4.19.3 Myfyrwyr sydd wedi dechrau Gradd Meistr ERS mis Medi 2024

1. I basio Gradd Meistr Drwy Gwrs, rhaid i’r myfyriwr gael:

(i) cyfartaledd cyffredinol wedi’i bwysoli o 50% o leiaf

(ii) marciau o 50% neu fwy mewn modiwlau sy’n werth o leiaf 160 credyd o’r cyfanswm o 180 credyd a wneir mewn cynllun Gradd Meistr Drwy Gwrs.

2. I basio Gradd Meistr Drwy Gwrs gyda Theilyngdod, rhaid i’r myfyriwr gael:

(i) cyfartaledd cyffredinol wedi’i bwysoli o 60% o leiaf

(ii) marciau o 50% neu fwy mewn modiwlau sy’n werth o leiaf 160 credyd o’r modiwlau a wneir mewn cynllun Gradd Meistr Drwy Gwrs.

3. I basio Gradd Meistr Drwy Gwrs gyda Rhagoriaeth, rhaid i’r myfyriwr gael:

(i) cyfartaledd cyffredinol wedi’i bwysoli o 70% o leiaf

(ii) marciau o 50% neu fwy mewn modiwlau sy’n werth o leiaf 160 credyd a wneir mewn cynllun Gradd Meistr Drwy Gwrs.

4. I fod yn gymwys i gael Diploma Uwchraddedig, rhaid i fyfyriwr:

(i) gwblhau lleiafswm o 120 credyd

(ii) gael marciau o 50% neu fwy mewn modiwlau sy’n werth o leiaf 100 credyd

(iii) gael cyfartaledd wedi’i bwysoli o 50% o leiaf dros 120 credyd.

Os oes mwy na 120 o gredydau wedi eu cwblhau, defnyddir y 120 credyd o farciau uchaf er mwyn cyfrifo’r marc cyffredinol, a hynny er mwyn penderfynu a yw’r diploma wedi ei basio a dosbarth y dyfarniad.

Bydd myfyriwr sydd wedi cael marc cyffredinol o 70% neu fwy yn gymwys i gael Rhagoriaeth.

Bydd myfyriwr sydd wedi cael marc cyffredinol o 60-69% yn gymwys i gael Teilyngdod.

5. I fod yn gymwys i gael dyfarniad Tystysgrif Uwchraddedig rhaid i fyfyriwr basio lleiafswm o 60 credyd. Os yw myfyriwr wedi cwblhau mwy na 60 credyd, defnyddir y 60 credyd o farciau uchaf er mwyn cyfrifo’r marc cyffredinol a phennu dosbarth y dyfarniad.

Bydd myfyriwr sydd wedi cael marc cyffredinol o 70% neu fwy yn gymwys i gael Rhagoriaeth.

Bydd myfyriwr sydd wedi cael marc cyffredinol o 60-69% yn gymwys i gael Teilyngdod.

6. NID yw marciau lleoliadau gwaith yn cyfrif yn nosbarth gradd ac nid yw credydau a ddyfarnwyd am gwblhau lleoliad diwydiannol yn cael eu cynnwys wrth ddyfarnu PGCert neu PGDip.

Cywiro Methiant

7. Caiff myfyrwyr sy’n ailsefyll modiwlau a fethwyd wneud hynny ddwywaith i gael marc uchaf o 50% (ac eithrio pan fydd amgylchiadau arbennig wedi’u derbyn). Dyfernir bod gwaith sydd heb ei gyflwyno, yn cynnwys y traethawd hir, wedi ei fethu, a chaniateir ailsefyll hwn hefyd am farc o 50% ar gyfer y modiwl, wedi ei gapio. Fodd bynnag, nid oes modd i fyfyrwyr ailsefyll er mwyn gwella dosbarth y dyfarniad, wedi iddynt gymhwyso.

