2.2 Cymeradwyo Modiwlau

1. Caiff trefn y Brifysgol o Gymeradwyo Modiwlau ei goruchwylio gan y Bwrdd Academaidd. Y Cyfadrannau sy’n gyfrifol am gymeradwyo modiwlau newydd a modiwlau wedi’u had-drefnu, mân newidiadau i fodiwlau, gohirio a dileu modiwlau. Dylid cyflwyno cynigion am fodiwlau newydd a modiwlau wedi’u had-drefnu ar-lein gan ddefnyddio system Rheoli Modiwlau APEX a’u cyflwyno i’r Gyfadran berthnasol i’w hystyried. Dylai aelod academaidd annibynnol o staff graffu’r cynigion; bydd yr adolygydd yn cael ei enwebu yn rhan o’r llif gwaith cymeradwyo modiwl a dylent lenwi’r adran adolygu cyn i’r modiwl gael ystyriaeth pwyllgor y gyfadran briodol. Yn dilyn cymeradwyaeth y Gyfadran, bydd y Swyddfa Gweinyddiaeth Myfyrwyr yn cael gwybod am y newidiadau a fydd yn cael eu cofnodi ar y gronfa ddata modiwlau. Dylid cyflwyno modiwlau Dysgu o Bell sy’n seiliedig ar fodiwlau campws cyfredol, a modiwlau cyfrwng Cymraeg sy’n efelychiadau uniongyrchol o fodiwlau sydd wedi’u cymeradwyo, neu’r ffordd arall, gan ddefnyddio’r system APEX.

2. Dylai pob modiwl sy’n newydd ac sydd wedi’i ailstrwythuro gael cymeradwyaeth y Gyfadran a dylid diweddaru’r wybodaeth ar y gronfa ddata modiwlau a chynlluniau ar gyfer y sesiwn academaidd nesaf erbyn diwedd tymor y gwanwyn neu heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth os yw tymor y gwanwyn yn gorffen ar ôl y dyddiad hwn.

3. Dylid gwneud mân newidiadau drwy ddefnyddio system Rheoli Modiwlau APEX ond ni fydd angen adolygydd mewnol ar gyfer, er enghraifft newid teitl, newidiadau bach yn y cynnwys, newid o ran pwysiant asesu nad yw’n effeithio ar ganlyniadau dysgu, a newidiadau o ran semester. Rhaid cwblhau’r broses gymeradwyo lawn os ceir newidiadau sylweddol i gynnwys y modiwl, ei ganlyniadau dysgu neu drefn asesu.

4. Dylid cyflwyno cynigion i ddileu a/neu ohirio modiwlau i’r Gyfadran i’w cymeradwyo. Dylid cyfeirio ymholiadau am ddileu neu ohirio modiwl i’r Gyfadran yn y lle cyntaf. Dylid diweddaru’r modiwl yn APEX i wneud cais i ddileu/gohirio, a chaiff y cais ei ystyried wedyn gan y Gyfadran.

5. Yn rhan o’r broses gymeradwyo mewn Cyfadran, dylai’r Gyfadran sy’n gyfrifol am yr addysgu sicrhau bod ganddi’r adnoddau angenrheidiol i gyflwyno’r modiwl.

6. Nid bwriad y Llawlyfr Ansawdd Academaidd yw darparu geiriad penodol ar gyfer cymeradwyo modiwlau, ond mae’n ceisio egluro rhai o’r cwestiynau cyffredin. Mae newidiada modiwl sy’n gorfod derbyn cymeradwyaeth y Gyfadran yn cynnwys:

(i) Newid sylweddol i gynnwys y modiwl

(ii) Unrhyw newid yn y lefel a ddynodir

(iii) Unrhyw newid o ran pwyso credydau

(iv) Unrhyw newid yn y canlyniadau dysgu a/neu ddulliau asesu.

7. Caiff yr angen am fodiwl sy’n newydd neu wedi’i ad-drefnu ei gydnabod ar lefel adran neu bwnc, a dynodir Cydlynydd Modiwl i arwain ar ddrafftio’r cynnig.

