16.1 Cyflwyniad

1. Trwy gydol y rhan hon o'r Llawlyfr Ansawdd Academaidd, mae'r gair ‘Prifysgol’ yn cyfeirio at Brifysgol Aberystwyth. Gall y teitlau 'Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran', 'Pennaeth Adran', 'Cofrestrydd Academaidd', a 'Chofrestrydd Cyfadran' gynnwys aelodau penodedig o'r staff sy'n gweithredu ar ran y swyddogion hynny. Mae'n berthnasol i holl fyfyrwyr cofrestredig Prifysgol Aberystwyth yn unol â'r diffiniadau yn ei Rheolau a'i Rheoliadau.

2. Mae gan y Brifysgol gyfrifoldeb i sicrhau bod pob myfyriwr sy'n astudio ar gynlluniau ag iddynt statws proffesiynol yn cadw at safonau priodol o ymddygiad, yng nghyswllt astudio academaidd a lleoliadau mewn sefyllfa broffesiynol.

3. Os yw myfyrwyr ar raglen astudio sy'n arwain at gymhwyster proffesiynol neu raglen a gofrestrwyd gyda chorff rheolaethol statudol, mae gan y Brifysgol gyfrifoldeb hefyd i sicrhau eu bod yn addas i weithio yn y proffesiwn hwnnw.

4. Mae'r adran hon yn amlinellu'r disgwyliadau ar gyfer holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn ogystal ag amlinellu'r drefn ar gyfer archwilio pryderon ynglŷn ag addasrwydd myfyriwr i ymarfer. Dylid ei darllen ochr yn ochr â gofynion a chodau ymddygiad proffesiynol yr adran a gweithdrefnau'r adran. Mae'r rhain yn cael eu rhoi ar gyfer y cynlluniau astudio canlynol:

(i) Holl gynlluniau TAR yr Ysgol Addysg

(ii) Holl gynlluniau AHO (Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol) yr Ysgol Addysg

(iii) Cynlluniau BA Addysg gyda statws ymarferydd y blynyddoedd cynnar

(iv) BVSc (YFA Gweithdrefn AiY)

(v) Nyrsio