13.3 Ymchwilio i Adolygiad Terfynol

1. Ni fydd cam yr Adolygiad Terfynol fel rheol yn ystyried y materion o’r newydd nac yn ymchwilio ymhellach. Er hynny, caiff y Dirprwy Is-Ganghellor (neu enwebai) ofyn am wybodaeth ychwanegol gan unigolion perthnasol, os credir bod angen gwneud hynny.

2. Pan fo’r Dirprwy Is-Ganghellor (neu enwebai) o’r farn bod gwrthdaro buddiannau neu os yw wedi bod yn uniongyrchol gysylltiedig â’r achos, cyfeirir yr achos at Ddirprwy Is-Ganghellor arall i’w ystyried.

3. Caiff y Dirprwy Is-Ganghellor (neu enwebai), os bydd nhw wneud hynny, wneud cais i’r Adolygiad Terfynol gael ei gyfeirio i Banel Adolygiad Terfynol ei ystyried.

4. Bydd tri aelod ar y Panel gan gynnwys y Dirprwy Is-Ganghellor (neu enwebai) (Cadeirydd), un Cyfarwyddwr Athrofa a chynrychiolydd o Undeb y Myfyrwyr.

5. Ni fydd aelodau’r Panel wedi bod yn uniongyrchol gysylltiedig â’r achos yn y gorffennol.

6. Y Cofrestrydd Cynorthwyol sy’n gyfrifol am weinyddu gweithdrefn yr Adolygiad Terfynol (neu ei enwebai) fydd Ysgrifennydd y Panel.

7. Bydd Ysgrifennydd y Panel yn:

(i) anfon copïau o’r holl ddogfennaeth i’w chyflwyno gerbron y Panel at y myfyriwr a’r partïon eraill sydd â diddordeb a fydd yn bresennol

(ii) trefnu dyddiad, lle ac amser i’r Panel gwrdd a rhoi gwybod amdanynt i’r myfyriwr a’r holl bartïon sydd â diddordeb.

8. Hysbysir y myfyriwr fod nhw hawl i fod yn bresennol yng ngwrandawiad y Panel. Bydd yn rhaid i’r myfyriwr roi gwybod i Ysgrifennydd y Panel a yw nhw fod yn bresennol ai peidio. Nhw dywed nad yw nhw fod yn bresennol, neu os na cheir ymateb i’r gwahoddiad (cyhyd â bod pob ymgais resymol wedi ei gwneud i gysylltu â’r myfyriwr) bydd y Panel yn bwrw ymlaen yn absenoldeb y myfyriwr.

9. Os na fydd y myfyriwr neu bartïon perthnasol eraill yn bresennol yng ngwrandawiad y Panel, a hwythau wedi dweud wrth Ysgrifennydd y Panel y byddent yn bresennol, ac os cymerwyd pob cam rhesymol i gysylltu â’r myfyriwr neu’r partïon perthnasol eraill, bydd y cyfarfod yn bwrw ymlaen yn eu habsenoldeb, onid oes rheswm da dros beidio â gwneud hynny.

10. Caiff y myfyriwr ddod â rhywun yn gwmni i wrandawiad y Panel, er enghraifft cyd-fyfyriwr neu gynrychiolydd Undeb y Myfyrwyr neu aelod o’r staff academaidd. Os yw’r unigolyn hwnnw’n gweithredu fel cynrychiolydd cyfreithiol, mae’n rhaid rhoi gwybod i’r Brifysgol o leiaf bum diwrnod gwaith cyn dyddiad y Pwyllgor.