8. Caiff cynnig drafft ei baratoi yn defnyddio system Rheoli Modiwlau APEX a’r canllawiau a geir yn adran 2.2 o’r Llawlyfr Ansawdd.

9. Dylid cyflwyno’r cynnig i adolygydd modiwl (a enwebir gan y Deon Cysylltiol/Cyfadran). Mae’r broses adolygu ar wahân i unrhyw graffu adrannol o gynigion modiwl. A dylai cyfadrannau sicrhau bod cynigion modiwl yn cael eu craffu gan aelod academaidd annibynnol o staff na fu â rhan yn y gwaith o baratoi’r modiwl neu unrhyw graffu adrannol neu broses cymeradwyo blaenorol.

10. Dylai’r asesydd ystyried y modiwl, darparu adborth adeiladol o fewn APEX ac argymell un o’r camau gweithredu canlynol:

(i) Cymeradwyo’r cynnig

(ii) Cyfeirio at y Gyfadran i’w drafod ymhellach neu’n ehangach, neu gymeradwyo’n amodol ar ddiwygiadau a nodir

(iii) Cyfeirio’n ôl at y cydlynydd modiwl i’w ddatblygu ymhellach.

11. Dylai’r cynnig modiwl/ailstrwythuro wedi’i gwblhau, gan gynnwys sylwadau gan yr adolygydd annibynnol, gael ei gymeradwyo gan pwyllgor Cyfadran priodol.

12. Unwaith y bydd modiwl wedi’i gymeradwyo’n llwyr, bydd y modiwl/newidiadau’n cael eu hychwanegu i’r Gronfa Ddata Modiwlau. Bydd y Gwasanaethau Gwybodaeth, y Swyddfa Amserlennu a’r Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd yn cael eu hysbysu’n awtomatig drwy’r llif gwaith yn APEX.

13. Ni fydd modiwlau newydd yn ymddangos ar y gronfa ddata tan y bydd y broses gymeradwyo ffurfiol wedi’i chwblhau ar lefel cyfadrannol.

14. Mewn achosion lle mae trothwy isaf yn cael ei osod ar gyfer modiwl dewisol, mae’n rhaid i’r adran academaidd roi gwybod i’r myfyrwyr nad oes sicrwydd y bydd y modiwl yn cael ei gynnal os yw nifer y myfyrwyr sy’n cofrestru ar ei gyfer yn isel, ac y gallai myfyrwyr orfod dewis eto. Yn yr un modd, dylid rhoi gwybod i fyfyrwyr pan fo nifer y cofrestriadau ar fodiwl wedi’i gapio, a darparu eglurhad clir.

Canllawiau ar Gwblhau’r broses Cymeradwyo Modiwl yn APEX

15. Defnyddir yr wybodaeth ar y system Rheoli Modiwlaul yn sail i’r holl ddogfennau modiwl perthnasol, gan gynnwys ar gronfa ddata modiwlau PA ac yn llawlyfrau’r cynlluniau gradd. Dylid ystyried yn ofalus faint o fanylion a fydd yn ymddangos ar y we yng nghyd-destun canllawiau’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (https://www.gov.uk/government/collections/higher-education-consumer-law-advice-for-providers-and-students). Dylai unrhyw wybodaeth a gyhoeddir fod yn ddigon manwl i ganiatáu i fyfyrwyr cyfredol a darpar fyfyrwyr wneud dewisiadau gwybodus, ond nid mor llawn fel y byddai mân newidiadau - nad ydynt yn effeithio ar ganlyniadau nac asesiadau - yn sbarduno’r angen i gyflwyno cymeradwyaeth modiwl lawn.

16. Gosodir dyddiad cau terfynol ar gyfer cynigion modiwl Rhan Dau mewn pryd ar gyfer cofrestru dros dro yn ystod y sesiwn cyn yr un y bwriedir cyflwyno’r modiwl ynddi. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol, a fyddai’n codi, er enghraifft, o newidiadau staff, y dylai Cyfadrannau ystyried cynigion am fodiwlau a gyflwynir ar ôl y dyddiad hwnnw.

