Roeddwn i wastad wedi bod wrth fy modd yn teithio a doeddwn i ddim yn siŵr beth roeddwn i am ei astudio yn y Brifysgol am dipyn go lew. Wrth chwilio am gwrs a lle i astudio, fe wnes i ddod ar draws Prifysgol Aberystwyth a chwrs yn ymwneud â theithio – Rheoli Twristiaeth. Roedd yn ymddangos fel y cwrs perffaith i fi! Fe wnes i gais, cael lle a symud i Aberystwyth gan edrych ymlaen at ddysgu Saesneg, cyfarfod â phobl newydd, ac ennill gradd werthfawr a fyddai’n gwella fy rhagolygon gyrfaol yn fawr. Yn Aberystwyth, fe wnes i gyfarfod â phobl o bob cwr o’r byd. Fe wnes i ddysgu llawer o bethau diddorol yn ymwneud â thwristiaeth, marchnata a busnes. Fe wnes i hyd yn oed ddysgu ychydig o Sbaeneg! Rheoli a Marchnata Twristiaeth a Thwristiaeth Ryngwladol oedd fy hoff fodiwlau. Fe wnes i fwynhau’n arbennig yr ymweliadau addysgol â gogledd Cymru a Malta. Yn sicr, y daith i Malta oedd uchafbwynt fy nhair blynedd yn y brifysgol. Fe ges i brofiad uniongyrchol o dwristiaeth yno a chyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyffrous fel sgwba-blymio. Profiad heb ei ail ac fe fyddwn i’n argymell yr ymweliad hwn i unrhyw un.
Lle ydych chi ar hyn o bryd?
Chwe mis ar ôl graddio, fe wnes i symud i Hamburg yn yr Almaen, i ddechrau interniaeth gyda chwmni o’r enw Navelar GmbH. Mae’r cwmni’n cynnal gwefannau lle gallwch archebu ystafelloedd gwesty a fflatiau gwyliau. Fe wnes i ddilyn cwrs Almaeneg dwys am dair wythnos yn Hamburg ar ôl cyrraedd, ac ar hyn o bryd rwy’n mynychu dosbarth iaith unwaith yr wythnos wedi’i drefnu o gwmpas fy ngwaith. Rydw i eisoes wedi ymweld â llawer o lefydd diddorol yn Hamburg ac wedi ymgyfarwyddo â’r ddinas. Rydw i wedi manteisio ar y cyfle i wylio pêl-droed Cynghrair yr Almaen a hoci iâ.
Sut gwnaethoch chi gyrraedd yno?
Ar ôl gorffen yn y Brifysgol, fe wnes i ddechrau chwilio am swyddi a lleoliadau gwaith ond roedd e’n dipyn o dalcen caled oherwydd fy niffyg profiad gwaith mewn twristiaeth neu faes perthnasol. Yn ystod fy nghyfnod yn y Brifysgol, fe ddysgais am Raglen Leonardo Da Vinci yr Undeb Ewropeaidd sy’n anfon pobl i weithio dramor a meithrin profiad gwerthfawr. Ar ôl llwyddo i ennill lle ar y rhaglen, fe ges i fy adleoli i Hamburg. Cyn teithio i’r Almaen, fe wnes i gwrdd ag eraill oedd yn cymryd rhan yn y Rhaglen Leonardo Da Vinci ar gwrs iaith pum niwrnod yn Llangollen.
Beth, os rywbeth, fyddech chi wedi’i wneud yn wahanol yn ystod eich amser yn Aberystwyth i’ch helpu i baratoi’n well ar gyfer eich gyrfa/bywyd ar ôl graddio?
Fe fyddwn i wedi chwilio am leoliadau gwaith neu interniaethau yn ystod gwyliau’r Brifysgol, oherwydd bod profiad gwaith o fantais i chi wrth i chi ymgeisio am swyddi ar ôl graddio.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i fyfyriwr sy’n astudio eich pwnc chi yn y brifysgol nawr?
Gweithiwch yn galed a chanolbwyntiwch ar eich astudiaethau, hyd yn oed os oes yna rai agweddau bach nad ydych chi’n eu mwynhau rhyw lawer. Bydd yn talu ar ei ganfed yn nes ymlaen. Peidiwch â gadael aseiniadau i’r funud olaf, byddwch yn drefnus a’u cwblhau nhw ymlaen llaw. Ond yn bwysicaf oll, mwynhewch a manteisiwch i’r eithaf ar eich amser fel myfyriwr, gan fod bywyd yn newid cryn dipyn ar ôl graddio.