4.11.4 Dosbarthu Gradd
1. Bydd y radd sylfaen gyfan yn cael ei dyfarnu ar sail cyfartaledd wedi’i bwysoli o farciau’r holl fodiwlau (ac eithrio’r lleoliad), fel pasio (40-54%), gyda theilyngdod (55-69%) neu gyda rhagoriaeth (70% ac uwch).
2. Wrth gyfrif y marc cyfartaledd wedi’i bwysoli bydd y rheolau a ganlyn yn berthnasol.
3. Bydd marciau yn cael eu pwysoli yn unol â gwerth credydol pob modiwl (h.y. bydd gan fodiwlau 20 credyd bwysau ddwywaith mwy na modiwlau 10 credyd, ac ati).
4. Bydd marciau yn cael eu trefnu mewn ‘rhaeadr’ yn unol â’r rheolau a ganlyn:
Band 3: Bydd yr 80 credyd gorau ar Lefel Dau yn derbyn pwysoliad o 3
Band 2: Bydd gweddill credydau Lefel Dau, a 40 credyd gorau Lefel Un, yn derbyn pwysoliad o 2
Band 1: Bydd gweddill credydau Lefel Un yn derbyn pwysoliad o 1
5. Mae'r flwyddyn lleoliad rhyng-gwrs yn ddi-gredyd ac ni fydd pwysoliad iddi yn y rhaeadr, ond mae'n rhaid ei chwblhau'n foddhaol.
6. Wrth ddyrannu marciau i Fandiau, ni fydd yr un marc Lefel Un yn gallu ymddangos mewn Band uwch na’r band y mae marc Lefel Dau yn ymddangos ynddo.