Adran 8.5 - Addasrwydd Strategol
Mewn achosion llwyddiannus, mae darpariaeth gydweithrediadol yn cynnig pob math o fanteision, sy'n cynorthwyo'r Brifysgol i gyflawni ei hamcanion strategol craidd fel yr amlinellir yn y Cynllun Strategol 2018-2023. Mae'r rhain yn cynnwys:
Addysg a phrofiad y myfyrwyr - rhoi'r gallu i fyfyrwyr i ddatgloi eu potensial eu hunain a datblygu yn ddysgwyr annibynnol.
Ymchwil ac Arloesi sy'n cael effaith - cefnogi a datblygu ymchwilwyr i ymgymryd ag ymchwil sy'n creu effaith ac o ansawdd sydd gyda'r gorau yn y byd
Cyfraniad i gymdeithas - gwneud cyfraniad sylweddol i gymunedau yng Nghymru a'r tu hwnt. Deall ein cyfrifoldebau a'n hatebolrwydd i'r gymdeithas. Bod yn agored, yn berthnasol a meithrin cysylltiadau â'n cymunedau a'n rhanddeiliaid.
Ymgysylltiad Rhyngwladol - bod yn bartner atyniadol i sefydliadau rhyngwladol sy'n rhannu ein hamcanion a'n dyheadau. Trwytho ein graddedigion mewn hyfforddiant academaidd trylwyr ac yng ngwerthoedd dinasyddiaeth fyd-eang a chenedlaethol.
Y Gymraeg a Diwylliant Cymru - gwella a chyfoethogi cyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg i'n staff, ein myfyrwyr ac ymwelwyr. Hyrwyddo iaith a diwylliant ein gwlad, a chyfrannu at sicrhau gwell dealltwriaeth genedlaethol a rhyngwladol o anghenion cymdeithasol-economaidd Cymru.
Mae Partneriaethau Academaidd hefyd yn alinio â Strategaeth PA ar gyfer Marchnata a Denu Myfyrwyr, 2019-2023 “…trwy ganfod a darparu cyfleoedd” mewn “marchnadoedd rhyngwladol wedi'u targedu.”
Mae'r Cyfadrannau a'r Swyddfa Partneriaethau Academaidd yn ymdrechu “i gyflenwi nifer cynyddol o fyfyrwyr o'r calibr angenrheidiol i ffynnu yn y Brifysgol hon” gan gydgysylltu â Phartner Sefydliadau ac adrannau ategol y Brifysgol, megis y Ganolfan Saesneg Rhyngwladol, y Swyddfa Derbyn Myfyrwyr Rhyngwladol, a'r Swyddfa Ryngwladol i “ddarparu'r hyn y mae'r farchnad denu myfyrwyr ei eisiau a bod yn ystwyth wrth feithrin cyfleoedd newydd.”