Busnesau Ceredigion eto i adfer yn llawn o effaith COVID-19
Chwith i'r dde: Awduron yr adroddiadau Dr Aloysius Igboekwu, Uwch Ddarlithydd mewn Cyllid Lecturer a Chyfarwyddwr Astudiaethau Ol-raddedig, Dr Sarah Lindop, Uwch Ddarlithydd mewn Cyllid, Dr Maria Plotnikova, Darlithydd mewn Economeg yn Ysgol Fusnes Aberystwyth.
19 Medi 2023
Nid yw busnesau yng Ngheredigion wedi adfer llwyr o effeithiau'r pandemig COVID-19 o hyd, yn ôl academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Yng ngwanwyn 2021 lansiodd ymchwilwyr yn Ysgol Fusnes Aberystwyth ddau arolwg ar-lein i effeithiau cyfyngiadau COVID-19 ar aelwydydd a busnesau yng Ngheredigion.
Mae'r ymatebion i'w gweld mewn dau adroddiad a gyflwynwyd mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Mawrth 19 Medi.
Mae'r adroddiad cyntaf, 'Effaith Economaidd Pandemig COVID-19 ar Fusnesau Ceredigion a'r Hunangyflogedig', wedi ei seilio ar brofiadau 77 o fusnesau ac unigolion ac yn nodi rhai o'r prif heriau a wynebwyd.
Yn ôl yr astudiaeth, nododd 92% o fusnesau eu bod wedi wynebu anawsterau, gan gynnwys gostyngiad yn nifer y cwsmeriaid a refeniw, ac amharu ar gadwyni cyflenwi.
Er y gwahanol gynlluniau cymorth busnes a ddarparwyd gan y llywodraeth ar y pryd, yn ôl yr awduron nid yw llawer o fusnesau wedi dychwelyd i normal o hyd ac maent yn galw am ymatebion polisi i fynd i'r afael â'r hyn maen nhw'n ei ddisgrifio fel "effeithiau COVID hir ar fusnesau".
Mae'r ail adroddiad, "Effaith Economaidd-gymdeithasol Pandemig COVID-19 ar Aelwydydd Sir Ceredigion" yn adlewyrchu profiadau 246 o aelwydydd wrth iddynt negodi'r cyfnodau clo a'r cyfyngiadau a gyflwynwyd gan lywodraethau'r DU a Chymru.
Nododd 80% o'r ymatebwyr eu bod wedi newid eu harferion gwario, yn bennaf ar fwyd, biliau gwasanaethau a darpariaeth rhyngrwyd, gyda 40% yn jyglo gwaith gyda gofal plant ac addysgu gartref.
Dywedodd 55% eu bod yn teimlo'i bod wedi eu hynysu a nododd 1 o bob 3 anawsterau iechyd meddwl.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at faterion iechyd meddwl eang sy'n gysylltiedig â theimladau o bryder, unigrwydd, unigedd a straen ychwanegol oherwydd gwaith, addysgu gartref a chyfrifoldebau gofal.
Mae'r awduron yn dadlau bod y straen a'r pryder a nodwyd gan breswylwyr hefyd wedi gwaethygu gan gyflymder band eang araf, hygyrchedd a chysylltedd ddigidol a nodwyd gan bron i hanner y bobl wnaeth ymateb.
Awduron yr adroddiadau yw Dr Aloysius Igboekwu, Uwch Ddarlithydd mewn Cyllid Lecturer a Chyfarwyddwr Astudiaethau Ol-raddedig, Dr Sarah Lindop, Uwch Ddarlithydd mewn Cyllid, Dr Maria Plotnikova, Darlithydd mewn Economeg yn Ysgol Fusnes Aberystwyth.
Wrth siarad yn y lansiad, dywedodd Dr Aloysius Igboekwu: "Er bod yr effeithiau tymor byr yn sylweddol, megis yr amharu ar gadwyni cyflenwi a gostyngiad yn nifer y cwsmeriaid, mae tystiolaeth o’r ymatebion i’r arolwg yn awgrymu y dylai mynd i'r afael â'r effeithiau COVID hir sy’n parhau ar fusnesau fod yn flaenoriaeth i lunwyr polisi. Byddai darparu gwell mynediad at seilwaith digidol ar draws y sir wedi bod o fudd i aelwydydd a busnesau yn ystod y pandemig."
Ychwanegodd: "O ran effaith y pandemig ar aelwydydd Ceredigion, dylai llunwyr polisi ystyried yr effeithiau gafodd y cyfyngiadau a'r cyfnodau clo ar les, gan gynnwys iechyd corfforol a meddyliol, y boblogaeth."