4.5 Cynlluniau Gradd gyda Blwyddyn Ryng-gwrs, neu gynlluniau nad ydynt yn rhai ieithyddol ond sy'n cynnwys blwyddyn yn Astudio Dramor Cynlluniau.
1. Bydd y rheol arferol bod yn rhaid llwyddo mewn 100 credyd ym mhob blwyddyn astudio er mwyn symud ymlaen yn cael ei weithredu ar gyfer y Flwyddyn Ryng-gwrs.
2. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr sy’n methu symud ymlaen ar ddiwedd Blwyddyn 2 (neu’r flwyddyn gyfatebol cyn y flwyddyn mewn diwydiant neu’r flwyddyn yn astudio dramor) gwblhau a phasio asesiadau ailsefyll yr haf ym mis Awst neu ailadrodd y flwyddyn cyn dechrau ar y Flwyddyn Ryng-gwrs.
3. Bydd y Flwyddyn Ryng-gwrs yn cael ei marcio yn unol â’r meini prawf a gyhoeddwyd ar gyfer asesu. Bydd Bwrdd Arholi’r Senedd yn mynnu bod myfyrwyr nad ydynt yn cyflawni’r canlyniadau dysgu ac yn sicrhau marc isaf o 40% neu’n cwblhau’r flwyddyn yn llwyddiannus yn symud i gynllun gradd cytras nad yw’n cynnwys y flwyddyn integredig mewn diwydiant / blwyddyn integredig yn astudio dramor. Mae’n bosibl na fydd cyfle i ailsefyll os yw’r dyddiad cau ar gyfer yr asesiad yn cael ei bennu yn yr haf ar ôl byrddau arholi semester dau a bod y marc ar gyfer y Flwyddyn Ryng-gwrs yn cael ei ystyried ym mwrdd arholi mis Medi.
4. Mewn achosion lle bydd myfyrwyr yn dychwelyd o raglenni cyfnewid neu flwyddyn astudio dramor heb gredyd digonol neu/ynghyd â methiannau, dylai byrddau arholi adrannol gyflwyno argymhellion cynnydd i Fwrdd Arholi’r Senedd. Ystyrir pob argymhelliad gan banel amgylchiadau arbennig yn adrodd i Fwrdd Arholi’r Senedd, yn unol â’i gylch gorchwyl.