10.1.3 Pwy all apelio?
1. Ar ôl cyhoeddi canlyniadau arholiadau'r Brifysgol yn ffurfiol, neu ar ôl cael hysbysiad ffurfiol o waharddiad o dan y Rheoliad Academaidd ar Gynnydd Academaidd, mae gan fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth sy'n astudio am gymhwyster israddedig neu uwchraddedig a ddysgir trwy gwrs hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad. Dylai myfyrwyr sy'n astudio o dan drefniadau cydweithrediadol mewn Partner Ddarparwr Addysg hefyd ddilyn y Weithdrefn hon – mae rhagor o wybodaeth i’w chael yn llawlyfr y myfyrwyr. Mae'r myfyrwyr y caniateir iddynt apelio yn cynnwys:
(i) Myfyrwyr sy'n cael eu hatal rhag parhau â'u hastudiaethau ar hanner lefel astudio neu ran o raglen
(ii) Myfyrwyr sy'n methu â chymhwyso i symud ymlaen i gam nesaf eu rhaglen ar ddiwedd lefel, diwedd rhan, neu ddiwedd blwyddyn
(iii) Myfyrwyr sydd wedi cwblhau eu rhaglen, ond sy'n dymuno apelio yn erbyn y canlyniad, neu fyfyrwyr sy'n anfodlon ar ddyfarnu cymhwyster ymadael â’r Brifysgol
(iv) Lle gallai goblygiadau penderfyniad y Bwrdd Arholi ynglŷn â chynnydd gael effaith sylweddol ar ganlyniad cyffredinol y myfyriwr (e.e. capio marciau)
(v) Os yw myfyrwyr yn dymuno cyflwyno apêl grŵp, rhaid iddynt gysylltu â'r Gofrestrfa Academaidd yn gyntaf trwy e-bostio caostaff@aber.ac.uk i ofyn sut y gellid ystyried yr apêl.
2. Rhaid i fyfyrwyr gyflwyno apeliadau o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl i’w canlyniadau gael eu cyhoeddi, oni bai bod amgylchiadau lliniarol ganddynt am beidio â gwneud hynny o fewn i’r amser priodol (bydd yn rhaid iddynt ddangos tystiolaeth o’r amgylchiadau).
3. Gall myfyrwyr gael cyngor gan Undeb y Myfyrwyr ynglŷn â chyflwyno’u hapêl, os oes angen.