4.17 Llechen Lân
1. Mae hyn yn berthnasol i'r israddedigion hynny a ddechreuodd ar eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Aberystwyth yn fyfyrwyr cofrestredig CYN Medi 2016 YN UNIG ac a ddechreuodd Ran Dau CYN Medi 2017. Fel rheol caniateir dau gyfle ailsefyll i fyfyrwyr a ddechreuodd Ran Dau ERS Medi 2017, a hynny am farc wedi ei gapio yn unol â’r hyn a amlinellir yn Adrannau 4.2, 4.3 a 4.7 y Llawlyfr, ond ni chaniateir iddynt gael llechen lân.
2. Gyda chytundeb y Brifysgol, gellir caniatáu i fyfyriwr ailsefyll Blwyddyn 2 (Blwyddyn 1 ar gyfer myfyrwyr Gradd Sylfaen) yn ei chyfanrwydd ar gyfer y marciau llawn yn hytrach nag ailsefyll y credydau a fethwyd yn unig.
3. Er mwyn i hyn gael ei gymeradwyo, rhaid i’r myfyriwr gytuno’n ffurfiol i ildio’r holl farciau a gafodd eisoes. Ni fydd y rhain yn cyfrif bellach tuag at ddosbarth terfynol y radd ac ni ellir ail-alw arnynt os na bydd y myfyriwr yn perfformio cystal yn ystod y flwyddyn ailsefyll. Yr unig eithriad fyddai achosion o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol lle dyfernir dangosydd N; gall fod angen ystyriaeth bellach.
4. Ni fydd ceisiadau myfyrwyr yn cael eu hystyried hyd nes bydd marciau semester dau wedi eu cyhoeddi ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf.
5. Dim ond unwaith y caiff myfyrwyr ddechrau â llechen lân, a hynny gyda chymeradwyaeth eu Cyfadrannau.
6. Ni chaiff myfyrwyr ond ddechrau â llechen lân yn y cyd-destun ei bod yn ofynnol iddynt gwblhau gradd sylfaen ddwy flynedd amser llawn cyn pen pedair blynedd a gradd sylfaen dair blynedd cyn pen pum mlynedd.
7. Os bydd myfyrwyr yn dewis dechrau â llechen lân, dylid nodi y bydd trawsgrifiad y flwyddyn derfynol a’r Cofnod Cyrhaeddiad Addysg Uwch yn cynnwys cofnod o’r marciau a gafwyd yn ystod y flwyddyn.
8. Cyfrifoldeb y myfyrwyr yw cadarnhau a fydd unrhyw effaith ar eu fisâu, fel y bo’n briodol.