Ymddygiad Academaidd Da

Beth yw Ymddygiad Academaidd Da?

Arfer neu ymddygiad academaidd da yw defnyddio arddull ffurfiol, academaidd. Mae hyn yn cynnwys adolygiad o ddeunyddiau cyfeirnodi priodol sy'n gysylltiedig â rhestrau darllen y modiwlau yr ydych yn eu hastudio. Gallwch ddewis cynnwys ffynonellau cyfeirio eraill, ond mae angen i chi sicrhau eu bod yn weithiau cyhoeddedig, ysgolheigaidd.

Mae hefyd yn cynnwys defnyddio arddull cyfeirnodi a argymhellir, fel Harvard, APA, MHRA, MLA, IEEE, IOP, troednodiadau/ôl-nodiadau, neu eraill.  Mae canllawiau ac arweiniad eich adran ar gael drwy LibGuides Aberystwyth.  Bydd gwybodaeth hefyd ar gael drwy adnoddau eraill y mae eich adran yn eu darparu (e.e. ar Blackboard).

Os nad ydych chi'n siŵr ble mae dod o hyd i wybodaeth am gyfeirnodi neu sut i'w defnyddio, siaradwch â rhywun.  Gallwch chi gael cyngor gan eich tiwtor ac mae rhagor o wybodaeth ar gael gan eich llyfrgellydd pwnc.  Mae hyfforddiant hefyd ar gael drwy'r Tiwtor Cydlynydd Sgiliau.

Sut i gyflawni Ymddygiad Academaidd Da

Wrth astudio yn y brifysgol, mae'n hollbwysig cadw at egwyddorion ac arfer academaidd da. Mae hyn yn cynnwys bod yn:

  • onest
  • teg
  • barchus
  • gyfrifol
  • moesegol, a
  • gweithredu gydag uniondeb i gynhyrchu gwaith annibynnol ac ysgolheigaidd

Er mwyn cyflawni arfer academaidd da:

  • gwerthuswch materion academaidd yn annibynnol
  • defnyddiwch ymchwil gan academyddion yn eich maes
  • trafodwch a gwerthuso cysyniadau a damcaniaethau
  • dangoswch dealltwriaeth o lenyddiaeth allweddol
  • datblygwch eich dadleuon eich hun

Mae gwaith academaidd yn dibynnu ar syniadau a gwaith eraill. Mae ymgysylltu'n gywir â ffynonellau a rhoi cydnabyddiaeth wrth ddefnyddio eu syniadau yn hanfodol. Gall defnydd effeithiol o ddeunyddiau wella hygrededd a darparu llwyfan ar gyfer trafodaeth. Mae mynegi syniadau yn eich geiriau eich hun yn dangos dealltwriaeth ac yn cefnogi eich dadl. Un o egwyddorion allweddol arfer academaidd da yw cydnabod a chyfeirnodi gwaith eraill yn gywir. Ewch i'r dudalen Cyfeirnodi i gael arweiniad defnyddiol ar hyn a sut i'w gael yn iawn.

I gefnogi arfer academaidd da, ystyriwch:

  • Cymryd nodiadau da
    • Mae cymryd nodiadau da yn bwysig pan ddaw'n fater o astudio a gall hefyd eich helpu i gadw'n glir o lên-ladrad anfwriadol.
    • Edrychwch ar y dudalen Cymryd Nodiadau am awgrymiadau da!
  • Rheoli eich amser
    • Os ydych chi'n ysgrifennu traethodau a phrosiectau, mae'n syniad da defnyddio rhai technegau i wneud y gorau o'r amser sydd gennych chi, fel… 
      • Gwnewch restr o bethau i'w gwneud gyda therfynau amser
      • Cynlluniwch sut i ymdrin â phob tasg
      • Trefnwch amser ar gyfer gweithgareddau eraill hefyd
      • Trefnwch eich dogfennau
      • Gwobrwywch eich hun a chymerwch seibiannau ar ôl cwblhau tasgau
      • Bydd hyn yn eich helpu i gadw'n glir o lên-ladrad, oherwydd gallai rhuthro i orffen cyn dyddiad cyflwyno yr aseiniad arwain at beidio ag aralleirio neu gyfeirio'n gywir at wybodaeth bwysig.
  • Cyfeirnodi popeth
    • Er mwyn osgoi llên-ladrad, cyfeiriwch bob amser at eich ffynonellau
    • Ewch i'r dudalen Cyfeirnodi i gael arweiniad defnyddiol ar hyn a sut i'w gael yn iawn.
  • Gofyn i'ch Llyfrgellydd Pwnc am gyngor ac arweiniad ar ddatblygu eich sgiliau ymarfer academaidd da.

Mae methu â chadw at arfer ac ymddygiad academaidd da yn anfoesegol a gall arwain at gamau disgyblu.

Mae'r Brifysgol yn ystyried methiant i gadw at arferion academaidd da yn Ymddygiad Academaidd Annerbyniol. Ewch i'r adran Beth mae Ymddygiad Academaidd Annerbyniol yn ei olygu? am ragor o wybodaeth am hyn.

