Annog arweinwyr COP16 i ystyried holl werthoedd natur yn eu penderfyniadau
Mae Michael Christie yn Athro Economeg Ecolegol ac Amgylcheddol yn Ysgol Fusnes Aberystwyth.
18 Hydref 2024
Mae arweinwyr llywodraethau sy’n trafod yr argyfwng bioamrywiaeth byd-eang yng nghyfarfod COP16 yng Ngholombia yr wythnos hon yn cael eu hannog i ymgorffori gwerthoedd gwahanol byd natur yn ffurfiol yn eu prosesau penderfynu.
Daw’r alwad gan yr Athro Michael Christie o Brifysgol Aberystwyth, sydd ymhlith yr arbenigwyr rhyngwladol a wahoddwyd i fynychu unfed cyfarfod ar bymtheg Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Fioamrywiaeth.
Yr Athro Christie oedd cyd-gadeirydd yr Adroddiad Asesu Gwerthoedd Natur a gomisiynwyd gan y Llwyfan Rhynglywodraethol ar Fioamrywiaeth a Gwasanaethau Ecosystemau (IPBES), ac a fydd yn cael ei drafod yn ystod yr uwchgynhadledd sy’n para saith diwrnod.
Yn yr adroddiad, a gyhoeddwyd yn 2022, fe danlinellwyd yr angen i lywodraethau ystyried yr holl ystod o werthoedd byd natur wrth wneud penderfyniadau yn hytrach na seilio polisi ar set gul o werthoedd y farchnad, ar elw tymor byr a thwf economaidd.
Wrth siarad cyn COP16, dywedodd yr Athro Christie, Economegydd Ecolegol ac Amgylcheddol yn Ysgol Fusnes Aberystwyth: “Mae COP16 yn ddigwyddiad hynod o bwysig, lle caiff penderfyniadau mawr sy’n effeithio ar ddyfodol ein planed eu gwneud.
“Yn ystod yr wythnos, bydd aelod-wladwriaethau yn trafod argymhellion adroddiad Asesiad Gwerthoedd yr IPBES ac yn cytuno ar y geiriad terfynol ar gyfer eu hymgorffori fel penderfyniad ffurfiol y Confensiwn. Byddai hyn yn gosod rhwymedigaeth ffurfiol ar lywodraethau a lofnododd i ystyried gwerthoedd amrywiol natur a bioamrywiaeth ar draws ystod eang o benderfyniadau polisi, ar lefel ryngwladol, genedlaethol a lleol.
“Ar adeg pan fo hyd at filiwn o rywogaethau’n mewn peryg o ddiflannu, mae cam o’r fath yn hanfodol ac fe fyddai’n arwain at benderfyniadau gwell, mwy cynaliadwy sy’n helpu i fynd i’r afael â’r argyfyngau bioamrywiaeth a hinsawdd.”
Bydd cynrychiolwyr o dros 190 o wledydd yn mynychu COP16, gan gynnwys llywodraethau, arweinwyr brodorol, academyddion, diwydiant a chymdeithas sifil.