10.1.4 Seiliau ar gyfer Apelio

1. O dan y Rheoliad Academaidd ar Gynnydd Academaidd, caiff apeliadau eu hystyried ddim ond os ydynt yn seiliedig ar un neu fwy o'r seiliau canlynol ac y cyflwynir tystiolaeth ategol nad oedd ar gael i'w chyflwyno i'w hystyried gan y Bwrdd Arholi perthnasol, neu'r adran academaidd berthnasol a fu’n ystyried cynnydd academaidd myfyriwr:

(i) Amgylchiadau esgusodol eithriadol sydd wedi cael effaith andwyol ar berfformiad academaidd y myfyriwr. Pe gallai’r myfyriwr fod wedi rhoi gwybod am yr amgylchiadau eithriadol cyn

(a) rhyddhau canlyniadau’r arholiadau
neu
(b) eu gwahardd, ni cheir cyflwyno’r amgylchiadau hynny’n sail dros apelio yn ddiweddarach.

(ii) Diffygion neu afreoleidd-dra wrth gynnal asesiadau neu yn y cyfarwyddiadau ysgrifenedig a ddarparwyd, neu'r cyngor a roddwyd, a allai fod wedi cael effaith andwyol ar berfformiad myfyriwr. Pe gallai’r myfyriwr fod wedi rhoi gwybod am ddiffygion neu afreoleidd-dra cyn rhyddhau

(a) eu canlyniadau
neu
(b) eu gwahardd, ni cheir cyflwyno’r amgylchiadau hynny’n sail dros apelio yn ddiweddarach

(iii) Tystiolaeth o ragfarn, neu ogwydd, neu asesiad annigonol ar ran un neu fwy o'r arholwyr, neu dystiolaeth o ragfarn neu ogwydd ar ran yr unigolyn/unigolion sy'n gweinyddu'r Rheoliad Academaidd ar Gynnydd Academaidd. Pe gallai’r myfyriwr fod wedi rhoi gwybod am ddiffygion neu afreoleidd-dra cyn rhyddhau

(a) eu canlyniadau
neu
(b) eu gwahardd, ni cheir cyflwyno’r amgylchiadau hynny’n sail dros apelio yn ddiweddarach.

2. Dim ond os gall y myfyriwr roi rhesymau da i esbonio pam nad oedd sail yr apêl wedi'i roi i’r adran academaidd na/neu i'r Bwrdd Arholi perthnasol yn flaenorol y caiff apêl ei hystyried.

3. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd amgylchiadau lliniarol eithriadol (yn ymwneud â materion yn gysylltiedig â’r Brifysgol, trafferthion personol neu feddygol, neu unrhyw broblem arall), na chawsant eu cyflwyno i adran academaidd y myfyriwr erbyn y dyddiad priodol yn cael eu hystyried yn sail i apêl (er enghraifft os nad oedd y myfyriwr yn gallu datgelu’r amgylchiadau ymlaen llaw oherwydd cyflwr meddygol a oedd yn ei rwystro rhag gwneud hynny).

4. Er bod y Brifysgol yn caniatáu cyflwyno amgylchiadau esgusodol a thystiolaeth ategol yn gyfrinachol, ni fydd y ffaith nad oedd myfyriwr yn dymuno datgelu gwybodaeth bersonol yn cael ei hystyried yn amgylchiad eithriadol fel arfer. Byddai angen i fyfyrwyr ddarparu tystiolaeth i gefnogi'r rheswm a roddir am beidio â chyflwyno'r dystiolaeth cyn y Bwrdd Arholi perthnasol, neu ar gais eu hadran academaidd neu Gyfadran o dan y Rheoliad Academaidd ar Gynnydd Academaidd. Mewn achosion lle na sefydlir bod rheswm da am gyflwyno'n hwyr neu beidio â chyflwyno, ni fydd yr apêl yn cael ei hystyried ymhellach.

