifennydd y Panel yn cynghori’r Panel ar yr opsiynau sydd ar gael iddo, os yw hynny’n briodol.

11. Yr opsiynau sydd ar gael i’r Dirprwy Is-Ganghellor (neu enwebai) (neu’r Panel) yw:

(i) Gwrthod y cais am adolygiad a chadarnhau’r penderfyniad gwreiddiol

(ii) Derbyn y cais am adolygiad, yn ei gyfanrwydd neu’n rhannol, ac argymell camau priodol i’w cymryd yn seiliedig ar amgylchiadau’r achos.

12. Mae penderfyniad y Dirprwy Is-Ganghellor (neu enwebai) (neu’r Panel) yn derfynol, ac felly ystyrir bod y mater ar ben. Ar ôl i weithdrefn Adolygiadau Terfynol y Brifysgol ddod i ben, anfonir llythyr canlyniad adolygiad terfynol at y myfyriwr os yw’r adolygiad wedi ei gadarnhau’n llawn neu ei gadarnhau’n rhannol (a llythyr cwblhau’r weithdrefn os gwneir cais amdano gan y myfyriwr o fewn 6 wythnos waith wedi dyddiad y llythyr canlyniad). Os yw’r Adolygiad Terfynol yn cael ei wrthod, bydd llythyr Cwblhau’r Weithdrefn yn cael ei anfon at y myfyriwr yn awtomatig. Bydd y llythyrau hyn yn amlinellu penderfyniad adolygiad terfynol y Brifysgol, ac yn cael eu hanfon ymhen 5 diwrnod gwaith ar ôl gwneud y penderfyniad. Ar ôl derbyn y llythyr hwn oddi wrth y Dirprwy Is-Ganghellor (neu enwebai), ni nhw y penderfyniad ymhellach â’r myfyriwr nac ag unrhyw un arall.

13. Wedi derbyn ffurflen gyflawn gyda’r dystiolaeth atodol, dylid datrys pob Adolygiad ymhen 4 wythnos waith i’r dyddiad hwnnw. Os yw’n debygol y bydd yr ymateb yn hwyr yn dod, caiff y myfyriwr wybod pam y mae hynny, a chaiff wybod beth yw hynt yr ymateb.

14. Ar ôl mynd drwy’r holl weithdrefnau mewnol, mae’n bosib y gall myfyrwyr sy’n dal i fod yn anfodlon â’r canlyniad gwyno i Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol ar gyfer Addysg Uwch. Rhaid cyflwyno cwyn o’r fath i Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol ymhen deuddeg mis o ddyddiad Llythyr Cwblhau’r Weithdrefn oddi wrth y Brifysgol. Noder y bydd yn rhaid i fyfyrwyr gael copi o’r llythyr Cwblhau’r Weithdrefn yn eu meddiant os ydynt am gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol www.oiahe.org.uk neu drwy ffonio neu ysgrifennu ati yn y cyfeiriad isod:

OIAHE
Second Floor
Abbey Wharf
57-75 Kings Road
Reading
RG1 3AB
Ffôn: 0118 959 9813
Ebost: enquiries@oiahe.org.uk