16.2 Cymorth a Monitro Adrannol


1.  Os yw adran yn pryderu bod myfyrwyr yn methu â chyrraedd safonau proffesiynol, bydd yn trefnu cyfarfod er mwyn esbonio'r materion hyn. Gallai hynny arwain at gynyddu cefnogaeth a monitro, rhoi hyfforddiant ychwanegol, neu osod cyfres o dargedau penodol. Bydd y myfyrwyr yn cael crynodeb ysgrifenedig o'r camau gweithredu y cytunir arnynt, a bydd yr adran yn parhau i oruchwylio cynnydd. Bydd yr adrannau'n cydweithio â darparwyr y lleoliadau fel sy'n briodol i ddarparu'r gefnogaeth hon, a chadw cofnodion manwl o'r holl gamau gweithredu.

2.  Nod y Brifysgol yw cefnogi'r holl fyfyrwyr a sicrhau eu bod yn cyrraedd safonau proffesiynol, ond mewn achosion eithriadol, efallai na fydd hyn yn bosib. Mewn achosion o'r fath, bydd myfyrwyr yn cael eu cyfeirio at y Panel Addasrwydd i Ymarfer er mwyn cynnal archwiliad ffurfiol.