Llythyr Cyfeiriad
Llythyr Cyfeiriad
Os yr ydych yn fyfyriwr llawn-amser ac eisiau gwneud cais am lythyr yn dangos eich cyfeiriad cartref a thymor fedrwch wneud hyn drwy eich Cofnod Myfyriwr ar-lein.
Mae’n rhaid sicrhau bod eich manylion ar eich cofnod myfyriwr yn gywir. Os yr ydych yn bwriadu gwneud cais i newid eich enw fedrwch wneud hyn o dan y pennawd Personol ar eich Cofnod Myfyriwr.
I wneud cais am y llythyr bydd angen i chi fewngofnodi i'ch cofnod myfyriwr ar-lein.
Mewn cofnodwch ar http://www.aber.ac.uk/en/student/
O dan y pennawd Eich Safleoedd dewiswch Gofnod Myfyriwr
Byddwch angen eich enw defnyddiwr Aberystwyth ac eich cyfrinair i fewngofnodi.
Unwaith yr ydych wedi mewngofnodi, dewiswch Fy Ngwybodaeth Bersonol ac yna dewiswch Lawrlwytho Llythyr Swyddogol. Ger y pennawd Dewisiwch Eich Rhaglen, dewisiwch pa gwrs yr ydych am greu dogfen ar gyfer. Ger y pennawd Dewiswch y math o lythyr sydd ei angen dewisiwch Lythyr Cyfeiriad.
Bydd y llythyr yn cael ei greu yn syth os yr ydych yn penderfynu ei argraffu eich hunain.
Fedrwch argraffu'r llythyr o Lyfrgell Hugh Owen neu o unrhyw fan ble mae argraffydd lliw ond mae’n RHAID argraffu mewn lliw.
Bydd y llythyr ar gael i’w ail-argraffu o eich Cofnod Myfyriwr am gyfnod o 7 diwrnod.