Mae pob myfyriwr sy’n astudio yn yr Ysgol Fusnes yn cael ei wahodd a’i annog i gymryd rhan yng nghynllun Blwyddyn mewn Gwaith y Brifysgol.
Mae’r cynllun yn rhoi cyfle i chi dreulio blwyddyn gyflogedig mewn swydd rhwng ail a thrydedd flwyddyn eich astudiaethau. Gall fod gyda sefydliad sydd wedi’i leoli yn y DU neu dramor. Bydd cymryd rhan yn y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith yn eich galluogi i feithrin profiad gwerthfawr o gyflogaeth, ac i ddatblygu’r sgiliau personol a phroffesiynol trosglwyddadwy y mae cyflogwyr graddedigion yn chwilio amdanyn nhw mewn ymgeiswyr.
Mae tystiolaeth yn dangos y bydd cymryd rhan yn y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith yn eich gwneud yn fwy cyflogadwy. Mae graddedigion o Aberystwyth sydd wedi gwneud y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith yn fwy tebygol o sicrhau swydd ar lefel gradd ar ddiwedd eu hastudiaethau. Roedd cyflog cychwynnol cyfartalog graddedigion Aberystwyth, a oedd wedi cymryd rhan yn y cynllun, o leiaf £2,500 yn uwch na chyflog y rhai nad oedden nhw wedi cymryd rhan yn y cynllun.