Cymdeithaseg

Drwy ganolbwyntio ar batrymau ymddygiad dynol, y cysylltiadau cymdeithasol a ffurfir gan bobl a'r cymdeithasau a'r diwylliannau ehangach y maent yn byw ynddynt, mae cymdeithasegwyr yn ceisio deall sefydliadau cymdeithasol a sefydliadol a sut mae pobl yn gweithredu o fewn y cyd-destunau hyn. Trwy archwilio’r dirwedd wleidyddol ac ystyried materion cyfoes megis troseddu, addysg, lles cymdeithasol, anghydraddoldeb, crefydd, hil a rhywedd, a thrwy fabwysiadu safbwyntiau damcaniaethol a seiliedig ar dystiolaeth er mwyn dadansoddi cymdeithas, gall cymdeithasegwyr beri newid trawsffurfiol sy’n creu gwell byd i bawb. 

  • Pwyslais ar sgiliau ymarferol, yn y maes.
  • Addysg a arweinir gan ymchwil.

Pam astudio Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Rydym yn rhoi pwyslais ar werth ac arwyddocâd dulliau maes mewn Cymdeithaseg, gydag ymarferion maes yn cael eu hintegreiddio i fodiwlau darlithoedd 
  • Rydym yn integreiddio mwy o safbwyntiau cymhwysol wrth addysgu am themâu a chysyniadau allweddol Cymdeithaseg, er mwyn dangos arwyddocâd y maes yn y byd go iawn.  
  • Rydym yn defnyddio ein cryfderau ymchwil a sicrhau bod myfyrwyr yn agored i ddealltwriaethau damcaniaethol ac empirig arloesol o’r byd cymdeithasol. 

Cyflogadwyedd

Mae cymdeithaseg yn faes hynod ddiddorol , sy’n arwain at ystod eang o gyfleoedd gyrfa yn y sector cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys sefydliadau elusennol a gwirfoddol, yr heddlu a'r gwasanaethau prawf, gwaith cymunedol ac ieuenctid, addysg, llywodraeth leol a’r cyfryngau. 




Cyfleusterau

Mae'r gan myfyrwyr cymdeithaseg mynediad i'r Felin Drafod, sy'n ofod hyblyg lle caiff myfyrwyr gydweithio. Mae'r Felin Drafod yn lle i fyfyrwyr weithio ar brosiectau grŵp a phrosiectau unigol a chael elwa o gyswllt â staff a chyfleusterau’r adran. 

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang. 

 

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.