10.3 Y Weithdrefn Apelio Doethuriaethau Hyn

1. Gall ymgeiswyr am radd DLitt, DSc, DSc Econ neu LLD apelio o dan y weithdrefn hon yn erbyn penderfyniad Pwyllgor Mewnol i beidio ag argymell dyfarnu'r radd y cyflwynodd yr ymgeisydd ei (g)weithiau ar ei chyfer.

2. Dim ond apeliadau ar un o'r seiliau canlynol neu ar y ddwy ohonynt y mae'r Brifysgol yn fodlon eu hystyried:

  • Diffygion neu afreoleidd-dra wrth gynnal y weithdrefn asesu, gan gynnwys cyfweliad os cynhaliwyd un, sydd o'r cyfryw natur fel ag y bônt yn peri amheuaeth resymol a fyddai'r Pwyllgor Mewnol wedi gwneud yr un penderfyniad pe na baent wedi digwydd.
  • Tystiolaeth o ragfarn neu dueddfryd neu o asesu annigonol ar ran un neu fwy o aelodau'r Pwyllgor Mewnol neu'r canolwyr.

Ni fydd apeliadau sy'n codi amheuaeth ynghylch crebwyll academaidd y Pwyllgor Mewnol neu'r canolwyr yn dderbyniadwy.

3. Rhaid anfon unrhyw apêl, yn llawn ac yn ysgrifenedig, at y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd (cyf: Apeliadau) a rhaid iddi ei gyrraedd/chyrraedd ddim mwy na dau fis ar ôl i'r hysbysiad o'r canlyniad gael ei anfon at yr ymgeisydd. Ni fernir bod hysbysiad syml o apêl a roddir yn ysgrifenedig gan ymgeisydd o fewn y terfyn amser uchod yn gyfystyr ag apêl briodol ac ni chaiff ei dderbyn. Cydnabyddir bod cais am apêl wedi dod i law o fewn tri diwrnod gwaith fel rheol, a rhoddir adroddiad cynnydd ysgrifenedig i'r apelydd o fewn 25 diwrnod gwaith.

4. Os yw'r Is-Ganghellor neu'r sawl a enwebwyd ganddo/i* yn penderfynu, wedi archwilio cyflwyniad yr ymgeisydd ac unrhyw dystiolaeth arall ysgrifenedig y gall fod arno/arni ei hangen, bod achos i'w ystyried, bydd ef/hi yn ei gyfeirio at Fwrdd Apeliadau a fydd yn cynnwys tri pherson wedi'u dewis o Banel Sefydlog fel a ganlyn:

  • 3 aelod lleyg wedi'u penodi gan y Cyngor
  • 4 cynrychiolydd o bob Cyfadran

Bydd y Bwrdd Apeliadau yn cael ei gadeirio gan aelod lleyg a dewisir ei aelodau academaidd o Gyfadrannau ac/neu adrannau nad ydynt yn gysylltiedig â'r apêl sydd dan ystyriaeth. Bydd hyn fel arfer o fewn tri mis i dderbyn y cais am apêl.

5. Os bydd yr Is-Ganghellor, neu'r sawl a enwebwyd ganddo/i*, yn penderfynu nad oes achos i'w ystyried, effaith hyn fydd gwrthod yr apêl. Fel rheol, bydd hyn o fewn tri mis i dderbyn y cais am apêl.

6. Pan fo achos yn cael ei gyfeirio at Fwrdd Apeliadau am wrandawiad, bydd y Bwrdd yn nodi seiliau'r apêl a bydd yn seilio ei benderfyniad ar dystiolaeth cyflwyniad yr apelydd, adroddiad gan Gadeirydd y Bwrdd Arholi gwreiddiol ac unrhyw dystiolaeth bellach y mae'n credu ei bod yn berthnasol.

7. Bydd y Bwrdd Apeliadau yn cynnig gwrandawiad personol i'r apelydd, a chaiff yr apelydd wybod beth yw amser a dyddiad y cyfryw wrandawiad. Caiff aelod o staff academaidd, lles neu gynghori y Brifysgol fod yn bresennol gyda'r apelydd, ond ni chaiff ei gynrychioli/chynrychioli.

8. Bydd gan y Cadeirydd, mewn cyfarfod o'r Bwrdd Apeliadau, ddisgresiwn i ddatgan yn annerbyniadwy unrhyw fater a gyflwynir gan yr apelydd, neu gan unrhyw unigolyn sy'n bresennol gyda'r apelydd, os bydd yn barnu nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol â chynnwys yr apêl a gyflwynwyd yn ysgrifenedig yn flaenorol o fewn y terfyn amser a bennwyd.