Adrannau Ffurflen Ar-lein

17. Mae’r adran ragarweiniol hon ar y ffurflen ar-lein yn cynnwys gwybodaeth gefndirol y modiwl. Yn gyffredinol mae’r cwestiynau yn rhai gweinyddol a hunanesboniadol ac yn bwysig ar gyfer y gronfa ddata modiwlau a monitro gwiriadau ansawdd ar bortffolio’r modiwl.

Gwybodaeth Gefndirol

  • Cydlynydd y Modiwl: Os cynigir y bydd y modiwl yn cael ei gydlynu a/neu fod cyfran sylweddol o’r addysgu’n cael ei wneud gan rywun nad yw’n aelod o PA, dylid cyflwyno CV cryno ar gyfer yr unigolyn/ion dan sylw gyda’r Ffurflen Cymeradwyo Modiwl i bwyllgor priodol y Gyfadran.
  • A oes goblygiadau o ran strwythur unrhyw gynlluniau astudio yn codi o’r modiwl? Cofiwch am fodiwlau a ddefnyddir gan sefydliadau partner ac y gallai newidiadau sylweddol i graidd cynllun neu newid yn lefel y modiwl arwain at anghydbwysedd yn y semestrau.
  • Dylid bod yn ofalus o ran gorgyffwrdd ag adrannau eraill. Gellir gwneud chwiliad am deitlau a/neu gynnwys tebyg drwy ddefnyddio’r gronfa ddata modiwlau. Os defnyddir yr adran hon i ddynodi cydrannau ategol, nodwch unrhyw debygrwydd a gwahaniaeth yn lefel y cynnwys yn ogystal â thestun y cynnwys. A yw’r modiwl arfaethedig yn datblygu pynciau a gyflwynir mewn modiwl arall, yn darparu gwybodaeth graidd i fodiwlau eraill, neu’n plethu ar yr un lefel?

Sail Resymegol a Chynnwys y Modiwl

18. Dylai hwn fod mor wrthrychol â phosibl. Gall fod gan y cynigydd syniad clir iawn o werth arfaethedig y modiwl a’i ganlyniadau ond gallai hyn fod yn llai amlwg i rywun sy’n edrych o’r tu allan i’r ddisgyblaeth.

  • Sail resymegol academaidd: Dylai hyn gynnwys gwybodaeth gefndir e.e. bwriad i lenwi bwlch yn y portffolio o fodiwlau a/neu sgiliau; nod i wella cyflogadwyedd myfyrwyr, neu wella eu gallu i drin materion cymhleth gydag amrywiaeth o sgiliau academaidd/technegol. Gellir cynnig rhai amcanion penodol e.e. yn ymwneud â’r disgwyliad y bydd y rhaglen arfaethedig yn bodloni gofynion achrediad proffesiynol neu y bydd y modiwl yn helpu i fodloni gofynion diwygiedig; y bydd y myfyrwyr yn cael sgiliau TGCh mwy cyfredol neu y byddant yn cael sgiliau TGCh ehangach y gellid eu diweddaru’n rheolaidd mewn cyflogaeth neu gydag astudio pellach. Ni fydd yr wybodaeth hon yn ymddangos yn y gronfa ddata modiwlau.
  • Disgrifiad cryno: Dylai hwn fod yn grynodeb o gynnwys y modiwl, wedi’i anelu at gynulleidfa o fyfyrwyr (dim mwy na 150 o eiriau). Bydd yr wybodaeth hon yn ymddangos yn y gronfa ddata modiwlau.
  • Cynnwys: Bydd yr wybodaeth hon yn ymddangos yn y gronfa ddata modiwlau. Mae angen i’r wybodaeth fod yn gymharol fanwl a dylai gynnwys y pynciau sydd i’w trafod a dylai grybwyll y gyfran amser a’r math o gyflwyno y dylid eu disgwyl fel darlithoedd, seminarau a/neu fathau eraill o gyflwyno. Os yw cydweithwyr yn rhy ragnodol wrth osod cynnwys y cwrs, gallai gyfyngu ar eu gallu i gyflwyno diwygiadau i ddarlithoedd neu seminarau unigol mewn ymateb i ddatblygiadau yn y maes neu werthusiadau modiwl. Gellir cyhoeddi’r cynllun wythnosol manwl yn cynnwys darlithoedd, seminarau ac ati ar Blackboard, mewn llawlyfrau modiwl neu gyfatebol fel elfennau o gyflwyno a allai newid o flwyddyn i flwyddyn heb fod newid i’r cynnwys a fyddai’n golygu cymeradwyaeth drwy system Rheoli Modiwlau APEX.

