Marchnata

Mae gyrfa ym maes Marchnata yn ddewis dynamig ac egnïol, a'r maes ei hun yn llawn arloesi, creadigrwydd a gwneud penderfyniadau "greddfol" ar sail data. Bydd y rhan fwyaf o weithwyr proffesiynol sydd ar ddechrau eu gyrfa ym maes marchnata yn tueddu i fynd i faes marchnata digidol, ac, yn Aberystwyth, rydym yn sicrhau ein bod yn rhoi ichi'r sgiliau digidol a thraddodiadol hanfodol sydd eu hangen er mwyn gallu cynnig gwerth i gwmnïau o'ch diwrnod cyntaf fel gweithiwr proffesiynol.  

 

CIM
accreditation
  • Achredir y cwrs gan CIM  
  • 3ydd yn y Deyrnas Unedig am Fodlonrwydd Myfyrwyr ym mhwnc Marchnata (Complete University Guide 2024)
  • Graddau achrededig sy'n diwallu anghenion y diwydiant

Pam astudio Marchnata ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd yn Ganolfan Porth Graddedigion y CIM, sy'n golygu y gallwch astudio am gymhwyster y CIM wrth i chi astudio am radd, neu gael hepgor rhai elfennau o fodiwlau'r CIM yn y dyfodol.   
  • Cewch eich dysgu gan ymarferwyr o'r diwydiant ac academyddion profiadol sy'n ymwybodol o'r union alw - a'r galw mawr - am raddedigion yn y pwnc hwn, sy'n fedrus o ran yr agweddau technegol a'u dealltwriaeth o'r farchnad.   
  • Byddwch hefyd yn cael eich dysgu gan unigolion sy'n ymchwilio ar hyn o bryd, gan sicrhau eich bod yn cael eich cyflwyno i'r damcaniaethau a'r wybodaeth ddiweddaraf yn y maes.
  • Mae ein graddau wedi’u hachredu, sy’n golygu eu bod yn diwallu anghenion y diwydiant.
  • Cewch eich addysgu gan ddarlithwyr sy’n ymchwilwyr gweithredol ac ymarferwyr arbenigol yn eu dewis feysydd.
  • Byddwch hefyd yn derbyn cyngor arbenigol gan siaradwyr gwadd sy’n flaenllaw yn y diwydiant ac sy’n dod â’u profiad proffesiynol i’r ystafell ddosbarth.
“Rhoddodd fy ngradd marchnata gwybodaeth ddamcaniaethol a phrofiad ymarferol i mi sydd wedi bod yn hanfodol wrth lunio fy ngyrfa. Gwnaeth y cyfuniad o ddysgu yn y dosbarth a dysgu drwy weithdai ymarferol fy ngalluogi i ddefnyddio’r hyn a ddysgais mewn senarios byd go iawn. Fe wnaeth asesiadau tîm ymarferol fireinio fy sgiliau a dealltwriaeth o gysyniadau marchnata. Rhoddodd modiwlau ar frandio a marchnata digidol y sgiliau a’r mewnwelediadau yr wyf yn dal i ddibynnu ar heddiw.”
Caryl Angharad Jones Caryl Angharad Jones BSc Marchnata
“Mae rheoli pobl yn rhywbeth rwy'n teimlo i mi ragori arno yn Aberystwyth. Mae dysgu sut i arwain grŵp nad ydynt o reidrwydd yn ffitio gyda'i gilydd yn rhywbeth yr wyf wedi'i ddatblygu, oherwydd mae ymdrin â chleientiaid o lawer o wahanol sectorau o ddiwydiant, ar lefelau amrywiol yn eu cwmnïau priodol, ymdrin â chymysgedd o bobl bob dydd yn rhan bwysig o’m swydd ac yn sgil a ddysgais ac a ymarferais yn Aberystwyth. ”
Andrew Hepworth  Andrew Hepworth  BSc Marchnata

Cyflogadwyedd

Mae'r cyfleoedd ar ddechrau gyrfa i raddedigion Marchnata i'w canfod i raddau helaeth yn y maes digidol. Mae Marchnatwyr Digidol yn arloesi ac yn dylanwadu ar fyd busnes mewn amrywiaeth o ffyrdd, ac mae proffesiwn marchnata yn parhau i fod yn ddewis gyrfa gwahanol ac yn un y cewch eich gwobrwyo'n ariannol amdano. Yn ddiweddar mae ein graddedigion wedi cael swyddi gydag Acorn Digital (Shanghai), TravelPerk (Barcelona), Next, The Drum (Llundain), McGregor Boyall (Manceinion), Reckitt Benckiser, EE, ac Aegis Network (Llundain).  

Mae llawer o'n graddedigion wedi ystyried gyrfa fel: 

  • Swyddog Gweithredol Marchnata  
  • Ymchwilydd Marchnad  
  • Ysgrifennwr Copi Hysbysebu  
  • Cynllunydd Cyfrif Hysbysebu  
  • Cynllunydd Cyfryngau  
  • Prynwr Cyfryngau  
  • Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus. 

Cyfleusterau

Mae Refinitiv Workspace wedi'i ymgorffori’n rhan o nifer o fodiwlau craidd ar draws yr Ysgol Fusnes. Mae'n darparu gwybodaeth am gyfrifon cwmnïau, newyddion a dadansoddi ac yn efelychu'r amgylchedd masnachu. Darperir hyfforddiant hefyd ar feddalwedd cyfrifeg Sage a sut i ddefnyddio Excel. 

Astudio neu Weithio Dramor

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle i bob myfyriwr astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor am un semester, blwyddyn academaidd, neu am ychydig o wythnosau yn ystod gwyliau’r Brifysgol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i’n tudalen Cyfleoedd Byd-eang. 

Astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn Brifysgol ddwyieithog. A ninnau’n brifysgol flaenllaw yng Nghymru, rydym yn falch o gynnig gwasanaethau cymorth a neuaddau preswyl arbennig i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith, gan annog ymdeimlad o gymuned a chartref oddi cartref. Bydd y myfyrwyr sy’n gymwys yn cael ysgoloriaethau cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn awtomatig a gallant hefyd wneud cais am ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dysgwch fwy am ein Hysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg yma.