4.4 BVSc Gwyddor Filfeddygol (blynyddoedd 1 a 2): Rheolau Cynnydd

1. Rheolau symud ymlaen

1.1 Mae'r rheolau ar gyfer blwyddyn 1 a 2 yr un fath

1.2 Y marc pasio ar gyfer modiwlau yw 50%. Rhaid i ymgeiswyr gael marc o 50% neu fwy ym mhob modiwl

1.3 Rhaid pasio pob modiwl, h.y. 120 o gredydau, er mwyn symud ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf.

2. Ailsefyll yn ystod y cyfnod ailsefyll atodol - Bydd angen i fyfyrwyr ailsefyll ac/neu ailgyflwyno'r elfen(nau) a fethwyd yn ystod cyfnod ailsefyll mis Awst. Bydd y marc ar gyfer y modiwlau hynny yn cael ei gapio ar 50%. Ni fydd unrhyw gyfyngu ar nifer y modiwlau y gellir eu hailsefyll yn ystod y cyfnod ailsefyll.

3. Ailadrodd blwyddyn

3.1 Bydd angen i fyfyrwyr sy'n ailadrodd blwyddyn ailsefyll yr holl fodiwlau a'r holl asesiadau cyfatebol eto; bydd marc cyffredinol y modiwlau yn cael ei gapio ar 50%. Rhaid pasio’r flwyddyn yn ei chyfanrwydd ac ni fydd marciau modiwlau blaenorol yn cyfrif.

3.2 Gall myfyrwyr ailadrodd naill ai'r flwyddyn gyntaf neu'r ail flwyddyn ond ni chânt ailadrodd y ddwy. Bydd y cyfnod cofrestru hwyaf ar gyfer elfen rag-glinigol y radd yr un fath ag ar gyfer cwrs BVetMed y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol h.y. 3 blynedd. Dim ond mewn achosion eithriadol y gellir estyn y cyfyngiad amser gyda chymeradwyaeth gan y Brifysgol.

4. Bydd polisi Amgylchiadau Arbennig PA yn berthnasol - gan gynnwys mewn perthynas ag absenoldeb o asesiad - gweler Amgylchiadau Arbennig ac Addasiadau Rhesymol yn y LlAA.

5. Cyflwyno gwaith yn hwyr - rhoddir marc o 0 i waith a gyflwynir yn hwyr oni bai bod estyniad wedi ei ganiatáu. Ymdrinnir â cheisiadau am estyniadau gan ddefnyddio polisi estyniadau PA.

6. Gofynion Ychwanegol er mwyn Symud Ymlaen i Gam Nesaf y Cwrs

Ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd cyn mis Medi 2024

6.1 I symud ymlaen i Flwyddyn 2. Yn ogystal â phasio'n gyffredinol, rhaid i fyfyrwyr fod wedi cwblhau o leiaf 6 wythnos o Efrydiau Allanol Hwsmonaeth Anifeiliaid (AHEMS) (yn unol â'r canllawiau AHEMS sy'n berthnasol i'w blwyddyn astudio) cyn dechrau Blwyddyn 2 y cwrs BVSc. Fel arfer, bydd angen i fyfyrwyr nad ydynt wedi cwblhau'r 6 wythnos ohirio symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf.

6.2 I symud ymlaen i Flwyddyn 3. Yn ogystal â phasio'n gyffredinol, rhaid i fyfyrwyr fod wedi cwblhau o leiaf 12 wythnos o Efrydiau Allanol Hwsmonaeth Anifeiliaid (AHEMS) (yn unol â'r canllawiau AHEMS sy'n berthnasol i'w blwyddyn astudio) cyn dechrau Blwyddyn 3 y cwrs BVSc. Fel arfer, bydd angen i fyfyrwyr nad ydynt wedi cwblhau'r 12 wythnos ohirio symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf.