9. Rhoddir pwer i'r Bwrdd Apeliadau gymryd y naill benderfyniad isod neu'r llall:

  • y dylid gwrthod yr apêl ac na ddylid cymryd unrhyw gamau pellach
  • y dylid cadarnhau'r apêl.


10. Os caiff apêl ei chadarnhau, gall y Bwrdd Apeliadau hefyd ddewis un o'r camau gweithredu canlynol:

  • Argymell i'r Pwyllgor Mewnol y dylai'r Pwyllgor ailystyried ei benderfyniad, am y rhesymau a nodir
  • Argymell y dylai Pwyllgor Mewnol newydd ailystyried penderfyniad y Pwyllgor blaenorol.

11. Pan ymgymerir ag ailasesiad o ganlyniad i naill ai baragraff 10.1 neu baragraff 10.2 uchod, gall y Bwrdd Apeliadau hefyd bennu y dylid penodi dau ganolwr newydd. Ni chaiff unrhyw wybodaeth am yr asesiad blaenorol ei rhoi i'r canolwyr newydd heblaw'r ffaith eu bod yn cynnal ailasesiad o gyflwyniad yr ymgeisydd yn sgil apêl.

12. Bydd penderfyniad y Bwrdd Apeliadau yn derfynol.

13. Bydd y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd neu'r sawl a enwebwyd ganddo/i yn rhoi gwybod i'r apelydd ynghylch penderfyniad y Bwrdd Apeliadau (a chanlyniad unrhyw ailasesiad, os yw'n berthnasol) cyn gynted â phosibl.

14. Yn achos 10 neu 11 uchod, bydd y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd neu'r sawl a enwebwyd ganddo/i yn trefnu rhoi penderfyniad ac argymhellion y Bwrdd Apeliadau ar waith. Caiff penderfyniad y Pwyllgor Mewnol p'un ai a ddylid gwneud unrhyw newid i unrhyw benderfyniad blaenorol ai peidio ei adrodd yn ôl i'r Bwrdd Apeliadau, a bydd yn derfynol. Pan ddaw'r penderfyniad hwn i law, gall y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd neu'r sawl a enwebwyd ganddo/i, mewn achosion eithriadol yn unig, gyfeirio'r achos at Gadeirydd y Bwrdd Apeliadau am adolygiad o'r gweithdrefnau a ddilynwyd. Os daw'n hysbys bod afreoleidd-dra gweithdrefnol difrifol wedi digwydd, gellir cyfeirio'r achos yn ôl at y Pwyllgor Mewnol i'w ailystyried.

15. Os bernir, o ganlyniad i apêl lwyddiannus, fod ymgeisydd wedi ymgymhwyso am radd, bydd y Cofrestrydd ac Ysgrifennydd yn trefnu i'r ymgeisydd gael ei (d)derbyn i'r radd.

16. Gall y Bwrdd Apeliadau wneud argymhellion i'w hystyried gan y Pwyllgor Materion Academaidd neu'r Senedd fel y bo'n briodol ynghylch unrhyw fater sy'n codi yn sgil ystyried apeliadau.

17. Yn unol â Deddf Addysg Uwch 2004, mae'r Brifysgol yn arddel y cynllun annibynnol ar gyfer adolygu cwynion gan fyfyrwyr. Os yw pob gweithdrefn fewnol wedi'i dihysbyddu, gall ymgeisydd gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol, ar yr amod bod y gŵyn yn gymwys yn unol â'i rheolau.

Os bydd ymgeisydd yn penderfynu cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol, rhaid i'w ffurflen ddod i law'r Swyddfa honno o fewn tri mis o ddyddiad y llythyr Cwblhau Gweithdrefnau.

Gellir lawrlwytho taflen Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol, Rhagarweiniad i SDA ar gyfer Myfyrwyr, yma ac mae dolen i Ffurflen Gwynion Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol ar gael ar dudalen 11. Fel arall, gellir cysylltu â Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol drwy'r dulliau canlynol:

Dros y ffôn: 0118 959 9813

E-bost: enquiries@oiahe.org.uk

Drwy'r post: The Office for the Independent Adjudicator of Higher Education, Second Floor, Abbey Wharf, 57-75 Kings Road, Reading, RG1 3AB

Mae cyfarwyddiadau ynglŷn â chyflwyno cwyn i Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol a Ffurflen Gwynion y Swyddfa i'w gweld hefyd ar eu gwefan. Efallai y byddai'r ymgeisydd hefyd yn dymuno gofyn i Undeb y Myfyrwyr am gyngor ynglŷn â chyflwyno cwyn i'r Swyddfa. 

Fel arfer, nid yw Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol yn ymdrin ag achosion nad ydynt wedi bod trwy weithdrefnau mewnol y Brifysgol.

*Gall yr Is-Ganghellor enwebu Swyddog o'r Brifysgol i weithredu ar ei rhan.