Y Gyfraith
Trwy astudio am radd yn y Gyfraith byddwch yn meithrin galluoedd beirniadol ac ymarferol a fydd yn gymorth ac yn gefn ichi trwy gydol eich gyrfa.
Os ydych yn awyddus i wneud gwahaniaeth, fe wnewch fwynhau astudio'r gyfraith a dysgu am bynciau sy'n bwysig a chanolog i nifer o sectorau. Mae'r Gyfraith yn bwnc hynod ddiddorol sy'n cwmpasu sylfeini gwybodaeth gyfreithiol, pynciau o ddiddordeb byd-eang, a'r materion mwyaf dadleuol a chyfoes, ac yn rhoi cyfle i chi am lwybrau gyrfa o bob math. Fe ddatblygwch ddoniau meddwl, dadansoddi a datrys problemau, mewn adran sydd â thraddodiad balch o ysgolheictod ac ymchwil, yn dyddio'n ôl i 1901.
Mae'r Gyfraith yn bwnc sydd â bri iddo, ac mae galw am raddedigion y gyfraith mewn sawl sector. Bydd llawer yn mynd ymlaen i broffesiwn y gyfraith, ond os nad hwnnw yw'r llwybr gyrfa yr hoffech ei gymryd, bydd llawer o ddewisiadau eraill ar gael.
Pam astudio'r Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Mae'r Gyfraith wedi cael ei dysgu yn Aberystwyth ers 1901 ac mae wedi paratoi cenedlaethau o bobl o bob cwr o'r byd am yrfaoedd proffesiynol. Mae ein hanes hir yn tystio i dreiddgarwch ein haddysgu.
- Mae gennym amgylchfyd gwerth chweil o ysgogol a chefnogol i’w gynnig mewn adran ddeinamig, flaengar sydd â chyfoeth o brofiad, addysgu rhagorol, gweithgaredd ymchwil, ac adnoddau. Bydd y cwbl yn talu ar ei ganfed.
- Ers cenedlaethau, mae pobl o bob cwr o'r byd, gan gynnwys rhai o’r cyfreithwyr, gwleidyddion ac academyddion amlycaf, wedi astudio yma.
- Mae ein modiwlau wedi'u cynllunio i gyd-daro ag anghenion presennol cyflogwyr a'r proffesiynau cyfreithiol a chyfiawnder troseddol, ac rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ddatblygu eich doniau proffesiynol.
- Yn ogystal â lleoliadau gwaith, gallwch fanteisio ar gyfleoedd eraill i ddatblygu eich dawn ymarferol a chael profiad o waith yn ystod eich astudiaethau trwy gymryd rhan yn ein Clinig Cyfraith Teulu, trwy wirfoddoli yn ein prosiect ymchwil arloesol - Dewis/Choice - sy'n canolbwyntio ar gynorthwyo pobl oedrannus sy’n cael eu cam-drin, neu wirfoddoli gyda'n Prosiect Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr.
- Gallwch ymuno â'n cymdeithas ymrysona fywiog iawn ac ymarfer eich doniau cyfreithiol ac eirioli, wrth ddatblygu galluoedd mwy cyffredinol o ddadlau, trafod, a siarad yn gyhoeddus.