Seicoleg
Gwyddoniaeth y Meddwl ac Ymddygiad yw Seicoleg. Golyga hyn ei fod yn bwnc eang sy'n ceisio deall ymddygiad dynol, o'r esboniadau biolegol o'r ffordd y mae'r ymennydd yn gweithio i'r ddealltwriaeth gymdeithasol o'r ffordd rydym ni'n rhyngweithio gyda'n hamgylchedd ac yn addasu iddo, neu'n newid yn wybyddol wrth fynd yn hŷn.
Yn ymarferol, gall Seicoleg olygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Efallai ein bod yn awyddus i ddeall pam fod rhywun yn hapus neu'n unig, pam fod yr ymennydd yn cofio rhai pethau ddigwyddodd pan oeddem yn bump oed ond yn anghofio beth sydd ar y rhestr siopa heddiw, pam rydym ni'n dewis prynu'r pethau a brynwn, sut mae gwleidyddion yn ennill ein ffydd... neu beidio! Seicoleg yw'r holl bethau hyn a llawer mwy - dyna sy'n ei wneud mor ddiddorol - mae rhywbeth yn y pwnc at ddant pawb. P'un a ydych chi'n diddori mewn addysgu, cwnsela, ymddygiad troseddol neu ddysgu hedfan awyren - bydd agweddau ar seicoleg yn ddefnyddiol i chi.
Pam astudio Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Mae pob un o’n cyrsiau israddedig wedi’u hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS), marc ansawdd a gydnabyddir yn eang gan gyflogwyr yn y maes proffesiynol.
- Byddwch yn cael eich dysgu gan ymchwilwyr sy'n weithgar ym maes ymchwil mae gan y mwyafrif ohonynt TUAAU neu maent yn gymrodorion/uwch gymrodorion yn yr academi addysg uwch.
- Byddwch yn astudio meysydd pwnc craidd BPS megis seicoleg wybyddol, gymdeithasol, fiolegol, dulliau ymchwil a llawer mwy.
- Fel rhan o'r prosiect blwyddyn olaf byddwch yn cael arweiniad ym meysydd arbenigedd y staff, sef seicoleg ymarfer corff ac iechyd, seicoleg ddatblygiadol, seicoleg gymdeithasol, seicoleg fiolegol, iaith a dwyieithrwydd, cwnsela a mwy.