Canlyniadau Dysgu ac Asesiadau

19. Dylid pennu’r lefel arfaethedig (0, 1, 2, 3, M, etc.) yng nghyswllt disgrifyddion lefel PA a gytunwyd; gweler Atodiad 3.1.21.

  • Canlyniadau Dysgu: Y fformat safonol yw ‘Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr' gyda rhestr wedi’i rhifo o ganlyniadau dysgu’n dilyn. Nid oes rhaid i’r rhestr fod yn nhrefn pwysigrwydd o reidrwydd; mae’r canlyniadau wedi’u rhifo er mwyn hwyluso ymateb i’r cwestiwn sut maent yn gysylltiedig â’r dulliau asesu. Fel arfer gellid pennu 3- 8 o ganlyniadau dysgu i fodiwl 10 credyd.

Dysgu ac Asesu

  • Asesu: Bydd yr wybodaeth hon yn ymddangos yn y gronfa ddata modiwlau ac mae’n cysylltu’n uniongyrchol â’r meddalwedd trefnu amserlen ac arholiadau. Nodwch hyd yr arholiadau, manylion y gwaith cwrs, a chanran pwysiant bob un gan egluro sut mae pob canlyniad dysgu’n gysylltiedig â’r dulliau asesu. Mae asesu’n cyfeirio at bob dull a ddefnyddir i fesur cynnydd myfyrwyr drwy’r modiwl a’u perfformiad. Mae asesiadau ffurfiannol a chrynodol yn berthnasol.
  • Asesu: Dylid pennu’r dulliau asesu h.y. arholiad ysgrifenedig nas gwelwyd (traethawd, ateb byr, cwestiynau amlddewis ac ati) a gwaith cwrs (llafar, portffolio, perfformiad, traethawd ac ati) gyda’r hyd/raddfa. Dylid cynnwys pob elfen mewn asesiad crynodol fel cyfran o’r asesiad cyflawn. Mae hyn yn hanfodol wrth fonitro’r berthynas rhwng asesu a phwyso credydau a llwyth gwaith y myfyriwr. Os yw’r canlyniadau dysgu yn disgrifio dull dysgu sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr gyda dull seiliedig ar grŵp, ond bod yr asesu’n bennaf yn arholiad ysgrifenedig nas gwelwyd, caiff anghysondeb ei ddatgelu.
  • Asesiad Ailsefyll: Mae hyn yn cyfeirio at gyfleoedd i ailsefyll, gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi’n glir os bydd cyfle i ailsefyll a pha fath o asesiad fydd hwn. Dylai fformat yr asesiad ailsefyll fod yr un fath â’r asesiad semester oni bai ei fod yn amhosibl ei atgynhyrchu e.e. gwaith grŵp neu ymarferol. Dylai unrhyw elfennau a basiwyd fel arfer gael eu dwyn ymlaen.

Sgiliau

20. Gallai datblygu un neu ragor o’r sgiliau a restrir yn yr adran hon fod yn echblyg yn rhaglen y modiwl. Os felly, dylid nodi natur y sgiliau sydd i’w datblygu. Ar ben hyn, os yw’r sgiliau’n cael eu hasesu’n ffurfiol, dylid nodi hyn fel ie/na. Gweler y rhestr gymeradwy o sgiliau ar ddiwedd y bennod hon.