Ar gyfer myfyrwyr a ddechreuodd ers mis Medi 2024

6.3 I symud ymlaen i Flwyddyn 2. Yn ogystal â phasio'n gyffredinol, rhaid i fyfyrwyr fod wedi cwblhau o leiaf 5 wythnos o Efrydiau Allanol Hwsmonaeth Anifeiliaid (AHEMS) (yn unol â'r canllawiau AHEMS sy'n berthnasol i'w blwyddyn astudio) cyn dechrau Blwyddyn 2 y cwrs BVSc. Fel arfer, bydd angen i fyfyrwyr nad ydynt wedi cwblhau'r 5 wythnos ohirio symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf.

6.4 I symud ymlaen i Flwyddyn 3. Yn ogystal â phasio'n gyffredinol, rhaid i fyfyrwyr fod wedi cwblhau o leiaf 10 wythnos o Efrydiau Allanol Hwsmonaeth Anifeiliaid (AHEMS) (yn unol â'r canllawiau AHEMS sy'n berthnasol i'w blwyddyn astudio) cyn dechrau Blwyddyn 3 y cwrs BVSc. Fel arfer, bydd angen i fyfyrwyr nad ydynt wedi cwblhau'r 10 wythnos ohirio symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf.

7. Dosbarthiad y Radd (defnyddir i bennu Pwyntiau Anrhydedd wrth ddyfarnu BVSc)

7.1 Bydd ymgeisydd sydd, ar yr ymdrech gyntaf, yn cael marc cyfartalog o 70% neu fwy ar gyfer y flwyddyn yn pasio â Rhagoriaeth.

7.2 Bydd ymgeisydd sydd, ar yr ymdrech gyntaf, yn cael marc cyfartalog rhwng 65 a 69% ar gyfer y flwyddyn yn pasio â Theilyngdod.

8. Dyfarniadau gadael - gweler hefyd Gonfensiynau PA ar gyfer Dyfarnu Tystysgrifau neu Ddiplomâu Addysg Uwch

8.1 Bydd ymgeisydd sy'n cael marc cyffredinol o 40% neu fwy ym mlwyddyn 1 ond nad yw'n parhau â'i astudiaethau yn gymwys am ddyfarniad Tystysgrif Addysg Uwch (Gwyddor Filfeddygol Rag-glinigol).

8.2 Bydd ymgeisydd sy'n cael marc cyffredinol o 40% neu fwy ym mlwyddyn 2 ond nad yw'n parhau â'i astudiaethau yn gymwys am ddyfarniad Diploma Addysg Uwch (Gwyddor Filfeddygol Rag-glinigol).

9. Trosglwyddo i gynlluniau eraill

9.1 Cynlluniau'r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol. Ni chaniateir trosglwyddo i'r BVetMed ym mlwyddyn 3.

9.2 Yn achos cynlluniau eraill y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol, bydd dosbarthiad terfynol y radd yn seiliedig ar y marciau a gafwyd ar raglen newydd y myfyriwr, h.y. dim ond y credydau fydd yn cael eu trosglwyddo a bydd dosbarthiad y radd yn seiliedig ar farciau Blwyddyn 3.

9.3 Cynlluniau PA: Bydd ymgeisydd sy'n cael marc cyffredinol o 40% neu fwy ym Mlwyddyn 1 neu Flwyddyn 2, ond nad yw'n symud ymlaen i astudio ar y cwrs BVSc, yn gymwys i wneud cais i drosglwyddo i raglen briodol yn PA dan y rheolau Achredu Dysgu trwy Brofiad Blaenorol (APEL).

9.4 Gan ddibynnu a yw myfyriwr yn cael ei dderbyn i flwyddyn 2 ynteu flwyddyn 3 ar gynllun priodol yn PA, mae'n bosibl y bydd marciau modiwlau blwyddyn 2 yn cael eu cynnwys wrth gyfrifo'r rhaeadru ar gyfer pennu'r dyfarniad terfynol, mewn trafodaethau â'r adran.

Mae manylion y rheoliadau asesu a dyfarnu ar gyfer blynyddoedd 3, 4 a 5 a'r system pwyntiau Anrhydedd ar gael trwy dudalennau gwe'r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol: https://www.rvc.ac.uk/about/the-rvc/academic-quality-regulations-procedures#

 

Medi 2024