5. Rhaid i unrhyw sail/seiliau i apêl myfyriwr gael eu hategu gan dystiolaeth ategol ychwanegol nad yw eisoes wedi'i chyflwyno i'w hystyried, ac sy'n dangos yn glir sut yr effeithiodd ar eu perfformiad. Rhaid dyddio hyn ar yr adeg yr effeithiwyd ar y myfyriwr gan yr amgylchiadau(au), neu, os yw wedi’i ddyddio'n ddiweddarach, rhaid iddi fod yn glir bod y sawl sy'n ardystio i'r amgylchiadau mewn sefyllfa i'w cadarnhau ar yr adeg y digwyddodd.

6. Nid yw’r canlynol yn cael eu hystyried yn amgylchiadau arbennig ac felly ni chânt eu hystyried ar adeg yr apêl:

(i) trafferthion gyda chyfrifiadur neu beiriant argraffu
(ii) dim modd i allu defnyddio adnoddau
(iii) salwch os nad oes tystiolaeth feddygol ar ei gyfer
(iv) dyddiad cau mwy nag un asesiad ar yr un dydd
(v) methu ag ateb y cwestiwn neu drafferth i ddeall y deunydd
(vi) gemau argyfwng, cynyrchiadau perfformio, neu deithiau astudio adrannol
(vii) gweithgarwch anacademaidd (e.e. hyfforddiant milwrol).

7. Mae canllawiau ynglŷn ag amgylchiadau arbennig a thystiolaeth ddogfennol dderbyniol i’w gweld yn: ⁠Asesu Cynlluniau a Ddysgir trwy Gwrs: Cofrestrfa Academaidd, Prifysgol Aberystwyth

8. Os na fydd apeliadau yn cyfateb ag unrhyw un o'r meini prawf uchod cânt eu gwrthod ac ni fyddant yn cael eu hystyried gan y Panel Apêl Academaidd. Bydd y Gofrestrfa Academaidd yn rhoi gwybod i'r myfyriwr am hyn.

9. Bydd apeliadau sy'n seiliedig ar y tir canlynol yn cael eu gwrthod ar unwaith:

(i) Apeliadau yn amau barn academaidd. I ddibenion y Weithdrefn hon, barn academaidd yw penderfyniad a wneir gan staff academaidd am ansawdd y gwaith ei hun neu’r meini prawf a ddefnyddir i asesu’r gwaith. Trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys penodi staff, trefniadau cynefino a hyfforddi, marcio dienw, a chymedroli mewnol ac allanol, mae’r Brifysgol yn sicrhau bod y farn academaidd yn gadarn. Anogir myfyrwyr i ofyn am adborth ar eu marciau gan y staff academaidd perthnasol
(ii) Apeliadau’n seiliedig ar ffactorau a oedd eisoes yn hysbys i'r Brifysgol a/neu'r Bwrdd Arholi dan sylw pan wnaed y penderfyniad am berfformiad y myfyriwr
(iii) Apeliadau’n seiliedig ar siom neu anfodlonrwydd â’r canlyniadau. Os yw myfyrwyr yn amau y gallai camgymeriad fod wedi digwydd yng nghyswllt trawsgrifio’r marciau, dylent gysylltu’n uniongyrchol ac yn ysgrifenedig â'u hadran academaidd yn y lle cyntaf
(iv) Apeliadau’n seiliedig ar fethiant myfyriwr i ymgyfarwyddo â gofynion eu cyrsiau o ran presenoldeb, cyflwyno gwaith a dulliau asesu
(v) Ni fydd y Brifysgol yn ystyried apeliadau’n seiliedig ar wybodaeth neu amgylchiadau nad oedd y myfyriwr wedi rhoi gwybod i'w hadran academaidd amdanynt am eu bod yn honni nad oeddent yn gwybod y dylid rhoi gwybod am amgylchiadau arbennig; nad oeddent yn credu y byddai'r amgylchiadau arbennig yn effeithio ar eu perfformiad ar y pryd; neu na soniasant am yr amgylchiadau ar y pryd, oherwydd embaras a/neu swildod.