Adran 8.2 - Teipoleg Gweithgaredd Partneriaethau Cydweithrediadol
Ceir nifer o wahanol fathau o weithgareddau partneriaeth (a elwir hefyd yn rhaglenni cydweithrediadol). Mae'r deipoleg isod yn rhoi diffiniadau cryno o'r mathau o drefniadau cydweithrediadol a gydnabyddir yn gyffredin ledled y byd Addysg Uwch yn y Deyrnas Gyfunol. Dylid nodi nad yw hon yn rhestr ddiffiniol ac y gellid cael amrywiadau yn narpariaeth a gwasanaethau pob math unigol o bartneriaeth, er mwyn caniatáu am amgylchiadau neu ofynion penodol. Bydd amrywiadau o'r fath bob amser yn cael eu hystyried trwy'r prosesau cymeradwyo perthnasol a ddisgrifir yn fanwl isod.
Gall partneriaeth gydweithrediadol ymwneud ag unrhyw lefel o ddarpariaeth a ddysgir neu arolygaeth ymchwil; gellir ei darparu trwy amrywiol ddulliau gan gynnwys addysgu ar y campws, dysgu o bell a/neu ddysgu cyfunol, neu trwy gyfrwng unrhyw un o'r amrywiol ddulliau astudio sydd i'w cael. Y cyngor i staff sy'n cynnig trefniadau partneriaeth gydweithrediadol yw meithrin perthynas â phartneriaethau isel eu risg cyn symud ymlaen ymhellach i ddatblygu prosiect darpariaeth gydweithrediadol risg uchel. Mae tystiolaeth o lwyddiant perthynas waith gyda sefydliad allanol yn cynyddu'r cyfle i gynllun gael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor.