13.2 Rhesymau dros Adolygiad Terfynol

1. Os bydd myfyriwr yn anfodlon â chanlyniad ffurfiol unrhyw un o’r Gweithdrefnau a nodir uchod, gallant ofyn am adolygiad, i’w gynnal gan Ddirprwy Is-Ganghellor, am y rhesymau hyn:

(i) Diffygion neu afreolaidd-dra yn y modd y cynhaliwyd y weithdrefn wrth ddod i’r canlyniad gwreiddiol, a’r rheini o natur a allai beri amheuaeth resymol ynghylch a ellid bod wedi effeithio ar y penderfyniad a wnaed. Rhaid cyflwyno tystiolaeth o afreolaidd-dra o ran y weithdrefn gyda’r cais am adolygiad

(ii) Tystiolaeth newydd nad oedd y myfyriwr yn gallu ei chyflwyno’n gynharach yn y broses, am resymau dilys, ac y byddai ei habsenoldeb wedi effeithio’n hanfodol ar y canlyniad. Rhaid cyflwyno tystiolaeth newydd gyda’r cais am adolygiad, a rhaid i’r myfyriwr ddangos rheswm da pam na chyflwynwyd y dystiolaeth yn gynharach yn y Weithdrefn cyn Cam yr Adolygiad Terfynol.

2. Rhaid cyflwyno cais am Adolygiad Terfynol, ar y Ffurflen Gais am Adolygiad Terfynol, fel rheol ymhen 10 diwrnod gwaith o ddyddiad y llythyr yn dweud wrth y myfyriwr am y canlyniad ffurfiol. Nid ystyrir ceisiadau am adolygiad a gyflwynir ar unrhyw ffurf arall. Caiff myfyrwyr nad ydynt yn dilyn y polisi eu cyfeirio at y broses iawn a’r cymorth sydd ar gael iddynt, lle credir bod hyn yn briodol. Rhaid i’r cais gynnwys tystiolaeth ategol briodol i gadarnhau’r materion dan sylw. Bydd y myfyriwr yn gyfrifol am ganfod a chyflwyno tystiolaeth briodol gyda’r apêl. Ni fydd y Brifysgol yn gwneud hyn ar ran y myfyriwr, oni bai fod rhywun sy’n gyflogedig gan y Brifysgol yn gweithredu fel cynrychiolydd enwebedig y myfyriwr. Ni fydd y Brifysgol yn gweithredu yn achos unrhyw apêl sy’n nodi y gellir gofyn am wybodaeth bellach ar ran y myfyriwr. Rhaid i unrhyw dystiolaeth a gyflwynir fod wedi ei ddilysu’n annibynnol, ac yn atgyfnerthu’r ffeithiau a amlinellir yn y cais – ni fydd datganiad personol gan y myfyriwr, wedi ei gyflwyno ar ei ben ei hun, yn cael ei ystyried yn ddigonol. Dim ond Adolygiadau Terfynol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ategol nas cyflwynwyd yn wreiddiol ar gyfer un o Weithdrefnau’r Brifysgol a nodir isod fydd y Brifysgol yn barod i’w hystyried. Nid ystyrir ceisiadau a gyflwynir heb dystiolaeth. Bydd adolygiadau nad ystyrir yn gymwys ar gyfer ystyriaeth bellach fel rheol yn cael eu gwrthod gan y Dirprwy Is-Ganghellor neu eu henwebai. Caiff y myfyriwr gydnabyddiaeth ysgrifenedig o’r ffurflen gais am adolygiad ymhen 5 diwrnod gwaith.

3. Os bydd myfyriwr yn penderfynu nad oes ganddo sail i wneud cais am Adolygiad Terfynol, gall ofyn am Lythyr Cwblhau’r Weithdrefn. Byddai hyn yn ofynnol os yw’r myfyriwr yn bwriadu gwneud cais am adolygiad o’r penderfyniad i Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol ar gyfer Addysg Uwch (OIA), ar yr amod bod cwyn y myfyriwr i’r Swyddfa honno yn gymwys dan ei Rheolau. Mae canllawiau ar gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol a’r ffurflen ar gyfer gwneud hynny ar gael ar wefan yr OIA: https://www.oiahe.org.uk/students/how-to-complain-to-us/