5.6 Canllawiau ar Swyddogaeth Arholwyr Allanol

1. Penodir Arholwyr Allanol i gyflawni’r tasgau a nodir isod. Ar ôl cwblhau’r tasgau hyn, byddant yn rhoi gwybod, mewn perthynas â’r cynlluniau/modiwlau y maent yn gyfrifol amdanynt, a yw’r:

(i) Safonau a osodir yn briodol ar gyfer dyfarniadau’r rhaglen, neu elfennau o’r dyfarniad, trwy gyfeirio at y meincnodau pwnc cenedlaethol, manylion rhaglen PA a phwyntiau cyfeirio eraill.

(ii) Safonau perfformiad y myfyrwyr yn y rhaglen(ni), neu elfennau o’r rhaglen(ni), yn cymharu â safonau rhaglenni tebyg sefydliadau addysg uwch eraill yn y DU.

(iii) Trefniadau asesu, arholi a phennu dyfarniadau yn gadarn ac yn cael eu cynnal yn deg yn unol â chonfensiynau arholiadau a gweithdrefnau PA.

Er mwyn cyflawni’r swyddogaethau hyn, dylai fod gan Arholwyr Allanol yr hawl i weld gwybodaeth berthnasol ynglŷn â’r cynlluniau/modiwlau y maent yn gyfrifol amdant, gwaith myfyrwyr sy’n dilyn y cynlluniau/modiwlau dan sylw a chonfensiynau arholiadau a gweithdrefnau’r Brifysgol. Dylai Arholwyr Allanol sicrhau yn ogystal eu bod yn gyfarwydd ag agweddau perthnasol Cod Ansawdd Addysg Uwch yn y DU yr ASA, ac yn arbennig yr adrannau ar Arholi ac Asesu Allanol, y meincnodau pwnc perthnasol a’r Fframwaith Cymwysterau: https://www.qaa.ac.uk/cy/y-cod-ansawdd.

Disgwylir i bob modiwl sy’n cyfrannu at ddyfarniad, neu achrediad gan gorff achredu allanol, gael ei arholi’n allanol.

2. Disgwylir i Arholwyr Allanol fynychu cyfarfodydd Byrddau Arholi’r Adrannau perthnasol. Noder fod holl Fyrddau Arholi’r Senedd a Byrddau Arholi’r Adrannau bellach yn cael eu cynnal yn rhithiol gan ddefnyddio MS Teams, heblaw bod achos wedi cael ei gyflwyno’n llwyddiannus gan yr adran i’r Gofrestrfa Academaidd i’r bwrdd gael ei gynnal wyneb yn wyneb. Mae hyn yn cynnwys yr holl fyrddau trwy gwrs, gan gynnwys y bwrdd hyfforddiant ymchwil. Os na fydd Arholwr Allanol yn gallu mynychu cyfarfod Bwrdd Arholi, gwneir trefniadau eraill er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cyflawni’r tasgau a nodir isod.

3. Prif swyddogaeth Arholwyr Allanol yw cyflawni’r tasgau isod:

(i) Sicrhau eu hunain fod y trefniadau asesu yn unol â’r manylion rhaglen

(ii) Cymeradwyo cwestiynau’r papurau arholiad ac unrhyw ddulliau asesu eraill sydd fel arfer yn cael eu cymeradwyo ymlaen llaw gan Arholwr Allanol, ar gyfer semestrau un a dau

(iii) Cytuno â staff yr adrannau perthnasol ar drefn briodol ar gyfer samplo gwaith asesedig y myfyrwyr

(iv) Archwilio tystiolaeth i nodi ar ba sail y dyfarnwyd marciau

(v) Sicrhau eu hunain fod darpariaeth briodol ar gyfer ailfarcio a/neu gymedroli gwaith i’w asesu yn fewnol

