10.1.2 Egwyddorion cyffredinol
1. Dim ond o fewn i Reoliadau'r Brifysgol a chonfensiynau’r arholiadau y gall y Brifysgol weithredu, ac ni ystyrir apeliadau sy'n ceisio canlyniadau y tu hwnt i’r rheoliadau a’r confensiynau.
2. Yn dilyn cyhoeddi canlyniadau academaidd (diwedd Semester 1, 2 a chyfnod yr arholiadau atodol), mae myfyrwyr yn cael cyflwyno apêl yn erbyn y canlyniad(au).
3. Cyn penderfynu a oes sail dros gyflwyno apêl, anogir myfyrwyr i gyfarfod â'r staff academaidd perthnasol ar ôl cyhoeddi eu canlyniadau i ofyn am adborth ac i weld a oes ganddynt sail dros apelio ai peidio. Os yw'r myfyriwr yn dymuno mynd â materion ymhellach, gall gyflwyno apêl.
4. Disgwylir yn arferol mai’r myfyrwyr fydd yn cyflwyno apeliadau. Ond, os yw myfyriwr yn teimlo na all lenwi a chyflwyno'r ffurflen ei hun ar adeg cyflwyno'r apêl, oherwydd salwch neu reswm arall sy'n eu hatal rhag gwneud hynny, efallai y byddai’n dymuno penodi cynrychiolydd i gwblhau a chyflwyno'r apêl ar ei ran. Gallai’r cynrychiolydd fod yn fyfyriwr arall neu'n gynrychiolydd o Undeb y Myfyrwyr. Fel rheol byddai disgwyl i'r myfyriwr roi caniatâd ysgrifenedig, mewn llythyr neu trwy ei gyfrif e-bost Prifysgol, i awdurdodi rhywun arall i weithredu ar ei ran (byddai angen rheswm da a dilys i hyn beidio bod yn bosib).
5. Os oes cynrychiolydd gan fyfyriwr, ni ddylai hynny oedi'r broses. Bydd y Brifysgol yn gwrthod derbyn apeliadau gan drydydd parti oni bai eu bod yn gweithredu’n gynrychiolydd i’r myfyriwr.
6. Os yw apêl academaidd hefyd yn cynnwys cwyn, mae'n bosibl i'r apêl neu'r gŵyn gael ei hailddosbarthu (ar ba gam bynnag y maent wedi cyrraedd) a'u prosesu o dan y Rheoliad neu'r Weithdrefn fwyaf perthnasol os yw hyn yn debygol o arwain at ganlyniad mwy addas i'r unigolyn/unigolion sy'n apelio neu'n gwneud y gŵyn. Bydd y myfyriwr yn cael gwybod os bydd y sefyllfa hon yn codi.
7. Ni fydd myfyrwyr yn dioddef unrhyw anfantais nac edliw o ganlyniad i wneud apêl academaidd yn ddidwyll. Dim ond os bernir bod apêl academaidd wedi'i gwneud yn wamal (h.y. heb unrhyw ddiben na gwerth difrifol), yn flinderus (h.y. mae'r apêl yn peri gofid neu'n annifyr) neu’n faleisus (h.y. yr awydd i achosi niwed neu ddioddefaint), y gallai materion disgyblu godi yn gysyltiedig â'r myfyriwr. (Gweler Trefn Disgyblu Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth).
8. Gellir cael cyngor am y weithdrefn hon gan y Dirprwy Gofrestrydd (neu un a enwebir), y Gofrestrfa Academaidd (caostaff@aber.ac.uk) neu gan Gynghorydd Myfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr (undeb.cyngor@aber.ac.uk).