4.3.3 Dyfarnu gradd Baglor i fyfyrwyr sy’n astudio cynlluniau Meistr Integredig
1. Bydd myfyrwyr sydd wedi casglu 360 o gredydau, gyda 120 o gredydau yr un ar Lefelau Un, Dau a Thri, ond sydd yn methu â mynd ymhellach â’r cynllun, neu yn methu â chasglu 120 o gredydau eraill ar Lefel M neu gymhwyso ar gyfer y radd Meistr Integredig, yn gallu, ar argymhelliad y Bwrdd Arholi, cael gradd Baglor, ar yr amod eu bod yn bodloni gofynion y cynllun hwnnw. Pennir dosbarth y radd drwy ddefnyddio’r confensiynau ar gyfer graddau Baglor, h.y. cynnwys holl fodiwlau’r ail a’r drydedd flwyddyn yn y Rhaeadr, a hepgor modiwlau Lefel M. Rhaid i’r myfyrwyr fodloni’r holl ganlyniadau dysgu ar gyfer y cynllun Baglor.