(vi) Monitro, trwy ymgynghori â Bwrdd Arholi’r Adran, gysonder safonau ar draws elfennau/modiwlau cymharol y cynllun a chymeradwyo, lle bo angen, newidiadau i setiau marciau, hynny yw ar ôl adolygu’r holl farciau a ddyfarnwyd ar gyfer modiwl (neu fodiwlau) penodol, gwneud newidiadau priodol ar draws yr ystod farciau

(vii) Ar gais staff yr adran berthnasol, cynorthwyo i ddod i benderfyniad ar achosion unigol na fu modd i Arholwyr Mewnol eu datrys

(viii) Cyfrannu at yr argymhellion a wnaed gan Fwrdd Arholi’r Adran i Fwrdd Arholi’r Senedd o ran y dosbarthiadau gradd ar gyfer myfyrwyr anrhydedd sengl, ynglŷn ag a ddylai myfyrwyr uwchraddedig trwy gwrs basio’r radd â Rhagoriaeth neu Deilyngdod, neu hebddynt, ac ynglŷn â dyfarniadau ymadael ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn gallu, neu’n dymuno, parhau

(ix) Cyfrannu at yr argymhellion a wnaed gan Fwrdd Arholi’r Adran i Fwrdd Arholi’r Senedd ar gyfer myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig y mae eu perfformiad cyffredinol yn is na’r ‘drws trugaredd’

(x) Cyflwyno adroddiad i’r Brifysgol ar safonau perfformiad y myfyrwyr, safonau’r dyfarniadau a’r trefniadau ar gyfer asesu, arholi a phennu dyfarniadau

(xi) Cynnig sylwadau ar unrhyw gynnig ar gyfer cynllun astudio newydd neu ddiwygiedig mewn maes cysylltiedig.

4. Dylai Arholwyr Allanol ar gyfer cynlluniau uwchraddedig trwy gwrs hefyd gyflawni’r tasgau isod sy’n ymwneud â’r traethawd estynedig:

(i) Cytuno trefniadau samplo traethodau hir â staff yr Adran berthnasol (gweler Adran 3.2 y Llawlyfr Ansawdd Academaidd). Disgwylir fel arfer y bydd arholwyr cynlluniau â nifer fawr o fyfyrwyr yn samplo nifer penodol o draethodau estynedig yn hytrach nag edrych ar bob un.

(ii) Monitro, trwy ymgynghori â Bwrdd Arholi’r Adran, gysonder safonau wrth asesu traethodau estynedig.

5. Gall Arholwyr Allanol hefyd, trwy gytundeb â staff yr adran berthnasol, gyflawni’r tasgau ychwanegol isod:

(i) Cynnal arholiadau llafar (myfyrwyr ieithoedd modern

(ii) Cwrdd â sampl gynrychioladol o’r myfyrwyr er mwyn helpu i archwilio safonau.

(iii) Cwrdd â grŵp cynrychioladol o fyfyrwyr i gael barn myfyrwyr ar faterion sydd o fewn i gylch gwaith yr Arholwr Allanol.

(iv) Cynghori ynghylch strwythurau cyrsiau, a chynigion ar gyfer cynlluniau newydd, a modiwlau newydd a modiwlau wedi’u hailstrwythuro.

(v)  Rhaglenni astudio TAR Cynradd/Uwchraddedig gyda Statws Athro Cymwysedig (SAC) - cymryd rhan mewn llawer o leoliadau bob blwyddyn fel y cytunwyd ymlaen llaw â Phennaeth yr Adran/Cyfarwyddwr y Rhaglen.

(vi)  Cymrwyd rhan mewn digwyddiadau/ymweliadau eraill yn ôl yr angen ac fel y cytunwyd ymlaen llaw â Phennaeth yr Adran, er enghraifft yn rhan o gynlluniau sydd ag elfen ymarferol neu'r rhai sy'n gofyn i bobl fod yn aelod o gorff proffesiynol. 

6. NID yw’n arfer i Arholwyr Allanol Prifysgol Aberystwyth:

(i) Weithredu fel ail farcwyr ar gyfer aseiniadau cwrs neu sgriptiau arholiad.

