Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol
Mae astudio gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol yn hollbwysig i ddeall y byd cyfnewidiol sydd ohoni. Mewn cyfnod o argyfwng hinsawdd, pandemig byd-eang, ansicrwydd a chynnwrf gwleidyddol ac ideolegol, trawsnewidiadau cymdeithasol ac economaidd, a ffurfiau mwyfwy amrywiol o wrthdaro a thrais, mae lles pawb ynghlwm â mynd i'r afael â'r heriau byd-eang hyn. Mae'r byd hwn sy’n mynd yn fwy cyd-gysylltiedig, cystadleuol a chymhleth yn cael ei ail-lunio wrth i bwerau newydd ddatblygu ar y lefelau lleol, cenedlaethol, rhanbarthol, rhyngwladol a byd-eang.
Er mwyn eich cynorthwyo i ddeall y ddeinameg hon a magu eich hyder, mae ein cyrsiau yn eich annog i gwestiynu a herio syniadau ac arferion sefydledig. Drwy hynny, gellir datblygu dulliau newydd ac arloesol o feddwl am wleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol, ac o ymgysylltu â materion mewn ffyrdd a all drawsnewid ein cymdeithasau.
Pam astudio Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn Aberystwyth?
- Trwy’r dewis a’r hyblygrwydd yn ein cwricwlwm rydym yn rhoi ein myfyrwyr wrth wraidd eu profiad dysgu eu hunain. Oherwydd hyn gallwch deilwra eich gradd i'ch diddordebau eich hun.
- Bydd myfyrwyr yn archwilio ac yn mynd i'r afael â heriau byd-eang, o lefel leol i lefel y blaned gyfan, ac fe gyflwynir iddynt ffyrdd deinamig ac amrywiol o edrych ar y byd.
- Byddwch yn cael profiad o amrywiaeth o ddulliau dysgu ac addysgu sy’n arloesol a diddorol, o chwarae rhannau ac efelychiadau i weithdai a chyflwyniadau grŵp.
- Seilir ein haddysgu ar ymchwil rhagorol sy’n flaengar yn rhyngwladol a byd-eang.
- Byddwch yn datblygu cyfres o alluoedd sy'n hanfodol i’ch gwneud yn fwy cyflogadwy, yn amrywio o ddadansoddi a dadlau i roi cyflwyniadau ac ysgrifennu adroddiadau.
- Bydd myfyrwyr yn elwa o'r rhwydweithiau sydd gennym ledled y byd, ac yn cysylltu ag arbenigwyr sy’n weithredol yn y maes, yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.
- Caiff myfyrwyr fwynhau amrywiaeth o weithgareddau cyffrous, megis ein Gemau Argyfwng enwog i fyfyrwyr (efelychiadau), rhaglenni Cyfnewid Rhyngwladol, a Lleoliadau Seneddol.
- Mae'r Brifysgol yn croesawu myfyrwyr o bedwar ban byd ac mae hyn yn creu amgylchfyd bywiog ac eangfrydig er mwyn trafod a dysgu.
- Yn olaf, rydyn ni'n gymuned fywiog, agos atoch, ddeallusol mewn tref ddiogel, fforddiadwy a chyfeillgar.