4.3.2 Myfyrwyr a ddechreuodd ar Ran Dau Cynllun Meistr Integredig ERS mis Medi 2019
1. Y marc pasio modiwl ar Lefel Dau a Lefel Tri yw 40%. Y marc pasio modiwlau ar Lefel M yw 50%.
2. Ni chaiff myfyrwyr fethu mwy nag 20 credyd ar draws Lefel Dau a Lefel Tri ac ni chânt fethu mwy nag 20 credyd ar Lefel M, sy’n cyfrannu at ddosbarthiad terfynol eu dyfarniad (ac eithrio modiwlau Lefel S), h.y. marciau a gafwyd yn ystod blwyddyn ryng-gwrs).
3. Bydd gofyn i fyfyrwyr sicrhau cyfartaledd cyffredinol o 55% yn yr ail flwyddyn i fynd ymlaen i’r drydedd flwyddyn. Rhaid i’r myfyrwyr basio o leiaf 100 credyd yn yr ail flwyddyn i fynd ymlaen i’r drydedd flwyddyn. Bydd gofyn i’r myfyrwyr sy’n methu bodloni’r gofyniad hwn drosglwyddo i radd Baglor. Mae’n rhaid i fyfyrwyr basio’r ail flwyddyn er mwyn caniatáu iddynt fynd ymlaen i’r flwyddyn mewn diwydiant.
4. Fel arfer dim ond DAU gyfle y bydd myfyrwyr yn ei gael i ailsefyll modiwlau a fethwyd (â dangosydd F) ar Lefel Dau a Thri, a hynny i gael y marc pasio moel o 40%. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr sydd wedi methu 80 credyd neu lai gymryd y cyfle cyntaf i ailsefyll yr holl asesiadau yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst. Rhaid cymryd yr ail gyfle i ailsefyll unrhyw fodiwlau a fethwyd yn ystod y sesiwn ddilynol, yn y semester y caiff y modiwl ei ddysgu, neu y cafodd ei ddysgu ynddo o’r blaen.
5. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr ail-wneud y flwyddyn os ydynt wedi methu mwy na 80 credyd.
6. Fel arfer, dim ond DAU gyfle y bydd myfyrwyr yn ei gael i ailsefyll modiwlau a fethwyd ar Lefel M, a hynny i gael y marc pasio moel o 50%. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr sydd wedi methu 80 credyd neu lai gymryd y cyfle nesaf i ailsefyll yr holl asesiadau yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst. Rhaid cymryd yr ail gyfle i ailsefyll unrhyw fodiwlau a fethwyd yn ystod y flwyddyn ddilynol, yn y semester y caiff y modiwl ei ddysgu, neu y cafodd ei ddysgu o’r blaen.
7. Fel arfer, dim ond UN cyfle y bydd myfyrwyr yn ei gael i ailsefyll modiwl i gael y marc llawn (gydag arwydd ailsefyll H), a hynny YN UNIG pan fydd amgylchiadau arbennig wedi eu hystyried a’u cymeradwyo gan y Brifysgol. Bydd hyn yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst os ydynt wedi methu 80 credyd neu lai, neu trwy ail-wneud y flwyddyn.
8. Caiff myfyrwyr gael eu hasesu ar hyd at 80 o gredydau yn ystod cyfnod ailsefyll yr haf ym mis Awst. Ni chaniateir i fyfyrwyr sydd wedi methu mwy na 80 credyd i ailsefyll ym mis Awst o gwbl, a bydd yn rhaid iddynt ail-wneud y flwyddyn.
9. I fynd ymlaen o’r drydedd flwyddyn astudio, rhaid i’r myfyrwyr basio o leiaf 220 o gredydau a gymerwyd ym mlynyddoedd 2 a 3.
10. Ni chaiff myfyrwyr sydd wedi ymgymhwyso am radd fynd ymlaen wedi hynny i gymryd cyfleoedd ailsefyll gydag arwydd ailsefyll F. Gall myfyrwyr sydd ddim eto wedi ymgymhwyso gymryd unrhyw gyfleoedd ailsefyll sy’n weddill er mwyn eu galluogi i gyrraedd y safon sy’n ofynnol.