5.1 Cyflwyniad

1. Mae rôl Arholwr Allanol yn rhan gyfannol a hanfodol o Sicrwydd Ansawdd y Brifysgol. Datblygwyd pennod 5 y Llawlyfr Ansawdd trwy gymryd i ystyriaeth, a dylid ei ddarllen ar y cyd â’r, Cod Ansawdd Addysg Uwch yn y DU yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (2018 a diweddariadau Mai 2023), yn arbennig y Cod Ansawdd, Cyngor a Chyfarwyddyd: Arbenigedd Allanol (a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2018). Y Fframweithiau ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch Cyrff Dyfarnu Graddau'r DU (Chwefror 2024),  Egwyddorion Archwilio Allanol (cyhoeddwyd Awst 2022), Arholi Allanol: Rhoi egwyddorion ar waith, Egwyddorion Arholi Allanol: Cwestiynau Myfyriol (Cyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2022) a Hanfodion Arholi Allanol AU Ymlaen (a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2019).

2. Yn yr adran hon o’r Llawlyfr Ansawdd, mae’r term ‘Arholwyr Allanol’ yn cyfeirio at Arholwyr Allanol ar gyfer Graddau trwy Gwrs; graddau cyntaf, diplomâu a thystysgrifau israddedig ac uwchraddedig (yn cynnwys y Dystysgrif Addysg Uwch), cynlluniau Meistr uwchraddedig trwy gwrs (graddau Meistr trwy arholiad a thraethawd estynedig) a chynlluniau Meistr israddedig integredig. Mae Adolygwr Allanol y Senedd yn cyfeirio at Arholwr Allanol sy’n mynychu Byrddau Arholi terfynol y Senedd pan gadarnheir holl ganlyniadau cynlluniau trwy gwrs. Mae Arholwr Allanol ARCHE yn cyfeirio at berson allanol sy’n rhan o ddau banel blynyddol Cynllun ARCHE (Addysgu a Chynorthwyo Dysgu mewn Addysg Uwch), lle mae ymgeiswyr yn dod yn Gymrodyr o’r Academi Addysg Uwch. Bydd gan Arholwyr Allanol Cyswllt gyfrifoldeb dros niferoedd bychain o fodiwlau mewn meysydd arbenigol ac mae’n bosibl y bydd angen iddynt adrodd i’r prif Arholwr Allanol ar gyfer y cynllun/pwnc. Mae’r holl Arholwyr Allanol yn atebol yn y pen draw i’r Senedd, sy’n gyfrifol am drefnu holl arholiadau Prifysgol Aberystwyth (PA).

3. Gweler Adran 7: Graddau Ymchwil i gael cyfarwyddyd ar drefniadau arholi allanol y Brifysgol ar gyfer Graddau Ymchwil Uwchraddedig.