Ffiseg
Mae Ffiseg yn un o'r disgyblaethau gwyddonol hynaf a mwyaf sylfaenol, ond mae'n un sy'n dal i gyfrannu’n sylweddol i gymdeithas fodern, wrth i ddatblygiadau damcaniaethol fwydo i wyddorau newydd a meithrin technolegau modern.
Wrth ymchwilio i'r cysyniadau gwyddonol sy'n sail i'n bydysawd, fe welwch sut mae ffiseg yn cael ei chymhwyso ar draws gwahanol ddisgyblaethau a sut y gall ei chyfraniad at ddatblygiadau newydd mewn technoleg, peirianneg, meddygaeth a mathemateg gael effaith ar gymdeithas gyfan a bod o fudd iddi.
Pam astudio Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth?
- Dysgwyd Ffiseg yn Aberystwyth ers 150 o flynyddoedd, ers sefydlu'r brifysgol, ac mae'n dal i fod yn brofiad dysgu arloesol i bawb
- Mae'r rhan fwyaf o'n cyrsiau Ffiseg wedi'u hachredu gan y Sefydliad Ffiseg
- Cewch eich dysgu gan arbenigwyr yn eu maes, a darlithwyr sy'n weithgar mewn gwaith ymchwil, felly byddwch yn agored i'r syniadau a'r syniadau diweddaraf
- Byddwch yn meithrin sgiliau pwysig ar gyfer ymchwilio a dadansoddi data
- Ar ben hyn, byddwch yn ennill sgiliau cyfrifiadurol a mathemategol a fydd yn anhepgor ym myd gwaith
- Cewch gyfle i ymgymryd â phrosiect arbennig o'ch dewis eich hun o dan arweiniad arolygydd personol penodol er mwyn datblygu eich diddordebau arbenigol.