Mwy o wybodaeth:

Datganiad Prifysgol Aberystwyth ar Arfer Academaidd Da

Rheoliadau Prifysgol Aberystwyth ar Ymarfer Academaidd

Agweddau hanfodol o ymddygiad academaidd

Isod mae cyfres o ganllawiau ar agweddau penodol ar ymarfer academaidd. Gellir defnyddio'r canllawiau hyn unrhyw bryd yn ystod eich astudiaethau ac fe'u hargymhellir fel darllen hanfodol. Ar ôl edrych ar y canllawiau hyn, dylech eu cymharu'n uniongyrchol â chanllaw arddull eich adran i weld sut y gallwch unigoli unrhyw ran o'r wybodaeth i'ch anghenion astudio. Rydym hefyd yn defnyddio fersiynau estynedig o'r canllawiau hyn mewn cyrsiau i fyfyrwyr sydd angen arweiniad ychwanegol ar Ymddygiad Academaidd.

Beth yw Ymddygiad Academaidd Annerbyniol?

Beth yw Ymddygiad Academaidd Annerbyniol?

Mae rheoliadau'r Brifysgol ar arfer academaidd annerbyniol yn llym ac maent yn llywodraethu achosion lle honnir bod myfyriwr wedi ymgymryd ag ymarfer academaidd annerbyniol (yn fwriadol neu fel arall).

Mae’r diffiniad o ‘ymarfer academaidd annerbyniol’ yn amlochrog ond yn gyffredinol bydd yn cynnwys achosion o lên-ladrad honedig (e.e. defnyddio gwaith rhywun arall heb ei briodoli iddo), cynnal cyfeiriadau gwael neu annigonol, ailgylchu eich gwaith eich hun o asesiadau eraill, a hyd yn oed cydgynllwynio (h.y. gweithio gyda myfyriwr arall i gyflwyno ei waith fel eich gwaith eich hun, neu i’r gwrthwyneb).

Beth mae'r Brifysgol yn ei ddweud am Ymddygiad Academaidd Annerbyniol?

Mae'n Arfer Academaidd Annerbyniol i gyflawni unrhyw weithred lle gall person gael mantais nas caniateir, iddo'i hun neu i rywun arall.

Mae'r Brifysgol yn cydnabod y categorïau canlynol o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol. Nid yw'r rhain yn hollgynhwysfawr, a gall achosion eraill ddod o fewn y diffiniad cyffredinol o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.

Beth yw categorïau Ymddygiad Academaidd Annerbyniol?

(i) Llên-ladrad

Y diffiniad o lên-ladrad yw defnyddio gwaith rhywun arall a'i gyflwyno gan honni mai eich gwaith eich hun ydyw. Mae enghreifftiau o lên-ladrad yn cynnwys

  • dyfynnu heb ddefnyddio dyfynodau
  • copïo gwaith rhywun arall
  • cyfieithu gwaith rhywun arall heb gydnabod hynny
  • aralleirio neu addasu gwaith rhywun arall heb gydnabod hynny'n gywir
  • defnyddio deunydd wedi'i lawrlwytho o'r rhyngrwyd heb gydnabod hynny
  • defnyddio deunydd a gafwyd gan fanc traethodau neu asiantaethau tebyg
  • cyflwyno gwaith a gynhyrchwyd gan Ddeallusrwydd Artiffisial fel eich gwaith eich hun

(ii) Cydgynllwynio

  • Mae cydgynllwynio'n digwydd pan fydd gwaith a gyflawnir gan eraill neu gydag eraill yn cael ei gyflwyno gan honni mai gwaith un unigolyn ydyw.

(iii) Ffugio tystiolaeth neu ddata

  • Mae ffugio tystiolaeth neu ddata a/neu ddefnyddio tystiolaeth neu ddata o'r fath mewn gwaith i'w asesu yn cynnwys gwneud honiadau ffug mai chi gyflawnodd arbrofion, arsylwadau, cyfweliadau neu ddulliau eraill o grynhoi a dadansoddi data.

(iv) Ymddygiad Academaidd Annerbyniol mewn arholiadau ffurfiol

  • mynd ag unrhyw ffurf anawdurdodedig ar ddeunydd i mewn i ystafell arholi a/neu gyfleuster cysylltiedig
  • copïo gwaith gan, neu gyfathrebu ag, unrhyw berson arall yn yr ystafell arholi a/neu gyfleuster cysylltiedig
  • cyfathrebu'n electronig ag unrhyw un arall
  • esgus bod yn ymgeisydd penodol mewn arholiad neu ganiatáu i rywun arall gymryd eich lle gan esgus mai chi ydyw
  • cyflwyno sgript arholiad gan honni mai eich gwaith chi ydyw, er bod y sgript yn cynnwys deunydd a gynhyrchwyd trwy ddulliau anawdurdodedig
  • peidio â chydymffurfio â chyfarwyddiadau ysgrifenedig i ymgeiswyr mewn arholiadau ffurfiol, nac â chyfarwyddiadau llafar gan oruchwylwyr yr arholiadau

(v) Ailgylchu data neu destun

  • Ailgylchu data neu destun mewn mwy nag un asesiad, pan fo'r Adran yn benodol yn peidio â chaniatáu hyn.

Manylion llawn: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/regulations/uap/ 

Cyngor Undeb Myfyrwyr

Dolenni defnyddiol