Gwybodaeth Gyffredinol Arall

21. Rhestr Ddarllen a Llyfryddiaeth: Pe byddai amcan o destunau hanfodol a darllen pellach yn cynorthwyo’r drefn cymeradwyo modiwl, dylid ychwanegu hyn yn Lyfryddiaeth Fynegol. Os yw’r Llyfryddiaeth gyfan yn cael ei darparu, dylid cysylltu â’r llyfrgellydd pwnc i drafod ymhellach. Mae canllawiau ynglŷn â Rhestrau Darllen Aspire wedi’u cyhoeddi yn: https://faqs.aber.ac.uk/802.

22. Adnoddau: Dylai gofynion Llyfrgell a TG gynnwys amcangyfrif o ba mor aml y defnyddir TG e.e. oes angen labordy cyfrifiadurol bob wythnos, yn ysbeidiol ac ati? Pa feddalwedd sydd ei angen, pa gyfleusterau argraffu? Ceir rhagor o wybodaeth am ba un ai y byddai o fudd gwneud addysgu sgiliau gwybodaeth yn rhan annatod o fodiwl gan y Llyfrgellydd Pwnc. I gael rhagor o wybodaeth cyfeiriwch at y Datganiad Llythrennedd Gwybodaeth. Dylid ymgynghori â’r Llyfrgellydd Pwnc hefyd wrth ystyried tanysgrifiad newydd i gefnogi astudiaethau’r modiwl, e.e. cyfnodolyn neu gronfa ddata.

Tystiolaeth o Graffu Annibynnol

23. Dylai adolygydd sy'n aelod annibynnol o'r staff academaidd ac nad ydyw wedi ymwneud ag ysgrifennu’r modiwl graffu ar gynigion modiwl; dylech enwebu adolygydd gan ymgynghori â’ch Adran a/neu Gyfadran.  Dylai’r adolygydd lenwi’r rhan hon o'r ffurflen a chysylltu â’r cynigydd, a ddylai wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i’r ffurflen a/neu roi ymateb yn y sylwadau. Os yw modiwl yn gyfieithiad uniongyrchol o fodiwl sydd eisoes wedi’i gymeradwyo, nid oes angen cwblhau’r adran hon.

Cymeradwyaeth

24. Mae modiwlau’n amodol ar gymeradwyaeth gan y pwyllgor priodol ar lefel gyfadrannol. Ar ôl cwblhau’r broses gymeradwyo fewnol yn y Gyfadran bydd y Gofrestrfa Academaidd yn trosglwyddo’r data o APEX i’r gronfa ddata modiwlau.

Disgrifyddion Lefel

25. Wrth bennu natur y galwadau mae’r modiwl yn eu gwneud ar fyfyrwyr dylid cyfeirio at y disgrifyddion lefel a gytunwyd ar gyfer Prifysgol Aberystwyth: gweler 3.1.21 y Llawlyfr Ansawdd.

Canlyniadau Dysgu

26. Dylai Canlyniadau Dysgu’r modiwl ddilyn y canllawiau canlynol:

  • Dylai canlyniad fynegi’r hyn y dylai myfyrwyr allu ei wneud ar ôl cwblhau’r modiwl.
  • Gall y rhestr o ganlyniadau wahaniaethu rhwng canlyniadau ‘penodol’, a asesir yn uniongyrchol a chanlyniadau ‘cyffredinol’ sy’n ehangach eu natur ac nad oes modd eu hasesu’n uniongyrchol gyda’r dulliau asesu mewn unrhyw modiwl unigol.
  • Dylid mynegi canlyniad mewn geiriau sy’n golygu bod modd rhagweld y byddai myfyriwr yn gallu ei gyflawni ar raddfa ‘yn llwyr’ i ‘yn rhannol’ a ‘dim o gwbl’.
  • Dylai’r gofynion ar fyfyrwyr, fel y’i nodir gan y canlyniadau dysgu arfaethedig, fod yn briodol i lefel y modiwl (gweler disgrifyddion lefel y sefydliad ar gyfer yr hyn a olygir gan ‘lefel 1’ ac ati).
  • Dylai fod modd asesu’r canlyniadau ar draws holl ystod y garfan o fyfyrwyr y mae’r modiwl wedi’i gynllunio ar eu cyfer.
  • Byddai set o ganlyniadau modiwl fel arfer yn cynnwys amrediad o fathau o gyrhaeddiad myfyrwyr (gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau).
  • Ni ddisgwylir y byddai mwy na 8 canlyniad yn cael eu dynodi ar gyfer un modiwl penodol.

