5.8 Adroddiadau

1. Mae PA yn gofyn i Arholwyr Allanol gyflwyno adroddiadau ysgrifenedig yn flynyddol ac ar ddiwedd eu cyfnod yn y swydd. Gwahoddir sylwadau Arholwyr Allanol ar y broses arholi, yn cynnwys sylwadau ar strwythur a chynnwys y cynllun astudio a’r modd y caiff ei ddysgu.

(i) Disgwylir i Arholwyr Allanol cynlluniau israddedig gwblhau adroddiad blynyddol i’w anfon trwy e-bost ymhen 4 wythnos ar ôl cyfarfod y Bwrdd Arholi terfynol ym Mehefin

(ii) Disgwylir i Arholwyr Allanol cyrsiau uwchraddedig trwy gwrs gwblhau dau adroddiad; adroddiad blynyddol i’w anfon trwy e-bost ymhen 4 wythnos ar ôl cyfarfod Bwrdd Arholi semester dau ym mis Mehefin, ac adroddiad byr i’w gyflwyno ar ddiwedd rhan traethawd hir y cynllun astudio (Tachwedd/Rhagfyr)

(iii) Os caiff Arholwr Allanol ei b/phenodi ar gyfer cynlluniau israddedig ac uwchraddedig, bydd y Brifysgol yn gofyn iddynt baratoi adroddiadau ar wahân ar ôl y Byrddau Arholi perthnasol

(iv) disgwylir i Arholwr Allanol ARCHE baratoi adroddiad ar ôl pob panel ARCHE. Dylid cyflwyno’r adroddiad trwy e-bost o fewn 4 wythnos i gyfarfod panel ARCHE.

(v)  Rhaid i arholwr allanol y TUAAU gyflwyno adroddiad blynyddol ar ôl prif Fwrdd Arholi'r TUAAU ym mis Chwefror, oni bai bod Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn gofyn iddo wneud fel arall.

vi) Rhaid i Arholwr Allanol y Senedd gwblhau adroddiad ar ôl pob Bwrdd Arholi’r Senedd. Dylai’r adroddiad gael ei gyflwyno drwy e-bost o fewn 4 wythnos i Fwrdd Arholi’r Senedd.

2. Dylai’r adroddiad blynyddol gynnwys sylwadau llawn ac adeiladol a fydd o gymorth wrth gynnal a chyfoethogi’r ddarpariaeth. Os yw’r adran yn ystyried bod y cynnwys yn anghyflawn neu’n annigonol, gallant ofyn i’r Arholwr Allanol am sylwebaeth bellach. Gofynnir i Arholwyr Allanol sy’n gyfrifol am Ddarpariaeth Gydweithredol yn y DU neu Dramor gwblhau’r adrannau perthnasol o’r adroddiad (Adran B ac Adran C yn ôl eu trefn).

3. Dylid anfon Adroddiadau Blynyddol i’r Gofrestrfa Academaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth ar gyfer eu trosglwyddo i’r adran berthnasol. Mae’r Brifysgol yn rhoi pwys sylweddol ar adroddiad yr Arholwr Allanol ac ni fydd y ffi a’r treuliau yn cael eu talu oni dderbynnir yr adroddiad. Os ceir achos o Arholwr yn gwrthod cyflwyno adroddiad, bydd gan yr Is-Ganghellor y grym i gymryd camau priodol i’w sicrhau, a/neu gall ddewis anfon llythyr i ddod â’i gytundeb i ben o ganlyniad.

4. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn cydnabod bod yr adroddiad wedi’i dderbyn ac yn trefnu’r tâl oni bai fod yr adroddiad heb gael ei gwblhau’n foddhaol; mewn achos o’r fath gwahoddir yr Arholwr Allanol i anfon fersiwn diwygiedig. Gofynnir i Adrannau ymateb yn uniongyrchol i’r Arholwyr ar ôl iddynt ystyried yr adroddiad a thrafod pryderon ynghylch trefniadau a phrosesau’r adran.

5. Cyhoeddir adroddiadau blynyddol, ac ymatebion adrannau, ar safle AberLearn Blackboard y Brifysgol a fydd ar gael i fyfyrwyr cofrestredig y Brifysgol. Mae’n bwysig felly na chyfeirir at ymgeiswyr unigol ac aelodau unigol o staff wrth eu henwau.

6. Bydd y Cyfadrannau yn llunio crynodeb o’r adroddiadau yn rhestru’r holl broblemau a godwyd gan yr Arholwyr Allanol, ac yn cadarnhau’r camau a gymerwyd wrth ymateb iddynt. Bydd y Gyfadran yn sicrhau bod pob Arholwr yn derbyn ymateb i’r pynciau a godwyd. Bydd y crynodeb o’r adroddiadau’n cael ei ystyried ar lefel y gyfadran ac yn cael ei anfon ymlaen at y Bwrdd Academaidd a fydd yn trafod y pryderon ar lefel y Brifysgol. Bydd pob Arholwr yn derbyn copi o gofnod perthnasol y pwyllgor, a all ofyn i’r Dirprwy Is-Ganghellor ymateb yn uniongyrchol i Arholwyr ynglŷn â phryderon penodol.

7. Bydd y Brifysgol yn rhoi sylw dyledus i’r pynciau a godwyd gan yr Arholwyr Allanol ac yn hysbysu’r Arholwyr o’r camau a gymerwyd wrth ymateb i’r sylwadau, neu’n egluro paham na weithredwyd yn ôl yr argymhellion. Ni fydd bob tro yn bosibl nac yn ddymunol i’r Brifysgol gyflawni’r hyn a argymhellir gan Arholwyr unigol. Rhaid ystyried yr argymhellion ochr yn ochr â sylwadau’r holl Arholwyr eraill a dangosyddion perfformiad perthnasol eraill.

8. Gall Arholwr Allanol sy’n ystyried hynny’n briodol anfon adroddiad cyfrinachol, ar wahân at yr Is-Ganghellor yn uniongyrchol er mwyn tynnu sylw at faterion sy’n achosi cryn bryder. Os byddant wedi dilyn yr holl weithdrefnau mewnol a pharhau yn bryderus, dylai Arholwyr Allanol nodi bod modd iddynt gysylltu â’r ASA. Ceir rhagor o wybodaeth ar: https://www.qaa.ac.uk/cy/hafan

9. Cyhoeddir y broses a'r amserlen ar gyfer derbyn ac ymateb i adroddiadau Arholwr Allanol (israddedig ac uwchraddedig trwy gwrs) yn Ffurflenni Templed Pennod 5.14.