Dysgu'n effeithiol
Gwybod eich gradd
Faint ydych chi'n ei wybod am y llwyth gwaith a'r asesiad ar eich cynllun gradd?
Dysgu cynhwysol
Dysgu cynhwysol
Os oes gennych gyflwr iechyd hirsefydlog neu wahaniaeth dysgu penodol, gallwn gynnig cyngor i chi ar dechnoleg galluogi a threfniadau arholiadau unigol fel y gallwch gyrraedd eich llawn botensial a chael y canlyniadau da yr ydych yn eu haeddu.
Os hoffech ragor o wybodaeth am ein darpariaeth ar gyfer myfyrwyr ag anableddau neu os oes gennych gwestiynau penodol, ewch i dudalen we Gwasanaeth Hygyrchedd neu cysylltwch â ni drwy:
E-bost: hygyrchedd@aber.ac.uk
Gall ein tîm o gynhorwyr hygyrchedd eich cynghori ar y mathau o dystiolaeth sydd ei hangen arnoch i gael mynediad at ddarpariaeth benodol yn y Brifysgol.
Os ydych chi'n credu bod gennych wahaniaeth dysgu penodol neu fath o niwrowahaniaethu, gallwn roi cyngor ar sgrinio rhagarweiniol ac Asesiad Seicolegydd Addysg preifat.
Awgrymiadau da i ddysgu'n effeithiol
Mae dysgu gweithredol yn nodwedd allweddol o astudio yn y brifysgol, ond sut mae hyn yn gweithio'n ymarferol?
Mae'r dogfennau canlynol sy'n cynnwys rhestr adnoddau yn rhannu syniadau ar sut y gallwch droi dysgu di-dor yn ddysgu gweithredol a manteisio i'r eithaf ar ddarlithoedd a darlleniadau.
Mae defnyddio strategaethau effeithiol yn eich galluogi i gofio mwy (gyda llai o amser wedi'i fuddsoddi) a chael marciau gwell.