Geirfa canlyniadau

27. Nid oes geirfa benodol ar gyfer canlyniadau dysgu. Fodd bynnag, mae’n werth cadw’r canlynol mewn cof.

  • Dylai berfau a ddefnyddir i ddisgrifio canlyniadau fod yn weithredol a dangos, os yw’r canlyniad am gael ei asesu, y gallu i fesur pob canlyniad trwy asesiad ffurfiannol neu grynodol. Er enghraifft os disgwylir i fyfyrwyr ‘ddeall’ cysyniad, gallai fod yn well nodi y dylai myfyrwyr allu ‘dynodi’ nodweddion y cysyniad, ‘disgrifio’ ei werth wrth egluro ffenomen, ‘dangos’ defnydd o’r cysyniad a ‘gwerthuso’ ei arwyddocâd. Gellid ystyried y canlyniadau hyn fel ffordd fesuradwy i fynegi’r ddealltwriaeth y byddem yn disgwyl i fyfyrwyr ei chaffael.
  • Mae dealltwriaeth yn cynnwys achosion penodol iawn, yn yr enghraifft hon, o ddynodi, disgrifio a dangos. Fodd bynnag ceir amrywiaeth o lefelau canolradd o ddiffiniadau. Gallai geirfa o’r fath gynnwys ‘dynodi’n feirniadol’, ‘dangos gallu’, ‘gallu cymhwyso/trafod’ a ‘defnyddio amrywiaeth’. Gallai’r rhain hefyd fodloni gofynion mesur. Yn amlwg bydd hyn yn amrywio’n fawr rhwng ac o fewn disgyblaethau.

28. Mae’r tabl isod yn cynnwys rhagor o’r berfau llai mesuradwy a thermau amgen y gellid eu cysylltu’n agosach â dulliau asesu. Yn amlwg, mae’r rhain yn benodol i’r cyd-destun ac mae modd cyfnewid rhai â’i gilydd. Nid yw hon yn rhestr holl gynhwysfawr.

Berf gyffredinol

Berf fesuradwy

Deall

Dangos dealltwriaeth o

Bod yn ymwybodol

Disgrifio, dangos, trafod

Amgyffred

Dadansoddi, Gwerthuso

Cymathu

Egluro, Cyfosod

Sefydlu

Dangos, Dynodi, Rhestru, Nodi, Cyfiawnhau

Gwerthfawrogi

Dadansoddi, Gwerthuso, Cymharu

Ymwybyddiaeth

Cyfathrebu, Egluro

Gwneud

Perfformio

Gwybod

Diffinio, Gwahaniaethu, Gwerthuso

 

Sgiliau ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol

Datrys problemau'n greadigol

Cyfleoedd sy'n herio, yn gwneud i'r myfyriwr feddwl drostynt eu hunain a/neu gynnwys dod o hyd i ffyrdd gwahanol o weithio'n greadigol. Yn cynnwys gwneud penderfyniadau, ffyrdd mentrus o feddwl, dulliau amgen, arloesi, menter.

Meddwl beirniadol a dadansoddol

Y gallu i gasglu data gofynnol yn gyflym a dadansoddi a gwerthuso sefyllfaoedd a gwybodaeth yn gynhwysfawr i lywio penderfyniadau/meddwl. Yn cynnwys llythrennedd gwybodaeth, y gallu i gynllunio ymchwil, casglu data priodol, ystyried persbectifau a safbwyntiau amgen, dod i gasgliadau, bod yn rhesymegol, rhesymu a dadansoddi meintiol, adnabod rhagfarn a chamwybodaeth.

