Croeso Welcome

Llongyfarchiadau a chroeso i deulu Prifysgol Aberystwyth!

Rydym yn falch iawn eich bod wedi dewis ymuno â'n cymuned brifysgol ac edrychwn ymlaen at gwrdd â chi cyn hir. Bydd y tudalennau hyn, yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am y cyfnod cyn i chi gyrraedd, pan ydych yn cyrraedd a beth bydd yn cymryd lle yn ystod yr wythnosau a misoedd cyntaf yma yn Aber…

Dyddiadau allweddol ar gyfer CyrraeddAber

  • Wythnos Groeso'r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd: 2 Medi i 6 Medi 2024
  • Wythnos Groeso Gwyddorau Milfeddygol: 16 Medi i 20 Medi 2024
  • Penwythnos Cyrraedd Myfyrwyr Newydd: 20 Medi i 22 Medi 2024
  • Wythnos GroesoAber: 23 Medi i 27 Medi 2024

Dyddiadau'r Tymor

Dy Adran Academaidd

Mae eich Adran Academaidd methu aros i'ch croesawu ar ddechrau Wythnos Groeso Aber 2024 a thu hwnt.

Darganfyddwch yma am ble i fynd, gweithgareddau a digwyddiadau sydd wedi'u cynllunio i dy helpu i ymgartrefu, gwneud ffrindiau ac addasu i fywyd yn rhan o'ch adran newydd.

Bydd cyfleoedd yn ystod yr wythnos a thu hwnt i ddod i adnabod eich tiwtoriaid personol, a dysgu mwy am sut mae eich adran wedi ymrwymo i gefnogi eich llwyddiant academaidd a'ch datblygiad proffesiynol o'r cychwyn cyntaf.

Dy Adran Academaidd

CynAber – Cyn Cyrraedd

Wrth edrych ymlaen at gyrraedd Aber, dewch i weld y tasgau hanfodol y bydd angen i chi eu cwblhau cyn cyrraedd trwy restr wirio wedi'i theilwra a fideos fer gan ein myfyrwyr presennol, ynghyd â rhywfaint o wybodaeth ddefnyddiol cyn ymuno â'ch cymuned newydd.

Mae'r rhestrau gwirio a'r fideos byr wedi'u cynllunio i wneud pob cam o'ch taith wrth ymuno ag Aberystwyth mor esmwyth â phosibl.

CynAber – Cyn Cyrraedd

CaruAber – Ymgartrefu Estynedig

Dyma dy le i ddarganfod, i ddysgu ac i ddatblygu.

Wrth i chi ddechrau ymgyfarwyddo â'r brifysgol rydym am gefnogi eich cyfnod pontio i'r brifysgol, ac i chi ddod i adnabod y Brifysgol yn well. Mae CaruAber - ein themâu Ymgartrefu Estynedig yn canolbwyntio ar saith elfen allweddol a fydd yn eich galluogi i wneud y gorau o'ch amser gyda ni yn ystod eich cyfnod pontio.

Bydd gennym rai digwyddiadau wedi eu trefnu ynghylch y themau gwahanol, o Gefnogaeth a Lles Aber i Ieithoedd a Gyrfaoedd Aber. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein Cynllunydd Digwyddiadau Ymsefydlu.

CaruAber – Ymgartrefu Estynedig

Dy Wasanaethau Myfyrwyr

Mae Gwasanaethau Myfyrwyr yma i'ch helpu i fanteisio i'r eithaf ar dy amser ym Mhrifysgol Aberystwyth a gwneud y mwyaf o dy gyfleoedd ar ôl graddio. Gan weithio ar ar draws y Brifysgol ac efo gwasanaethau allanol, rydym yn cynnig amrywiaeth o gymorth ac adnoddau i bob myfyriwr, pa bynnag yr her yr wyt yn ei hwynebu.

Mae ein timau cyfeillgar ar gael drwy gydol y flwyddyn, o ddydd Llun i ddydd Gwener, i roi cyngor a chefnogaeth ar ystod eang o bynciau, gan gynnwys gofynion hygyrchedd, anghenion lles, cyngor ariannol, cymorth fisa a chanllawiau gyrfa.

Dy Wasanaethau Myfyrwyr

Dy Borth SgiliauAber

Mae SgiliauAber yn blatfform dwyieithog canolog sy'n darparu ystod gynhwysfawr o wybodaeth, cyngor, adnoddau a chefnogaeth sgiliau, oll wedi'u lleoli'n gyfleus mewn un lle. Mae'r platfform yn gweithredu fel siop-un-stop lle mae hawl i ti gael mynediad at wybodaeth a deunyddiau amrywiol i wella dy sgiliau academaidd, astudio a phroffesiynol. P'un ai'n chwilio am cymorth gydag ysgrifennu aseiniadau, mireinio galluoedd mathemategol ac ystadegol, neu gymryd rhan mewn gweithdai sy'n canolbwyntio ar arferion academaidd da, mae SgiliauAber yn cynnig gofod hawdd ei ddefnyddio i ti fel myfyriwr i ddatblygu a gwella agweddau amrywiol ar dy set sgiliau.

Gan weithio ar y cyd ag adrannau gwasanaethau sgiliau eraill y Brifysgol, mae SgiliauAber yn ymroddedig i feithrin twf personol ac academaidd, gan sicrhau bod gan fyfyrwyr fel ti yr adnoddau a'r gefnogaeth angenrheidiol i ragori yn dy hastudiaethau a thu hwnt.

Dy Borth SgiliauAber