4.13 Y Trothwy (Confensiynau Graddau Anrhydedd)

1. Mae’r rheolau a ganlyn yn berthnasol wrth weithredu’r Trothwy:

Pwysau Marciau

2. Pan fydd cyfartaledd rhaeadr myfyrwyr o fewn 1%* i unrhyw ffin, RHAID eu codi i’r dosbarth uwch, ar yr amod eu bod yn bodloni un o’r gofynion hyn:

NAILL AI mae o leiaf 50% o gredydau Rhan Dau yn eu crynswth, ac eithrio Blwyddyn Ryng-gwrs neu Flwyddyn Dramor, yn y dosbarth uwch neu drosodd

NEU

mae o leiaf 80 credyd o blith 120 credyd olaf Rhan Dau yn y dosbarth uwch neu drosodd.

* caiff cyfartaleddau rhaeadr a ddangosir hyd at un pwynt degol er gwybodaeth i’r byrddau arholi eu talgrynnu i fyny (0.5 ac yn uwch) neu i lawr (<0.5) i’r cyfanrif agosaf.

Amgylchiadau arbennig

Yn berthnasol i fyfyrwyr a ddechreuodd CYN mis Medi 2024 (h.y. gweithrediad Trothwy 2%))

3. Pan fydd cyfartaledd rhaeadr myfyrwyr o fewn 2% i unrhyw ffin, CANIATEIR eu codi i’r dosbarth uwch ar argymhelliad y Bwrdd Arholi, os yw salwch neu amgylchiadau tosturiol eraill wedi effeithio ar eu perfformiad yn Rhan Dau (er enghraifft amgylchiadau personol neu deuluol), a’r rheini heb gael eu hystyried eisoes pan gadarnhawyd marciau modiwlau unigol.

4. At ddibenion y rheol hon, caiff cyfartaleddau rhaeadr a ddangosir hyd at un pwynt degol er gwybodaeth i’r byrddau arholi eu talgrynnu i fyny (0.5 ac yn uwch) neu i lawr (<0.5) i’r cyfanrif agosaf.

5. Ni ddylid defnyddio’r Trothwy ond pan ddaw amgylchiadau arbennig neu academaidd i’r amlwg, na chawsant eisoes eu hystyried pan gadarnhawyd marciau modiwlau unigol.

6. Dylid cadw cofnod o bob penderfyniad, naill ai o blaid neu yn erbyn ymhob achos ymylol, fel y gellir amddiffyn y penderfyniad yn y dyfodol os oes angen.

7. Pan fo byrddau adrannol yn gwybod am amgylchiadau arbennig, ond nad ydynt yn eu cymryd i ystyriaeth wrth bennu marciau a chaniatáu ailsefyll, dylai’r achosion unigol gael eu trafod a’u cofnodi ym Mwrdd Arholi’r Adran yn y semester pan fydd y broblem yn codi. Pan fo myfyrwyr o fewn 2% i’r categori uwch, ni ddylid eu codi i’r categori uwch ar sail amgylchiadau arbennig oni bai fod y broblem wedi’i thrafod a’i chofnodi ar yr adeg y bu iddi godi NEU os nad oedd y broblem yn hysbys i’r byrddau arholi blaenorol.