8. Fel arfer, bydd myfyrwyr Gradd Meistr amser llawn yn cofrestru am gyfnod o 12 mis.  Bydd ganddynt derfyn amser o dair blynedd ar y mwyaf o’r dyddiad dechrau er mwyn cwblhau’r radd. Yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf yn y flwyddyn gyntaf, mae modd iddynt ailsefyll uchafswm o 60 credyd o fodiwlau trwy gwrs a fethwyd, ond mae modd iddynt ohirio ailsefyll y modiwlau trwy gwrs. Fodd bynnag, mae’n rhaid ailsefyll y modiwlau hyn yn y flwyddyn ddilynol, un ai yn ystod y semester neu/ac yng nghyfnod ailsefyll yr haf. Mae hyn yn caniatáu hyblygrwydd i fyfyrwyr gyda’u trefniadau ailsefyll a’r traethawd hir yn y flwyddyn gyntaf.

9. Mae modd i fyfyrwyr Meistr amser-llawn sydd heb basio’r traethawd hir, neu heb ei gyflwyno o fewn y cyfnod cofrestru 12 mis, ei gyflwyno neu ei ailgyflwyno unrhyw bryd hyd at ddiwedd yr ail flwyddyn. Byddai ganddynt gyfle olaf i ailgyflwyno yn ystod y drydedd flwyddyn.

10. Caniateir ailsefyll am farciau llawn pan fydd amgylchiadau arbennig wedi eu cymeradwyo, a gall myfyrwyr dynnu’n ôl am gyfnod, ond disgwylir y byddant yn cwblhau o fewn 3 blynedd ar y mwyaf. Mewn amgylchiadau eithriadol, gall y Dirprwy Is-Ganghellor gymeradwyo cyfnod pellach o 12 mis.

11. Bydd myfyrwyr Gradd Meistr amser llawn ar gynlluniau sy’n para’n hirach, megis gradd Meistr 18 mis neu ddwy flynedd, yn cael hyd at 2 flynedd ar ôl diwedd y cyfnod cofrestru i gwblhau eu gradd. Byddant yn cael ailsefyll uchafswm o 60 credyd o fodiwlau a fethwyd yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf yn y flwyddyn gyntaf neu'r ail, yn dibynnu pryd y maent yn cofrestru’n wreiddiol, ond gallant ddewis gohirio'r arholiadau hynny. Fodd bynnag, rhaid iddynt gael eu cwblhau erbyn diwedd y drydedd flwyddyn. Mae hyn yn caniatáu hyblygrwydd i reoli asesiadau ailsefyll, ac yn cydnabod y gallai fod yn anodd i fyfyrwyr ailsefyll tra’n cwblhau lleoliadau mewn diwydiant neu’n mynychu prifysgol bartnerol. Mewn amgylchiadau eithriadol, gall y Dirprwy Is-Ganghellor gymeradwyo cyfnod pellach o 12 mis.

12. Pan fydd cwrs yn dechrau ar adeg heblaw am ddechrau sesiwn academaidd ac na ellir, am resymau ymarferol, ei gwblhau o fewn 12 mis o astudio amser llawn neu'r hyn sy'n cyfateb yn rhan-amser, bydd yr adran yn pennu hyd y cwrs. Bydd y cyfnodau a ganiateir er mwyn cywiro methiant yn dilyn egwyddorion y rheoliadau ar gyfer cyrsiau 12 mis, h.y. dwy flynedd ar ôl cwblhau'r cyfnod cofrestru.

13. Bydd gan fyfyrwyr ar gyrsiau Diploma a Thystysgrif gyfnod ychwanegol o 12 mis ar ôl diwedd cyfnod y cwrs er mwyn cwblhau unrhyw asesiadau ailsefyll.

14. Mae cyfnod cyrsiau ymgeiswyr Meistr rhan-amser a Dysgu o Bell yn hwy, ac mae ganddynt hyblygrwydd er mwyn ailsefyll modiwlau yn ystod y cyfnodau hynny. Dylent fod wedi cwblhau asesiadau ailsefyll unrhyw fodiwlau trwy gwrs cyn dechrau blwyddyn olaf eu terfyn amser hwyaf.