Hyblygrwydd a gwydnwch

Y gallu i ddelio ag amgylchiadau ac amgylcheddau sy'n newid. Addasu i weithio gyda phobl eraill sydd â dewisiadau a blaenoriaethau gwahanol. Addasu i gyfathrebu â gwahanol gynulleidfaoedd. Yn cynnwys cydnabyddiaeth bod galluoedd yn tyfu dros amser; dysgu drwy gamgymeriadau; derbyn adborth yn gadarnhaol; beirniadaeth adeiladol.

Gallu digidol

Cysyniad eang sy'n cwmpasu llythrennedd yn y cyfryngau a gwybodaeth, ymchwil ddigidol a datrys problemau, creadigrwydd gydag offer digidol yn ogystal â rheoli dulliau cyfathrebu a chyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd. Yn cynnwys parodrwydd i roi cynnig ar dechnolegau newydd, addasu i ddulliau digidol o weithio, dealltwriaeth o ôl troed digidol a'i effaith.

Adlewyrchu

Trwy drafod a thasgau, cyfleoedd i ddeall eu profiadau, eu rhinweddau a'u dyheadau eu hunain. Dysgu dan arweiniad myfyrwyr. Darparu cyfleoedd i nodi a mynd i'r afael â chryfderau a gwendidau. Yn gysylltiedig â Rhestrau Gwirio Sgiliau GraddedigionAber a Gridiau Cynllunio, HGM, gan gydnabod datblygu sgiliau a chynnydd personol, cynllunio gyrfa, asesu diddordebau a gwerthoedd, adborth ac asesu.

Cyfathrebu proffesiynol

Gosod cyfathrebu ysgrifenedig, llafar, gweledol, rhifiadol a digidol yng nghyd-destun y gweithle. Yn cynnwys y gallu i ddangos empathi drwy osod eu hunain yn esgidiau pobl eraill, i ddeall eu teimladau, ac i helpu i ddatrys eu problemau, i gydnabod dulliau cyfathrebu priodol sy'n gysylltiedig â chynulleidfaoedd gwahanol, defnyddio dulliau iaith a chyfathrebu'n briodol, defnyddio data meintiol mewn ffyrdd priodol i wella dealltwriaeth, i ystyried cynnwys cyfathrebu a'r cywair a ddefnyddir.

Synnwyr byd go iawn

Dysgu yn seiliedig ar ymchwilio i faterion byd go iawn (PBL/CBL).

Cyfraniadau gan gyn-fyfyrwyr, ymarferwyr ac entrepreneuriaid.

Profiad – dysgu seiliedig ar ymarfer sy’n seiliedig ar waith neu ar y gymuned.

Datblygu sgiliau mewn: menter, annibyniaeth, gweithio yn rhan o dîm, ymdopi â phwysau, cyfathrebu'n effeithiol, rheoli amser, gwneud penderfyniadau, bod yn gyfrifol, cydnabod rhagfarn a chamwybodaeth, addasu, cynllunio, cydlynu a threfnu, cydnabod trosglwyddedd sgiliau, trosi labeli sgiliau yn y byd academaidd i'r rhai a ddefnyddir yn y gweithle – sy'n gysylltiedig â Rhestrau Gwirio Sgiliau GraddedigionAber. Cyfeirir atynt weithiau fel ymwybyddiaeth fasnachol.

Cydgysylltu ag eraill

Cydweithio fel grŵp, gyda chanlyniad a rennir ac a asesir fel cyfanrwydd, trafod, dylanwadu.

Cydweithredol, fel grŵp, gyda chanlyniad a rennir ond a asesir yn unigol

Datblygu arweinyddiaeth drwy gyfleoedd i:

  • ysgogi a chyfarwyddo eraill
  • cymryd cyfrifoldeb am gyfeiriad a gweithredoedd tîm
  • defnyddio blaengaredd, cymryd cyfrifoldeb a pherchnogaeth o broblemau.