4.15 Confensiynau Dyfarnu Tystysgrifau neu Ddiplomâu Addysg Uwch
1. Gellir dyfarnu Tystysgrifau a Diplomâu Addysg Uwch yn gymwysterau ynddynt eu hunain i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau cynlluniau astudio a gymeradwywyd gan y Brifysgol yn llwyddiannus.
2. Yn ogystal, gellir dyfarnu Tystysgrifau a Diplomâu Addysg Uwch yn gymwysterau i fyfyrwyr a enillodd gredydau sy'n annigonol er mwyn cael gradd, yn amodol ar ofynion penodol y cynllun.
3. Bydd y confensiynau a ganlyn yn berthnasol i’r achosion a nodir yn y paragraff uchod:
Tystysgrifau Addysg Uwch
4. Ennill 120 credyd yn unol â’r confensiynau sydd fel arfer yn rheoli cwblhau Rhan Un cynlluniau gradd a chynlluniau Graddau Sylfaen.
Diplomâu Addysg Uwch
5. I fod yn gymwys i gael Diploma Addysg Uwch rhaid bod y myfyrwyr wedi:
(i) dilyn o leiaf 240 credyd i gyd, gydag o leiaf 100 o’r credydau hynny ar Lefel Dau neu’n uwch
a
(ii) cael marc pasio o 40 mewn o leiaf 90 credyd ym Mlwyddyn Dau (neu’r hyn sy’n cyfateb iddi) neu 120 credyd dros Ran Dau yn ei chrynswth (ac eithrio modiwlau Lefel S).
6. Drwy'r cynllun Crynhoi a Throsglwyddo Credydau, gall myfyrwyr â chymwysterau addas gael eu heithrio o hyd at 120 credyd ar Lefel Un.
7. Ni fydd myfyrwyr sy’n gadael dros dro gyda’r bwriad o ddychwelyd at eu hastudiaethau’n ddiweddarach yn gymwys i gael Tystysgrif na Diploma Addysg Uwch.