Troseddeg
Pam mae pobl yn troseddu? A ellir gwneud unrhyw beth i atal troseddu neu, os oes trosedd wedi’i chyflawni, i atal aildroseddu neu leihau lefelau aildroseddu?
Pa gamau ddylid eu cymryd i adsefydlu troseddwyr er mwyn sicrhau eu bod yn dod yn rhan o’r gymdeithas eto?
Os yw’r atebion i unrhyw un o'r cwestiynau hyn o ddiddordeb i chi, neu os oes cwestiynau gennych chi’ch hun, efallai mai Troseddeg yw'r pwnc i chi. Bydd gradd mewn Troseddeg yn rhoi cysyniadau a damcaniaethau allweddol ichi ar gyfer diffinio, ymchwilio, adnabod ac ymateb i droseddau a'r rhai sy'n cael eu cyhuddo neu sy’n euog o’u cyflawni.
Mae troseddegwyr yn rhoi sylw i gwestiynau megis beth yw trosedd, a sut mae troseddu wedi newid dros amser? Beth yw effeithiau'r labeli 'troseddwr' a 'dioddefwr'? Sut allwn ni leihau troseddu a mynd i'r afael yn iawn ag erledigaeth? A yw ein carchardai'n addas i'r diben? Yn Aberystwyth, rydyn ni'n rhoi cyfle i chi ehangu eich dychymyg troseddegol, dysgu sut mae ymchwil troseddegol yn cael ei gyflawni, a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i wneud eich gwaith ymchwil eich hun. Hoffem eich cynorthwyo i gyflawni eich potensial a bod yn Droseddegwr yn yr 21ain ganrif!
Pam astudio Troseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Rydym yn cynnig amgylchfyd gwerth chweil o ysgogol a chefnogol mewn adran ddeinamig, flaengar sy'n deall trosedd, effaith trosedd, a'r gyfundrefn Cyfiawnder Troseddol.
- Mae gan droseddegwyr yn Aberystwyth ddiddordeb arbennig ym mhrofiadau grwpiau penodol o fewn y gyfundrefn cyfiawnder troseddol neu grwpiau cysylltiedig, megis pobl ifanc, carcharorion dieuog, y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl, dioddefwyr, troseddwyr, llunwyr polisi, gweithwyr ym maes cyfiawnder troseddol ac ymarferwyr eraill.
- Mae ein modiwlau yn ymdrin â meysydd sy’n gynnwys seicoleg droseddol a fforensig, cyfiawnder ieuenctid, euogfarnau anghywir, plismona, seiberddiogelwch, terfysgaeth, cyffuriau a charcharu.
- Byddwch yn defnyddio damcaniaethau cymdeithasegol, seicolegol a throseddegol ac enghreifftiau o'r byd go iawn i edrych ar ganlyniadau cael eich labelu yn 'droseddwr', effaith trosedd ar ddioddefwyr a chymdeithas, ac i ddatgelu cymhellion y rhai sy'n troseddu, a’u rhoi yng nghyd-destun polisi ac atal troseddu.
- Gallwch astudio Troseddeg ochr yn ochr â'r Gyfraith, gan roi cipolwg i chi ar y fframwaith cyfreithiol sy'n effeithio ar y gyfundrefn cyfiawnder troseddol.
- Byddwch yn cael cyfle o bob math i ddatblygu doniau ymarferol a chael profiad uniongyrchol, a’r cwbl wrth ennill credydau tuag at eich gradd.
- Dysgwyd Troseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ers bron i ddau ddegawd ac mae gan yr Adran enw gwirioneddol dda am ansawdd y dysgu wedi’i gyfuno â throsglwyddo galluoedd craidd i wneud myfyrwyr yn fwy cyflogadwy.
- Trwy astudio Troseddeg rydych yn gallu datblygu pob math o sgiliau trosglwyddadwy, yn barod am eich gyrfa yn y gyfundrefn cyfiawnder troseddol a thu hwnt.