(ii) Gwneud newidiadau dethol i farciau myfyrwyr unigol y cafodd eu gwaith ei gynnwys yn y sampl i’w hadolygu.

(iii) Defnyddio arholiadau llafar ar gyfer graddio perfformiad myfyriwr unigol neu grŵp o fyfyrwyr, oni chawsant eu cymeradwyo fel rhan ffurfiol o’r broses asesu ar gyfer modiwl penodol.

7. Bydd Arholwyr Allanol sydd, yn ystod y cyfnod marciau neu’n union wedi hynny, o’r farn fod ymgeisydd wedi ymddwyn yn annheg yn academaidd yn rhoi gwybod am yr amgylchiadau yn ysgrifenedig, yn ddiymdroi, i Gadeirydd y Bwrdd Arholi dan sylw.

8. Bydd Adolygwyr Allanol y Senedd yn goruchwylio gwaith Byrddau Arholi’r Senedd lle bydd holl ganlyniadau cynlluniau trwy gwrs yn cael eu cadarnhau. Eu gwaith fydd sicrhau bod y systemau cyffredin sy’n rheoli dyfarniadau israddedig ac uwchraddedig trwy gwrs yn cael eu gweithredu’n deg ac yn gyson ar draws y sefydliad. Gofynnir iddynt gyflawni’r tasgau isod yn benodol:

(i) mynychu Byrddau Arholi Israddedig terfynol y Senedd ym Mehefin/Gorffennaf bob sesiwn, a mynychu Bwrdd Arholi Uwchraddedig Terfynol y Senedd ym mis Rhagfyr. Ar ben hynny, dylent fod ar gael i ymgynghori â hwy yn ystod byrddau arholi semester un a chyfnod y byrddau arholi atodol.

(ii) llofnodi’r Ffurflenni Hysbysiad o Ganlyniadau sy’n cadarnhau bod y dosbarthiadau gradd a’r canlyniadau uwchraddedig a ddyfarnwyd i fyfyrwyr wedi eu dyfarnu mewn modd teg a chyson ac yn unol â rheolau, rheoliadau a chonfensiynau arholiadau PA.

(iii) cynnig sylwadau a chyngor i Fyrddau Arholi’r Senedd wrth drafod penderfyniadau sy’n effeithio ar ddosbarthiadau gradd neu ganlyniadau uwchraddedig myfyrwyr unigol.

(iv) llunio adroddiad ar weithrediad y Bwrdd, gan nodi a gafodd ei weithredu’n deg ac yn gyson ac yn unol â gweithdrefnau PA, a oedd safonau’r dyfarniadau yn unol â sefydliadau eraill y mae’r arholwyr yn gyfarwydd â hwy, a chynnig sylwadau ar sut y gellid gwella’r drefn.

9. Ar yr adegau hynny pan nad oes modd i’r Adolygwr Allanol fod yn bresennol, a hynny’n gyfan gwbl ar fyr rybudd, byddai’r Cofrestrydd Academaidd yn ceisio: 

(i) sicrhau bod modd i Adolygwr Allanol y Senedd gymryd rhan trwy gyfrwng fideogynadledda neu’r ffôn

(ii) cysylltu ag un sydd eisoes yn Arholwr Allanol i fod yn bresennol yn y bwrdd yn lle’r Adolygwr

(iii) cysylltu ag un sydd eisoes yn Arholwr Allanol i gymryd rhan trwy gyfrwng fideogynadledda neu’r ffôn.

10. Fel arfer, gofynnir i Arholwyr Cyswllt gadarnhau’n unig fod y safonau ar y modiwl(au) a gymedrolwyd ganddynt yn briodol. Os ydynt yn cydweithio â phrif Arholwr Allanol, ni fydd disgwyl iddynt fynychu Byrddau Arholi, er gallant ddewis gwneud hynny. Os nad oes prif Arholwr Allanol, bydd gofyn iddynt fynychu Byrddau Arholi.